Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!

Beth yw’r newyddion da oddi wrth Dduw? Pam y dylen ni ei gredu? Mae’r llyfryn hwn yn ateb cwestiynau cyffredin am y Beibl.

Sut Mae Defnyddio’r Llyfryn Hwn

Bydd y llyfryn hwn yn eich helpu chi i ddysgu’n uniongyrchol o dudalennau Gair Duw, y Beibl. Gwelwch sut y gallwch gyfeirio at eich Beibl personol i ddarllen yr adnodau sydd wedi eu dyfynnu.

GWERS 1

Beth Yw’r Newyddion Da?

Dysgwch beth yw’r newyddion oddi wrth Dduw, pam mae’n fater o frys, a beth y dylech chi ei wneud.

GWERS 2

Pwy Yw Duw?

A oes gan Dduw enw? A oes ganddo ddiddordeb ynom?

GWERS 3

Ai Neges Duw Yw’r Newyddion Da?

Sut y gallwn ni fod yn sicr bod neges y Beibl yn wir?

GWERS 4

Pwy Yw Iesu Grist?

Dysgwch pam roedd rhaid i Iesu farw, beth yw’r pridwerth, a beth mae Iesu yn ei wneud nawr.

GWERS 5

Beth Yw Bwriad Duw ar Gyfer y Ddaear?

Mae’r Beibl yn egluro pam y creodd Duw’r ddaear, pa bryd y daw dioddefaint i ben, a beth y dylen ni ei ddisgwyl yn y dyfodol ar gyfer y ddaear a’r bobl sy’n byw arni.

GWERS 6

Beth Yw Gobaith y Meirw?

Beth sy’n digwydd inni pan rydyn ni’n marw? A fydden ni’n gweld ein hanwyliaid marw eto?

GWERS 7

Beth Yw Teyrnas Dduw?

Pwy yw Brenin Teyrnas Dduw, a beth bydd y Deyrnas yn ei gyflawni?

GWERS 8

Pam Mae Duw yn Caniatáu Dioddefaint?

Sut daeth drygioni i’r byd, a pham mae Duw wedi caniatáu iddo bara mor hir? A fydd terfyn ar ddioddefaint rywbryd?

GWERS 9

Sut Gallwch Chi Fod yn Hapus Fel Teulu?

Mae’r Duw hapus, Jehofah, yn dymuno i deuluoedd fod yn hapus. Darganfyddwch y cyngor ymarferol sydd yn y Beibl ar gyfer gwŷr, gwragedd, rhieni, a phlant.

GWERS 10

Sut Gallwch Chi Wybod Pa Grefydd Sy’n Iawn?

Ai dim ond un grefydd sy’n iawn? Ystyriwch y pum nod adnabod ar wir addoliad.

GWERS 11

Sut Mae’r Beibl yn Ein Helpu?

Eglurodd Iesu pam mae angen arweiniad arnon ni, a chyfeiriodd at y ddwy brif egwyddor yn y Beibl.

GWERS 12

Sut Gallwch Chi Nesáu at Dduw?

Darganfyddwch a yw Duw yn gwrando ar bob gweddi, sut dylen ni weddïo, a beth arall allwn ni ei wneud i nesáu at Dduw.

GWERS 13

Beth Yw’r Newyddion Da am Grefydd?

A ddaw amser pan fydd pawb ar y ddaear yn addoli’r unig wir Dduw?

GWERS 14

Pam Mae gan Dduw Gyfundrefn?

Mae’r Beibl yn datgelu pam a sut mae gwir Gristnogion wedi eu trefnu.

GWERS 15

Pam Dylech Chi Ddal Ati i Ddysgu am Jehofah?

Sut gall eich gwybodaeth am Dduw a’i Air helpu pobl eraill? Pa fath o berthynas y gallwch chi ei chael â Duw?