Fideos Sy’n Cyflwyno Llyfrau’r Beibl

Ffeithiau am pob un o llyfrau’r Beibl.

Cyflwyniad i Genesis

Mae llyfr Genesis yn rhoi gwybodaeth bwysig ynglŷn â tharddiad dynolryw, a hefyd tarddiad pechod a marwolaeth.

Cyflwyniad i Exodus

Gwnaeth Duw achub yr Israeliaid o gaethiwed yn yr Aifft, a’u trefnu nhw i fod yn genedl a oedd wedi ei chysegru iddo.

Cyflwyniad i Lefiticus

Gweler sut mae Lefiticus yn disgrifio sancteiddrwydd Duw a pham mae hi mor bwysig i ni fod yn sanctaidd hefyd.

Cyflwyniad i Numeri

Gweld pa mor hanfodol yw ufuddhau i Jehofa a pharchu’r rhai y mae’n eu penodi i arwain ei bobl.

Cyflwyniad i Deuteronomium

Gweld sut roedd Cyfraith Jehofa i’r Israeliaid yn adlewyrchu ei gariad mawr tuag at ei bobl.

Cyflwyniad i Josua

Gweld sut gwnaeth yr Israeliaid goncro a dosbarthu’r tir rhoddodd Duw iddyn nhw.

Cyflwyniad i Barnwyr

Mae’r llyfr cyffrous hwn wedi cael ei enw ar ôl y dynion ffyddlon y gwnaeth Duw eu defnyddio i achub Israel o’u gormeswyr.

Cyflwyniad i Ruth

Mae llyfr Ruth yn sôn am hanes gweddw ifanc a wnaeth ddangos cariad anhunanol at ei mam yng nghyfraith a sut gwnaeth Jehofa gwobrwyo’r ddwy ohonyn nhw.

Cyflwyniad i 1 Samuel

Gweld hanes Israel o adeg y Barnwyr i’r cyfnod o dan reolaeth y brenhinoedd.

Cyflwyniad i 2 Samuel

Dysgu am Dafydd—un o’r cymeriadau mwyaf annwyl ac adnabyddus yn y Beibl oherwydd ei ffydd a’i ostyngeiddrwydd.

Cyflwyniad i 1 Brenhinoedd

Dilyn hanes Israel o’i gogoniant ac ysblander o dan y Brenin Solomon, hyd at yr oes gythryblus gyda’r ddwy deyrnas o Israel o Jwda.

Cyflwyniad i 2 Brenhinoedd

Gweld effaith ddrwg gwrthgiliad ar deyrnas ogleddol Israel, wrth i Jehofa fendithio’r ychydig rai a oedd yn ei addoli’n ffyddlon.

Cyflwyniad i 1 Cronicl

Dilyn hanes teuluol a bywyd cyffrous y Brenin Dafydd o’r adeg daeth yn frenin dros Israel hyd at ei farwolaeth.

Cyflwyniad i 2 Cronicl

Gweld sut mae hanes brenhinoedd Jwda yn pwysleisio pa mor werthfawr ydy bod yn ffyddlon i Dduw.

Cyflwyniad i Esra

Mae Jehofa yn cadw ei addewidion i ryddhau ei bobl o Fabilon ac ailsefydlu gwir addoliad yn Jerwsalem.

Cyflwyniad i Nehemeia

Mae llyfr Nehemeia yn cyflwyno gwersi ymarferol i bob un sy’n addoli Duw heddiw.

Cyflwyniad i Esther

Bydd y digwyddiadau dramatig yn oes Esther yn cryfhau dy ffydd yng ngallu Jehofa Dduw i waredu Ei bobl rhag treialon yn ein hoes ni.

Cyflwyniad i Job

Bydd pawb sy’n caru Jehofa yn cael eu profi. Mae hanes Job yn cadarnhau ein bod ni’n gallu aros yn ffyddlon i Jehofa a chefnogi ei sofraniaeth.

Cyflwyniad i’r Salmau

Mae’r Salmau yn cefnogi sofraniaeth Jehofa, yn helpu ac yn cysuro’r rhai sy’n ei garu, ac yn dangos sut y bydd y ddaear yn cael ei thrawsnewid trwy gyfrwng y Deyrnas.

Cyflwyniad i’r Diarhebion

Arweiniad dwyfol ar bron pob agwedd o fywyd bob dydd—o faterion busnes i fywyd teuluol.

Cyflwyniad i Lyfr y Pregethwr

Mae’r Brenin Solomon yn dangos pa bethau sy’n wirioneddol bwysig mewn bywyd ac yn eu cymharu â phethau sy’n mynd yn groes i ddoethineb Dwyfol.

Cyflwyniad i Ganiad Solomon

Disgrifir y cariad cryf y mae’r Shwlames yn ei deimlo tuag at ei bugail fel “fflam Jah.” Pam?

Cyflwyniad i Eseia

Mae llyfr Eseia yn cynnwys proffwydoliaethau manwl gywir a all gryfhau dy ffydd yng ngallu Jehofa i gyflawni ei addewidion ac i achub ei bobl.

Cyflwyniad i Jeremeia

Arhosodd Jeremeia’n ffyddlon yn ei aseiniad fel proffwyd er gwaethaf cyfnodau anodd. Meddylia am sut gall ei esiampl helpu Cristnogion heddiw.

Cyflwyniad i Galarnad

Y proffwyd Jeremeia a ysgrifennodd lyfr y Galarnad, sy’n mynegi tristwch dros ddinistr Jerwsalem ac sy’n dangos sut mae edifeirwch yn arwain at drugaredd dwyfol.

Cyflwyniad i Eseciel

Roedd Eseciel yn ostyngedig ac yn ddewr wrth gyflawni pob aseiniad oddi wrth Dduw, hyd yn oed pan oedd hynny’n anodd iawn. Mae ei esiampl yn werthfawr iawn inni heddiw.

Cyflwyniad i Daniel

Daniel a’i gyfeillion yn aros yn ffyddlon i Jehofa ym mhob sefyllfa. Gall eu hesiampl ynghyd â chyflawni’r broffwydoliaeth ein helpu ni heddiw, yn ystod amser y diwedd.

Cyflwyniad i Hosea

Mae proffwydoliaeth Hosea yn cynnwys gwersi pwysig inni heddiw ynglŷn â thrugaredd Jehofa tuag at ddrwgweithredwyr edifeiriol a’r math o addoliad mae ef yn ei haeddu.

Cyflwyniad i Joel

Gwnaeth Joel broffwydo am ddydd mawr Jehofa a sut i’w oroesi. Mae ei broffwydoliaeth yn hynod o berthnasol inni heddiw.

Cyflwyniad i Amos

Defnyddiodd Jehofa y dyn gostyngedig hwn ar gyfer gwaith pwysig. Pa wersi ymarferol gallwn ni eu dysgu o esiampl Amos?

Cyflwyniad i Obadeia

Llyfr Obadeia yw llyfr byrraf yr Ysgrythurau Hebraeg. Mae’r broffwydoliaeth yn rhoi gobaith ac yn addo y bydd brenhiniaeth Jehofa yn cael ei chyfiawnhau.

Cyflwyniad i Jona

Gwnaeth y proffwyd dderbyn disgyblaeth, cyflawni ei aseiniad, a dysgu gwers bwysig am gariad ffyddlon a thrugaredd Duw. Bydd ei brofiadau yn cyffwrdd dy galon.

Cyflwyniad i Micha

Mae’r broffwydoliaeth ysbrydoledig hon yn ein gwneud ni’n sicr fod yr hyn y mae Jehofa yn ei ofyn gennyn ni yn rhesymol ac yn fuddiol.

Cyflwyniad i Nahum

Mae’r broffwydoliaeth yn ein gwneud ni’n sicr bod Jehofa yn wastad yn cyflawni ei air a’i fod yn cysuro pawb sy’n ceisio heddwch ac achubiaeth o dan ei Deyrnas.

Cyflwyniad i Habacuc

Cawn hyder yn y ffaith fod Jehofa bob amser yn gwybod pryd ydy’r amser cywir a’r ffordd gywir i achub ei bobl.

Cyflwyniad i Seffaneia

Pam dylen ni gadw rhag meddwl na fydd dydd barn Jehofa yn dod?

Cyflwyniad i Haggai

Mae’r broffwydoliaeth yn pwysleisio’r pwysigrwydd o roi’r flaenoriaeth i addoli Duw yn hytrach na buddion personol.

Cyflwyniad i Sechareia

Cafodd pobl Dduw eu hatgyfnerthu gan nifer o weledigaethau a phroffwydoliaethau ysbrydoledig yn y gorffennol. Mae’r proffwydoliaethau hyn yn parhau i’n sicrhau ni o gefnogaeth Jehofa heddiw.

Cyflwyniad i Malachi

Mae’n broffwydoliaeth am natur digyfnewid egwyddorion, trugaredd, a chariad Jehofa. Mae’r broffwydoliaeth hefyd yn ein dysgu ni am sut i ddelio â phroblemau pob dydd.

Cyflwyniad i Mathew

Mwynha ddysgu ffeithiau am y llyfr hwn yn y Beibl, y cyntaf o’r pedair Efengyl.

Cyflwyniad i Marc

Marc yw’r llyfr byrraf o’r pedair Efengyl sy’n rhoi cipolwg ar Iesu yn rheoli fel Brenin dros Deyrnas Dduw yn y dyfodol.

Cyflwyniad i Luc

Pa wybodaeth unigryw sydd yn Efengyl Luc?

Cyflwyniad i Actau’r Apostolion

Mae’r Cristnogion cynnar yn gweithio’n galed i wneud disgyblion o bobl o bob cenedl. Gall llyfr yr Actau dy helpu i feithrin dy sêl a dy frwdfrydedd dros y weinidogaeth.

Cyflwyniad i Rhufeiniaid

Cyfarwyddyd ysbrydoledig ynglŷn â natur ddiduedd Jehofa a phwysigrwydd rhoi ffydd yn Iesu Grist.

Cyflwyniad i 1 Corinthiaid

Mae llythyr Paul yn cynnwys cyngor ysbrydoledig ynglŷn ag undod, glendid moesol, cariad, a chred yn yr atgyfodiad.

Cyflwyniad i 2 Corinthiaid

Mae Jehofa, y “Duw sy’n cysuro,” yn atgyfnerthu a chynnal ei weision.

Cyflwyniad i Galatiaid

Mae llythyr Paul at y Galatiaid yr un mor berthnasol heddiw ag oedd pan gafodd ei ysgrifennu. Mae’n gallu helpu pob gwir Gristion i aros yn ffyddlon.

Cyflwyniad i Effesiaid

Mae’r llythyr ysbrydoledig hwn yn amlygu bwriad Duw i ddod â heddwch ac undod drwy Iesu Grist.

Cyflwyniad i Philipiaid

Pan ydyn ni’n dyfalbarhau er gwaethaf treialon, gallwn annog eraill i sefyll yn gadarn.

Cyflwyniad i Colosiaid

Gallwn blesio Jehofa drwy roi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu, drwy faddau i eraill yn rhwydd, a thrwy gydnabod rôl ac awdurdod Iesu.

Cyflwyniad i 1 Thesaloniaid

Mae angen inni aros yn effro yn ysbrydol, ‘pwyso a mesur’ pob peth, ‘dal ati i weddïo,’ ac annog ein gilydd.

Cyflwyniad i 2 Thesaloniaid

Mae Paul yn cywiro syniad anghywir am bryd y daw dydd Jehofa, ac mae’n annog y brodyr i sefyll yn gadarn yn y ffydd.

Cyflwyniad i 1 Timotheus

Ysgrifennodd yr apostol Paul 1 Timotheus er mwyn gosod trefniadau yn y gynulleidfa, ac i rybuddio yn erbyn gau ddysgeidiaethau a chariad tuag at arian.

Cyflwyniad i 2 Timotheus

Mae Paul yn annog Timotheus i gyflawni ei weinidogaeth.

Cyflwyniad i Titus

Mae llythyr Paul at Titus yn cyfeirio at y problemau yn y cynulleidfaoedd yn Creta, ac yn disgrifio’r cymwysterau ysbrydol ar gyfer henuriad.

Cyflwyniad i Philemon

Mae’r llythyr byr hwn yn cynnwys gwersi pwerus am ostyngeiddrwydd, caredigrwydd, a maddeuant.

Cyflwyniad i Hebreaid

Mae addoliad Cristnogol wedi ei seilio ar bethau llawer uwch na themlau llythrennol ac aberthu anifeiliaid.

Cyflwyniad i Iago

Mae Iago yn defnyddio darluniau geiriol i ddysgu egwyddorion pwysig Cristnogol.

Cyflwyniad i 1 Pedr

Mae llythyr cyntaf Pedr yn ein hannog i fod yn weithgar ac i roi ein holl bryderon i Dduw.

Cyflwyniad i 2 Pedr

Mae ail lythyr Pedr yn ein hannog i aros yn ffyddlon wrth inni aros am y nefoedd newydd a’r ddaear newydd.

Cyflwyniad i 1 Ioan

Mae llythyr Ioan yn ein rhybuddio rhag yr anghrist, ac yn ein helpu i weld beth y dylen ni garu a beth ddylen ni beidio â charu.

Cyflwyniad i 2 Ioan

Mae ail lythyr Ioan yn ein hatgoffa ni i gerdded yn y gwir ac i warchod ein hunain rhag twyllwyr.

Cyflwyniad i 3 Ioan

Mae trydydd llythyr Ioan yn dysgu gwers hyfryd ynglŷn â lletygarwch Cristnogol.

Cyflwyniad i Jwdas

Mae Jwdas yn esbonio ac yn datgelu sut mae rhai yn ceisio twyllo a llygru Cristnogion.

Cyflwyniad i Datguddiad

Mae’r gweledigaethau pwerus yn Datguddiad yn dangos sut bydd Teyrnas Dduw yn cyflawni pwrpas Duw ar gyfer dynolryw a’r ddaear.