Ymroi i Ddarllen a Dysgu
Diben y llyfryn hwn yw dy helpu di i wella dy allu i siarad, i ddysgu, ac i ddarllen yn gyhoeddus.
Llythyr Oddi Wrth y Corff Llywodraethol
Rydyn ni’n dysgu y neges bwysicaf erioed.
GWERS 2
Arddull Sgyrsiol
Mae arddull sgyrsiol yn helpu dy gynulleidfa i deimlo’n gyfforddus ac yn barod i dderbyn dy neges.
GWERS 3
Defnyddio Cwestiynau
Gofynna gwestiynau caredig i ennyn diddordeb ac i dynnu sylw at bwyntiau pwysig.
GWERS 4
Cyflwyno’r Ysgrythurau yn Gywir
Dysga sut i baratoi meddyliau dy wrandawyr cyn darllen adnod.
GWERS 5
Darllen yn Gywir
Mae darllen yn gywir yn sgìl hanfodol er mwyn cyflwyno gwybodaeth am Jehofa.
GWERS 6
Cymhwyso’r Adnodau yn Effeithiol
Helpa dy wrandawyr i gysylltu yr adnodau rwyt ti’n eu darllen â’r pwynt rwyt ti’n ei wneud.
GWERS 7
Gwybodaeth Gywir a Dibynadwy
Bydd tystiolaeth gywir a dibynadwy yn helpu dy wrandawyr i ddod i’r casgliad cywir.
GWERS 8
Eglurebau Sy’n Dysgu
Cyfoethoga dy ddysgu drwy ddefnyddio eglurebau syml ac apelgar sy’n esbonio’r pwyntiau pwysig.
GWERS 9
Deunydd Gweledol Priodol
Defnyddia ddeunydd gweledol i wneud argraff ar feddyliau dy wrandawyr.
GWERS 10
Goslef y Llais
Amrywia uchder, traw, a chyflymder dy lais er mwyn cyffwrdd ag emosiynau dy gynulleidfa a’u hannog i weithredu.
GWERS 11
Brwdfrydedd
Mae brwdfrydedd yn cyfleu dy deimladau cryf ac yn helpu i ddal sylw dy wrandawyr.
GWERS 12
Cynhesrwydd a Chydymdeimlad
Os wyt yn siarad o’r galon, rwyt yn dangos dy fod ti’n caru dy wrandawyr.
GWERS 13
Dangos Gwerth Ymarferol y Deunydd
Helpa dy wrandawyr i weld sut mae’r pwnc yn effeithio arnyn nhw, a dangosa sut gallan nhw ddefnyddio’r wybodaeth yn eu bywydau.
GWERS 14
Gwneud i’r Prif Bwyntiau Sefyll Allan
Helpa dy gynulleidfa i ddilyn trywydd dy anerchiad ac eglura sut mae pob prif bwynt yn cysylltu â nod a thema’r anerchiad.
GWERS 15
Siarad Gydag Argyhoeddiad
Siarada gydag argyhoeddiad. Dangosa dy fod ti’n credu’n gryf bod dy neges yn wir ac yn bwysig.
GWERS 16
Yn Adeiladol ac yn Gadarnhaol
Bydda’n adeiladol nid yn feirniadol. Tynna sylw at wirioneddau yng Ngair Duw sy’n codi’r galon.
GWERS 17
Yn Hawdd ei Ddeall
Helpa dy wrandawyr i ddeall dy neges. Dysga bwyntiau allweddol mewn ffordd glir.
GWERS 18
Gwybodaeth Sydd o Ddefnydd i Dy Wrandawyr
Gwna i dy wrandawyr feddwl am y pwnc a’u helpu nhw i ddysgu rhywbeth gwerthfawr.
GWERS 20
Diweddglo Effeithiol
Bydd diweddglo effeithiol yn apelio at dy wrandawyr i dderbyn yr hyn maen nhw wedi ei ddysgu.
Cofnoda Dy Gynnydd
Cofnoda dy gynnydd wrth i ti wella dy sgiliau darllen a dysgu.
Efallai Byddwch Hefyd yn Hoffi
CYFRES FIDEO
Ymroi i Ddarllen a Dysgu—Fideos
Datblygu sgiliau hanfodol ar gyfer darllen a dysgu’n gyhoeddus.