Neidio i'r cynnwys

Efelychu Eu Ffydd​—Dod â Chymeriadau’r Beibl yn Fyw

Mae’r gyfres hon yn gwneud i hanes dynion a merched y Beibl a ddangosodd ffydd ryfeddol ddod yn fyw. a Gall y cymeriadau Beiblaidd hyn a’u hesiamplau o ffydd eich helpu chi i adeiladu eich ffydd eich hunain ac agosáu at Dduw.

Gallwch chi ddysgu mwy o esiamplau pobl ffyddlon yn y Beibl drwy wylio’r gyfres o fideos dan y teitl Efelychu Eu Ffydd.

a Er mwyn eich helpu i ddychmygu’r golygfeydd ac ymgolli yn hanesion eu ffydd, mae erthyglau’r gyfres yn cynnwys rhai manylion sydd ddim yn y Beibl. Mae’r manylion wedi cael eu hymchwilio’n fanwl er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gyson â hanes y Beibl yn ogystal â chofnodion hanesyddol a darganfyddiadau archaeolegol.

O'r Dilyw hyd at y Waredigaeth o'r Aifft

Job—Yn Ffyddlon Trwy’r Cwbl

Sut gall hanes Job yn y Beibl ein helpu ni i ymdopi ag adfyd a phethau eraill sy’n rhoi prawf ar ein ffydd?

Job​—Fe Wnaeth Jehofa Leddfu ei Boen

Nid oes dim yn digio Satan yn fwy, na phlesio Jehofa’n fwy na’n gweld ni’n efelychu ffydd Job!

Miriam​—‘Canwch i Jehofa’!

Cafodd Miriam y broffwydes ei hysbrydoli i arwain merched Israel mewn cân o fuddugoliaeth wrth ymyl y Môr Coch. Mae ei bywyd yn esiampl wych o ddewrder, ffydd, a gostyngeiddrwydd.

O Frenin Cyntaf Israel hyd at Enedigaeth Iesu

Jonathan​—Ni All Dim Rwystro Jehofa

Aeth Jonathan a’i was i’r llyfrau hanes drwy ymosod ar fintai gyfan o filwyr arfog.

Dafydd a Jonathan​—“Daeth y Ddau yn Ffrindiau Gorau”

Sut daeth dau ddyn mor wahanol o ran oedran a chefndir i fod yn ffrindiau mor agos? Sut gall eu hanes nhw eich helpu chi i fod yn ffrind da?

Elias—Daliodd Ati Hyd y Diwedd

Gall esiampl ffyddlon Elias ein helpu ni i ddal ati ac i gryfhau ein ffydd yn ystod amserau anodd.

O Enedigaeth Iesu hyd at Farwolaeth yr Apostolion

Mair Magdalen​—“Dw i Wedi Gweld yr Arglwydd!”

Cafodd y ddynes ffyddlon hon y fraint o rannu’r newyddion da ag eraill.