Neidio i'r cynnwys

HYDREF 15, 2024
BETH SY’N NEWYDD

Newid i’r Gofynion Oedran Isaf ar Gyfer Ehangu Ein Gwasanaeth Wedi Ei Gyhoeddi yn y Cyfarfod Blynyddol

Newid i’r Gofynion Oedran Isaf ar Gyfer Ehangu Ein Gwasanaeth Wedi Ei Gyhoeddi yn y Cyfarfod Blynyddol

Yng nghyfarfod blynyddol y Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania a gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2024, cyhoeddwyd bod y gofynion oedran isaf ar gyfer gwneud cais i wasanaethu yn Bethel neu ar ein prosiectau adeiladu wedi newid o 19 oed i 18 oed. Hefyd, mae’r oedran isaf ar gyfer gwneud cais i fynd i’r Ysgol ar Gyfer Pregethwyr y Deyrnas wedi newid o 23 oed i 21 oed.

Mae’r newidiadau cyffrous hyn i ddechrau ar unwaith. Maen nhw’n creu mwy o gyfleoedd i frodyr a chwiorydd ifanc cymwys ehangu eu gwasanaeth i Jehofa.