Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Beth Ddylwn i Wybod am Amldasgio?

Beth Ddylwn i Wybod am Amldasgio?

 Sut mae dy sgiliau amldasgio?

 Wyt ti’n gwybod sut i amldasgio—gwneud sawl peth ar yr un pryd? Mae llawer yn meddwl bod y rhai sy’n tyfu fyny gyda thechnoleg—a elwir weithiau yn “frodorion digidol”—yn gallu amldasgio yn well na “mewnfudwyr digidol,” sef y rhai hynach sydd wedi mabwysiadu technoleg yn hwyrach mewn bywyd. Ond ydy hynny’n wir?

 GWIR neu GAU?

  •   Wrth amldasgio byddi di’n arbed amser.

  •   Gydag ymarfer, gelli di wella dy sgiliau amldasgio.

  •   Gall pobl ifanc amldasgio yn well na phobl hŷn.

 Os mai “gwir” oedd dy ateb i unrhyw un o’r honiadau hynny, efallai dy fod ti wedi cael dy dwyllo gan y “myth o amldasgio.”

 Y myth o amldasgio

 Wyt ti’n meddwl y gelli di wneud dau beth ar yr un pryd heb golli ffocws? Efallai bod hynny’n bosib i gyda rhai tasgau. Er enghraifft, os wyt ti’n gwrando ar gerddoriaeth wrth lanhau dy ystafell, mae’n debyg bydd dy ystafell yn edrych yn iawn.

 Ond pan fyddi di’n ceisio gwneud dau beth sydd angen iti ganolbwyntio arnyn nhw, bydd y ddau yn debygol o ddioddef. Efallai dyna pam mae dynes ifanc o’r enw Katherine yn diffinio amldasgio fel hyn: “Y gallu i wneud llanast o bopeth ar yr un pryd.”

 “O’n i’n siarad â rhywun ac yna ges i neges destun o’n i angen ymateb iddi. Wnes i geisio gwneud y ddau beth. O ganlyniad, wnes i fethu’r rhan fwyaf o’r hyn dywedodd y person oedd yn siarad, a wnes i gamsillafu bron pob gair yn fy neges.”Caleb

 Ysgrifennodd arbenigwr technoleg Sherry Turkle: “Pan ’dyn ni’n meddwl ’dyn ni’n amldasgio, . . . Bydd ein perfformiad yn dirywio gyda phob tasg newydd ’dyn ni’n ei hychwanegu. Mae amldasgio yn stimiwleiddio’r ymennydd ac yn gwneud inni deimlo’n llawn egni, gan wneud inni feddwl ein bod yn gwneud yn well ac yn well, pan ydyn ni mewn gwirionedd yn gwneud yn waeth ac yn waeth.” a

 “Weithiau bydda i’n meddwl fy mod i’n gwneud job ardderchog o decstio un person tra mod i’n siarad â pherson arall, nes mod i’n sylweddoli fy mod i wedi ateb y neges destun allan yn uchel ond dw i wedi tecstio yr hyn oedd i fod yn ateb ar lafar!”Tamara.

 Mae pobl sy’n amldasgio yn gwneud bywyd yn anodd iddyn nhw eu hunain heb fod eisiau. Er enghraifft, fel arfer mae’n cymryd yn hirach iddyn nhw orffen eu gwaith cartref. Neu efallai y bydd rhaid iddyn nhw dreulio amser yn ail-wneud gwaith oedden nhw’n meddwl eu bod nhw wedi gorffen. Beth bynnag, mae amldasgwyr yn diweddu gyda llai o amser i wneud y pethau roedden nhw eisiau eu gwneud!

 Mae gan y seicotherapydd a’r cynghorydd ysgol Thomas Kersting reswm da dros ddweud: “Os ydych chi’n edrych ar yr ymennydd fel cwpwrdd ffeiliau sydd yn storio gwybodaeth yn dwt, mae ymennydd amldasgwyr cyson, fel cwpwrdd ffeiliau anhrefnus.” b

 “Mwya’n byd o dasgau wyt ti’n ceisio gwneud ar yr un pryd, mwya’n byd o fanylion pwysig sy’n gallu cael ei anghofio. Yn y diwedd efallai dy fod ti’n creu mwy o waith i ti dy hun a gwastraffu’r amser oeddet ti’n meddwl dy fod ti wedi arbed.”—Teresa.

Mae ceisio amldasgio fel ceisio gyrru ar ddwy lon ar yr un pryd

 Ffordd well

  •   Hyffordda dy hun i ganolbwyntio ar un dasg ar y tro. Gall hynny fod yn dipyn o her, yn enwedig os wyt ti wedi arfer cyfuno gweithgareddau—anfon neges destun pan wyt ti’n gwneud dy waith cartref er enghraifft. Ond mae’r Beibl yn dweud wrthon ni i “ddewis y peth gorau i’w wneud.” (Philipiaid 1:10) Mae rhai tasgau yn bwysicach nag eraill. Felly penderfyna pa dasg ydy’r mwyaf pwysig, a chanolbwyntia ar y dasg honno nes ei bod wedi ei gwblhau.

     “Mae meddwl heb ffocws yn debyg i blentyn ifanc; weithiau bydd rhaid dweud ‘na chei’ wrtho, er y byddai’n ymddangos yn haws jest i ildio i’w ddymuniad.”—Maria.

  •   Cael gwared ar bethau sy’n tynnu ein sylw. Wyt ti’n cael dy demtio i edrych ar dy ffôn tra dy fod ti’n astudio? Rho’r ffôn mewn ystafell arall. Diffodda’r teledu, a phaid hyd yn oed â meiddio meddwl am gyfryngau cymdeithasol! Mae’r Beibl yn dweud: “Defnyddiwch eich amser yn y ffordd gorau y gallwch chi.”—Colosiaid 4:5, Easy-to-Read Version.

     “Dw i wedi dod i’r casgliad ei bod gymaint yn well imi ganolbwyntio ar un peth ar y tro. Dw i wrth fy modd pan alla i fynd yn ôl at fy rhestr i groesi allan y dasg honno a symud at yr un nesaf. Dw i’n galw hynny’n llwyddiant.”—Onya.

  •   Canolbwyntia pan fyddi di’n sgwrsio. Gall edrych ar dy ffôn wrth siarad â rhywun gael effaith ddrwg ar y sgwrs a dod drosodd yn anghwrtais. Mae’r Beibl yn ein hannog i drin eraill yn y ffordd y bydden ninnau’n hoffi cael ein trin.—Mathew 7:12.

     “Weithiau wrth siarad â’m chwaer, bydd hi’n tecstio rhywun neu wneud rhywbeth arall ar ei ffôn. Mae hynny’n codi ngwrychyn i! Ond i fod yn deg, dw i yr un mor euog weithiau!”—David.

a O’r llyfr Reclaiming Conversation.

b O’r llyfr Disconnected.