CWESTIYNAU POBL IFANC
Pam Ceisio Tynnu Ymlaen Gyda Fy Mrodyr a Chwiorydd?
“Y ffrindiau gwaethaf gorau”
Mae brodyr a chwiorydd wedi cael eu disgrifio fel “dy ffrindiau gwaethaf gorau.” Rwyt ti’n eu caru nhw ac maen nhw’n dy garu di, ond weithiau mae’n anodd tynnu ymlaen. “Mae fy mrawd ieuengaf yn mynd ar fy nerfau,” meddai Helena sy’n 18 mlwydd oed. “Mae o’n gwybod yn union sut i fy ngwylltio a gwneud imi golli ’nhymer!”
Gyda sgiliau cyfathrebu syml ac ychydig o drafodaeth, fel arfer mae modd datrys anghytundeb rhwng brodyr a chwiorydd. Er enghraifft:
Efallai bydd dau frawd yn rhannu ystafell ac yn ffraeo dros ddiffyg preifatrwydd. Beth ydy’r ateb? Cyfaddawdu a dysgu parchu ffiniau. Rho ar waith yr egwyddor o’r Beibl sydd i’w gweld yn Luc 6:31.
Efallai bydd dwy chwaer yn “benthyg” dillad ei gilydd heb ofyn. Yr ateb? Trafoda’r peth a gosod ffiniau rhesymol. Rho ar waith yr egwyddor o’r Beibl sydd i’w gweld yn 2 Timotheus 2:24.
Mewn rhai achosion, mae canlyniadau’r problemau rhwng brodyr a chwiorydd yn fwy difrifol. Ystyria ddwy esiampl yn y Beibl:
Roedd Miriam ac Aaron yn genfigennus o’u brawd Moses, ac roedd y canlyniadau’n drist. Darllena’r hanes yn Numeri 12:1-15. Yna, gofynna i ti dy hun: ‘Sut galla’ i beidio â bod yn genfigennus o fy mrawd neu fy chwaer?’
Tyfodd dicter yng nghalon Cain nes iddo lofruddio ei frawd Abel. Darllena’r hanes yn Genesis 4:1-12. Yna, gofynna i ti dy hun: ‘Sut galla’ i reoli fy nhymer wrth ddelio â fy mrawd neu fy chwaer?’
Dau reswm i aros yn ffrindiau
Waeth pa mor anodd yw dod ymlaen â dy frodyr a chwiorydd, mae o leiaf ddau reswm pam mae’n werth yr ymdrech.
Mae’n dangos dy fod ti’n aeddfedu. “Ar un adeg, roedd gen i dymer fel matsien efo fy chwiorydd bach,” meddai dyn ifanc o’r enw Alex. “Ond rŵan dw i’n llawer mwy tawel ac amyneddgar. Rhaid mod i wedi tyfu i fyny.”
Mae’r Beibl yn dweud: “Mae rheoli’ch tymer yn beth call iawn i’w wneud; ond mae colli’ch tymer yn dangos eich bod yn ddwl.”—Diarhebion 14:29.
Mae’n ymarfer da ar gyfer y dyfodol. Os na elli di ymdopi â ffaeleddau dy frodyr a chwiorydd, sut byddi di’n gallu tynnu ymlaen gyda gŵr neu wraig, gyda chyd-weithwyr a chyflogwyr, neu gydag unrhyw un arall?
Ffaith: Bydd dy allu i gyfathrebu a thrafod yn effeithio ar dy berthynas ag eraill yn y dyfodol. Does dim lle gwell i ymarfer y sgiliau hyn na’r teulu.
Mae’r Beibl yn dweud: “Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb.”—Rhufeiniaid 12:18.