Neidio i'r cynnwys

CWESTIYNAU POBL IFANC

Sut Galla i Hyfforddi Fy Nghydwybod?

Sut Galla i Hyfforddi Fy Nghydwybod?

 Pa un o’r canlynol gall dy gydwybod fod yn debyg iddo?

  •   cwmpawd

  •   drych

  •   ffrind

  •   barnwr

 Yr ateb cywir yw pob un. Bydd yr erthygl hon yn esbonio pam.

 Beth yw’r gydwybod?

 Dy gydwybod yw’r teimlad tu mewn o beth sy’n dda neu’n ddrwg. Mae’r Beibl yn dweud ei bod hi fel cyfraith sydd wedi ei hysgrifennu ar y galon. (Rhufeiniaid 2:15) Mae cydwybod dda yn dy helpu di i bwyso a mesur rhywbeth rwyt ti ar fin ei wneud, neu rwyt ti eisoes wedi ei wneud.

  •   Mae dy gydwybod fel cwmpawd. Mae’n dy arwain di yn y cyfeiriad iawn er mwyn iti allu osgoi trwbwl.

  •   Mae dy gydwybod fel drych. Mae’n adlewyrchu dy foesau, ac yn datgelu sut berson wyt ti ar y tu mewn.

  •   Mae dy gydwybod fel ffrind da. Gall roi cyngor da iti a dy helpu di i lwyddo—os wyt ti’n gwrando arni.

  •   Mae dy gydwybod fel barnwr. Mae’n dy gyhuddo di pan wyt ti’n gwneud rhywbeth drwg.

Gall cydwybod dda dy helpu i wneud penderfyniadau doeth

 Y gwir yw: Mae dy gydwybod yn adnodd angenrheidiol sy’n gallu dy helpu i (1) gwneud penderfyniadau da a (2) dangos dy fod ti’n difaru ac eisiau gwneud yn iawn am dy gamgymeriadau.

 Pam hyfforddi dy gydwybod?

 Mae’r Beibl yn dweud, ‘cadw eich cydwybod yn lân.’ (1 Pedr 3:16, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Mae hynny’n anodd ei wneud os nad wyt ti wedi hyfforddi dy gydwybod.

 “Byddwn i’n dweud celwyddau wrth fy rhieni am le o’n i, ac yn ei gadw’n gyfrinach. I gychwyn oedd fy nghydwybod yn fy mhigo, ond dros amser o’n i’n teimlo doedd dim byd o’i le efo beth o’n i’n ei wneud.”—Jennifer.

 Yn y pen draw, gwnaeth cydwybod Jennifer wneud iddi stopio twyllo ei rhieni a dweud wrthyn nhw beth oedd yn mynd ymlaen.

 Rhywbeth i’w ystyried: Ar ba adeg gynharach gallai cydwybod Jennifer fod wedi ei phigo?

 “Mae arwain bywyd dwbl yn anodd ac yn achosi lot o straen. Unwaith mae dy gydwybod wedi caniatáu iti wneud un penderfyniad drwg, mae’n haws iti wneud penderfyniad drwg arall.”—Matthew.

 Mae rhai pobl yn anwybyddu eu cydwybod yn gyfan gwbl. Mae’r Beibl yn dweud, “does dim byd yn codi cywilydd arnyn nhw.” (Effesiaid 4:19) Neu yn ôl cyfieithiad J. Williams Hughes, maen nhw “wedi colli pob gallu i gywilyddio am fod yn euog.”

 Rhywbeth i’w ystyried: Pan nad ydy pobl yn teimlo’n euog am wneud pethau drwg, ydyn nhw’n wir yn hapusach eu byd? Pa broblemau byddan nhw’n debyg o ddod ar eu traws?

 Y gwir yw: Er mwyn iti gael cydwybod dda, mae’n rhaid “dod i arfer gwahaniaethu rhwng y drwg a’r da.”—Hebreaid 5:14.

 Sut gelli di hyfforddi dy gydwybod?

 Er mwyn hyfforddi dy gydwybod, mae angen safon i anelu ato. Mae rhai pobl yn dilyn safonau . . .

  •   teulu a diwylliant

  •   cyfoedion

  •   pobl enwog

 Ond mae safon y Beibl yn llawer gwell na’r rhain i gyd. Dydy hynny ddim yn syndod gan mai “Duw sydd wedi ysbrydoli’r” Beibl, yr Un sydd wedi ein creu ni ac sy’n gwybod beth sydd orau inni.—2 Timotheus 3:16.

 Ystyria rhai enghreifftiau.

 Y SAFON: “Byw yn onest ym mhob peth.”—Hebreaid 13:18, Beibl Cysegr-lân.

  •   Sut gall y safon honno effeithio ar dy gydwybod pan gei di dy demtio i dwyllo ar brawf, i ddweud celwyddau wrth dy rieni, neu i ddwyn?

  •   Os ydy dy gydwybod yn dy gymell i fod yn onest ym mhob peth, sut rwyt ti’n meddwl y byddi di’n elwa nawr ac yn y dyfodol?

 Y SAFON: “Gwnewch bopeth allwch chi i osgoi anfoesoldeb rhywiol.”—1 Corinthiaid 6:18.

  •   Sut gall y safon honno effeithio ar dy gydwybod pan gei di dy demtio i edrych ar bornograffi neu i gael rhyw cyn priodi?

  •   Os ydy dy gydwybod yn dy gymell i wneud popeth gelli di i osgoi anfoesoldeb rhywiol, sut byddi di’n elwa nawr ac yn y dyfodol?

 Y SAFON: “Eich lle chi ydy bod yn garedig, yn dyner gyda’ch gilydd, a maddau i’ch gilydd.”—Effesiaid 4:32.

  •   Sut gall y safon honno ddylanwadu arnat ti pan fyddi di’n anghytuno â rhywun yn y teulu neu ffrind?

  •   Os ydy dy gydwybod yn dy gymell i fod yn drugarog ac yn garedig, sut byddi di’n elwa nawr ac yn y dyfodol?

 Y SAFON: “Mae’r ARGLWYDD yn . . . casáu y rhai drwg a’r rhai sy’n hoffi trais.”—Salm 11:5.

  •   Sut dylai’r safon honno ddylanwadu ar dy ddewis o ffilmiau, rhaglenni teledu, a gemau fideo?

  •   Os ydy dy gydwybod yn dy gymell i wrthod adloniant treisgar, sut byddi di’n elwa nawr ac yn y dyfodol?

 STORI WIR: “Mae gen i ffrindiau oedd yn chwarae gemau fideo treisgar, ac o’n innau hefyd. Wedyn, dyma fy nhad yn dweud doeddwn i ddim yn cael chwarae’r gemau hynny ddim mwy. Felly oeddwn i ond yn chwarae nhw pan oeddwn i’n mynd i weld fy ffrindiau. O’n i’n cadw’n ddistaw am y peth ar ôl mynd adref. Byddai Dad yn gofyn beth sy’n bod arna i, a byddwn i’n dweud bod popeth yn iawn. Ond, un diwrnod, wnes i ddarllen Salm 11:5 a dechrau teimlo’n ddrwg am beth o’n i’n ei wneud. Sylweddolais fod rhaid imi stopio chwarae’r gemau fideo hynny. A’r tro yma, mi wnes i. O weld fy esiampl, cafodd un o fy ffrindiau hefyd ei gymell i stopio chwarae gemau fideo treisgar.”—Jeremy.

 Rhywbeth i’w ystyried: Pryd wnaeth cydwybod Jeremy ddechrau gweithio, a phryd wnaeth ef ddechrau gwrando arni? Beth rwyt ti’n ei ddysgu o stori Jeremy?

 Y gwir yw: Mae dy gydwybod yn dangos pwy wyt ti a beth sy’n bwysig iti. Beth mae dy gydwybod yn ei ddweud amdanat ti?