CWESTIYNAU POBL IFANC
Sut Galla’ i Osgoi Meddyliau Negyddol?
Sut fath o berson wyt ti?
Optimistig
“Dw i’n trio bod mor hapus a bodlon â phosib. Dw i’n ceisio byw fy mywyd efo gwên ar fy wyneb bob diwrnod.”—Valerie.
Pesimistig
“Dw i’n amau unrhyw beth positif ar unwaith—mae’n rhy dda i fod yn wir neu mae ’na gamgymeriad.”—Rebecca.
Realistig
“Mae bod yn optimistig yn arwain at siom, ac mae bod yn besimistig yn ffordd drist o fyw. Mae bod yn realistig yn helpu imi weld pethau fel y maen nhw.”—Anna.
Pam mae’n bwysig?
Mae’r Beibl yn dweud bod “bodlonrwydd fel gwledd ddiddiwedd.” (Diarhebion 15:15) Yn amlwg, mae pobl sy’n osgoi meddyliau negyddol ac sydd ag agwedd bositif tuag at fywyd yn tueddu bod yn hapusach. Fel arfer mae ganddyn nhw fwy o ffrindiau hefyd. Wedi’r cwbl, pwy sydd eisiau treulio amser gyda phobl sydd o dan gwmwl du drwy’r adeg?
Ond, mae’n rhaid i hyd yn oed y bobl fwyaf positif wynebu pethau anodd mewn bywyd. Er enghraifft:
Gall y newyddion dy fombardio di gydag adroddiadau o ryfel, terfysgaeth, neu drosedd.
Efallai fod rhaid iti ddelio gyda phroblemau yn y teulu.
Mae’n debyg dy fod ti’n cystadlu gyda dy amherffeithrwydd neu wendidau dy hun.
Efallai fod ffrind wedi dy frifo di.
Yn hytrach nag anwybyddu’r problemau—neu obsesu drostyn nhw nes iti ddigalonni—ceisia fod yn gytbwys. Bydd agwedd realistig yn dy helpu di i beidio â gor-feddwl mewn ffordd negyddol, ac i dderbyn problemau bywyd heb gael dy lethu ganddyn nhw.
Beth elli di ei wneud?
Cadwa’r agwedd gywir tuag at dy wendidau.
Mae’r Beibl yn dweud: “Does neb drwy’r byd i gyd mor gyfiawn nes ei fod yn gwneud dim ond da, a byth yn pechu.” (Pregethwr 7:20) Mae’r ffaith bod gen ti wendidau ac yn gwneud camgymeriadau yn dangos dy fod ti’n normal, nid dy fod ti’n fethiant.
Sut i fod yn realistig: Gweithia ar dy wendidau, ond cofia dwyt ti ddim yn berffaith. “Dwi’n trio peidio â chanolbwyntio ar fy ngwendidau,” meddai dyn ifanc o’r enw Caleb. “Yn lle hynny, dw i’n trio dysgu ohonyn nhw a gweld ym mha ffordd galla’ i wella.”
Paid â chymharu.
Mae’r Beibl yn dweud: “Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocio’n gilydd a bod yn eiddigeddus o’n gilydd.” (Galatiaid 5:26) Mae edrych ar luniau o’r holl ddigwyddiadau gest ti ddim gwahoddiad iddyn nhw yn gallu gwneud iti deimlo’n chwerw. Mae’n gallu gwneud iti ystyried dy ffrindiau gorau fel gelynion.
Sut i fod yn realistig: Derbyn y ffaith nad wyt ti am gael gwahoddiad i bob digwyddiad. A beth bynnag, dydy lluniau ar gyfryngau cymdeithasol ddim yn dangos y darlun cyfan. “Fel arfer, dim ond y pethau cyffrous sy’n cael eu dangos ar gyfryngau cymdeithasol,” meddai Alexis, merch yn ei harddegau. “Dydyn nhw ddim yn dangos y pethau diflas.”
Ceisia gadw’r heddwch—yn enwedig yn dy deulu.
Mae’r Beibl yn dweud: “Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb.” (Rhufeiniaid 12:18) Elli di ddim rheoli ymddygiad pobl eraill, ond gelli di reoli dy ymateb. Gelli di ddewis cadw’r heddwch.
Sut i fod yn realistig: Bydda’n benderfynol o beidio ag ychwanegu at densiwn yn y teulu, ond o fod yn heddychlon fel byddet ti gyda dy ffrindiau. “Does neb yn berffaith, ’dyn ni i gyd am godi gwrychyn ein gilydd bob hyn a hyn,” dywedodd Melinda sydd yn ei harddegau. “’Dyn ni jest angen penderfynu sut ’dyn ni am ymateb—ydyn ni am gadw’r heddwch ta beidio?”
Bydda’n ddiolchgar.
Mae’r Beibl yn dweud: “Byddwch yn ddiolchgar.” (Colosiaid 3:15) Bydd agwedd ddiolchgar yn dy helpu di i ganolbwyntio ar bethau da yn dy fywyd yn hytrach nag ar bopeth sy’n mynd yn chwithig.
Sut i fod yn realistig: Cydnabod dy broblemau, ond paid ag anwybyddu’r pethau da yn dy fywyd. “Bob diwrnod, dw i’n ysgrifennu un peth positif yn fy nyddiadur,” dywedodd un ddynes ifanc o’r enw Rebecca. “Dw i eisiau atgoffa fy hun bod gen i lawer o bethau positif i feddwl amdanyn nhw ar y cyfan.”
Dewisa dy ffrindiau’n ofalus.
Mae’r Beibl yn dweud: “Mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.” (1 Corinthiaid 15:33) Os wyt ti’n treulio amser gyda phobl sy’n feirniadol, yn sarcastig, neu’n chwerw, bydd eu hagwedd negyddol yn dylanwadu arnat tithau.
Sut i fod yn realistig: Bydd dy ffrindiau yn wynebu cyfnodau anodd, ac am gyfnod efallai y bydden nhw’n ddigalon. Cefnoga nhw, ond paid â dy golli dy hun yn eu problemau nhw. “Dylen ni beidio â threulio gormod o amser gyda phobl sydd ag agwedd negyddol,” dywedodd un ddynes ifanc o’r enw Michelle. “Ym mathemateg, os wyt ti’n adio dau rif negatif at ei gilydd, ti ond yn cael rhif mwy negatif.”
Darllen am bethau positif
Mae’r Beibl yn dweud ein bod ni’n byw mewn adeg “ofnadwy o anodd.” (2 Timotheus 3:1) Wyt ti’n ei chael hi’n anodd cadw agwedd bositif mewn byd mor negatif? Darllena “Pam Mae Pobl yn Dioddef?”