CWESTIYNAU POBL IFANC
Beth os Dydy Pobl Ddim yn Fy Nerbyn I?
“Elli di ddim bod yn wahanol i bawb arall neu bydd gen ti ddim ffrindiau, dim bywyd, a dim dyfodol. Bydd neb yn dy gofio di, a byddi di ar ben dy hun.”—Carl.
Dros ben llestri? Efallai. Ond eto, bydd rhai pobl yn gwneud unrhyw beth i osgoi’r sefyllfa mae Carl yn ei disgrifio. A fyddi di? Bydd yr erthygl yma yn dy helpu i ffeindio ffordd well o wneud ffrindiau.
Pam mae pobl eisiau cael eu derbyn gan eraill?
Oherwydd dydyn nhw ddim eisiau cael eu gwrthod. “Wnes i weld lluniau ar gyfryngau cymdeithasol o grŵp oedd wedi mynd allan a gwneud pethau hebdda’ i. Roedd hynny’n gwneud imi amau beth oedd yn bod efo fi, ac o’n i’n mynd o’m cof yn meddwl doeddwn i ddim yn ddigon da iddyn nhw.”—Natalie.
RHYWBETH I’W YSTYRIED: Wyt ti erioed wedi teimlo dy fod ti ddim yn rhan o grŵp? Beth wnest ti, os unrhyw beth, i geisio bod yn rhan o’r grŵp yna?
Oherwydd dydyn nhw ddim eisiau bod yn wahanol. “Dydy fy rhieni ddim yn gadael imi gael ffôn symudol. Pan mae plant eraill yn gofyn am fy rhif a dw i’n dweud wrthyn nhw does gen i ddim ffôn, maen nhw’n dweud: ‘Beth? Faint ’di dy oed di?’ Pan dw i’n dweud fy mod i’n 13, maen nhw’n teimlo bechod drosta’ i.”—Mary.
RHYWBETH I’W YSTYRIED: Ydy dy rieni yn gosod rheolau sy’n gwneud iti deimlo’n wahanol i eraill? Sut wyt ti’n delio gyda’r rheolau hynny?
Oherwydd dydyn nhw ddim eisiau cael eu bwlio. “Dydy plant ysgol ddim yn hoffi unrhyw un sy’n ymddwyn yn wahanol, siarad yn wahanol, neu hyd yn oed addoli’n wahanol. Os dwyt ti ddim fel pawb arall, mae gen ti darged ar dy gefn.”—Olivia.
RHYWBETH I’W YSTYRIED: Wyt ti erioed wedi cael dy gam-drin oherwydd doeddet ti ddim yr un fath â phawb arall? Sut wnest ti ddelio gyda’r sefyllfa?
Oherwydd dydyn nhw ddim eisiau colli eu ffrindiau. “Wnes i drio addasu i ba bynnag grŵp o’n i ynddo. O’n i’n siarad fel oedden nhw. O’n i’n chwerthin am bethau doedd ddim yn ddoniol. Oeddwn i hyd yn oed yn ymuno pan oedden nhw’n chwerthin am ben rhywun arall, yn gwybod yn iawn bod o’n brifo nhw.”—Rachel.
RHYWBETH I’W YSTYRIED: Pa mor bwysig yw hi i eraill dy hoffi di? Wyt ti erioed wedi newid dy bersonoliaeth er mwyn cael dy dderbyn gan eraill?
Beth ddylet ti ei wybod?
Gall trio cael dy dderbyn gan eraill ar unrhyw gyfri achosi problemau. Pam?
Mae’n gallu gweithio’n groes i’r disgwyl. Pam? Oherwydd mae pobl yn aml yn gallu gweld dy fod ti’n cogio. “Oeddwn i’n cael fy nerbyn yn llai gan eraill yn yr ysgol pan o’n i’n esgus bod yn rhywun arall,” meddai Brian, sy’n 20 oed. “Wnes i ddysgu bod hi’n well i fod yn ti dy hun, oherwydd mae pobl yn gwybod os wyt ti’n smalio.”
GAIR I GALL: Ailystyria dy flaenoriaethau. Mae’r Beibl yn dweud i “ddewis y peth gorau i’w wneud.” (Philipiaid 1:10) Felly, gofynna i ti dy hun, ‘Beth ydy’r peth gorau—cael fy nerbyn gan bobl sydd â gwerthoedd gwahanol i fi, neu fod yn fi fy hun?’
“Mae trio bod fel pobl eraill yn wastraff amser. Fydd pobl ddim yn dy hoffi di’n fwy, a fyddi di ddim yn berson gwell chwaith.”—James.
Mae’n gallu tagu dy bersonoliaeth. Gelli di gael enw am seboni ac am newid i blesio pobl eraill. “Ar un adeg, o’n i’n arfer gwneud beth bynnag oedd rhaid er mwyn bod yn rhan o grŵp arbennig, a’r gost oedd colli fy enw da,” meddai dyn ifanc o’r enw Jeremy. “Roedd hynny’n golygu bod pobl eraill yn rheoli fi. O’n i fel pyped iddyn nhw.”
GAIR I GALL: Bydda’n sicr o dy werthoedd personol a chadw atyn nhw, yn hytrach na bod fel camelion sy’n newid lliw yn ôl ei amgylchiadau. Am reswm da mae’r Beibl yn dweud: “Paid dilyn y dorf.”—Exodus 23:2.
“O’n i’n trio hoffi popeth oedden nhw’n hoffi—cerddoriaeth, gemau, dillad, rhaglenni teledu, mathau o golur . . . O’n i eisiau bod fel nhw. Dw i’n meddwl gwnaeth pawb weld heibio’r perfformiad—gan gynnwys fi. Yn y pen draw, o’n i’n teimlo’n wag ac yn unig, doeddwn i ddim yn ’nabod fy hun ddim mwy. Doedd gen i ddim personoliaeth bellach. Dw i wedi dysgu wnei di ddim clicio efo pawb, na phlesio pawb chwaith. Dydy hynny ddim yn golygu dylet ti roi’r gorau i wneud ffrindiau; jest rho amser i ti dy hun i dyfu.”—Melinda.
Mae’n gallu effeithio ar dy ymddygiad. Gwelodd un dyn ifanc o’r enw Chris fod hyn yn wir am ei gefnder. “Dechreuodd wneud pethau doedd o ddim wedi gwneud o’r blaen—fel cymryd cyffuriau—jest i fod yn rhan o’r grŵp,” meddai Chris. “Aeth yn hollol gaeth i gyffuriau, a bu bron iddo ddifetha ei fywyd.”
GAIR I GALL: Cadwa draw rhag pobl sy’n adlewyrchu safonau gwael yn eu hiaith a’u gweithredoedd. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth, ond mae cadw cwmni ffyliaid yn gofyn am drwbwl.”—Diarhebion 13:20.
“Weithiau, mae’n dda i estyn allan a gwneud ymdrech i wneud ffrindiau. Ond ddylet ti byth gwneud hynny os mae’n golygu gwneud rhywbeth ti’n gwybod sy’n ddrwg. Bydd ffrindiau da yn dy dderbyn di fel wyt ti.”—Melanie.
Awgrym: Wrth iti geisio cyfarfod pobl newydd a gwneud ffrindiau, paid â meddwl dim ond am bobl sydd â’r un diddordebau â ti. Edrycha am bobl sy’n rhannu’r un gwerthoedd â ti—dy ddaliadau ysbrydol a moesol.