A Wnaeth y Beibl Ragfynegi Meddylfryd ac Ymddygiad Pobl Heddiw?
Ateb y Beibl
Do, rhagfynegodd y Beibl y byddai pobl yn gyffredinol yn newid er gwaeth yn ystod ein hamser ni. Byrdwn ei neges yw y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn gwrthod y safonau moesol uchel a’r gwerthoedd sy’n helpu pobl i fyw yn heddychlon â’i gilydd. a (2 Timotheus 3:1-5) Ond rhagfynegodd y Beibl hefyd na fyddai pawb yn ildio i’r dirywiad cymdeithasol hwn. Yn hytrach, gyda help Duw, byddai rhai yn gweithio i wrthsefyll dylanwadau negatif a newid eu meddyliau a’u gweithredoedd fel eu bod nhw’n unol â’i ewyllys ef.—Eseia 2:2, 3.
Yn yr erthygl hon
Beth ragfynegodd y Beibl am y ffordd mae pobl yn meddwl ac yn ymddwyn heddiw?
Mae’r Beibl yn disgrifio amryw nodweddion negatif a mathau o ymddygiad a fyddai’n dod yn gyffredin. Mae pob un o’r nodweddion hynny wedi eu gwreiddio mewn hunanoldeb. Byddai pobl “heb hunanreolaeth,” “yn eu caru eu hunain,” ac “yn caru pleser yn hytrach na charu Duw.”—2 Timotheus 3:2-4.
Yn unol â’r broffwydoliaeth honno, mae pobl heddiw yn llawn ohonyn nhw eu hunain, ac ond yn meddwl am sut y byddan nhw ar eu hennill, beth fydd yn gwneud iddyn nhw deimlo’n dda, beth fydd yn rhoi ystyr i’w bywydau nhw, ac yn y blaen. Mae’r nodweddion hyn mor gyffredin mae rhai grwpiau wedi cael eu galw’n Genhedlaeth y Fi Fawr, neu hyd yn oed Cenhedlaeth y Fi Fi Fi. Mae rhai pobl mor hunanol eu bod nhw “heb gariad at ddaioni,” dydyn nhw ddim hyn yn oed yn gallu caru rhinweddau da. Ac am eu bod “yn anniolchgar,” dydyn nhw ddim yn teimlo’r angen i ddiolch am yr hyn sydd ganddyn nhw nac am beth mae eraill yn ei wneud drostyn nhw.—2 Timotheus 3:2, 3.
Hunanoldeb sydd wrth wraidd agweddau eraill sy’n arwydd o’n cyfnod ni:
Barus. Dydy pobl sydd “yn caru arian” ddim yn anghyffredin—yn aml byddan nhw’n mesur eu llwyddiant mewn bywyd wrth eu hincwm neu eu heiddo.—2 Timotheus 3:2.
Balch. Mae llawer “yn frolgar, yn ffroenuchel,” ac “yn llawn balchder.” (2 Timotheus 3:2, 4) Mae pobl fel hyn yn camliwio’r ffeithiau ynglŷn â’u galluoedd, eu rhinweddau, neu eu cyfoeth ac yn brolio amdanyn nhw.
Enllibus. Mae pobl sydd “yn cablu” ac “enllibwyr” i’w cael ym mhob man heddiw. (2 Timotheus 3:2, 3) Gall yr ymadroddion hyn gyfeirio at y rhai sy’n bwrw sen ar bobl eraill neu ar Dduw neu sy’n dweud celwydd amdanyn nhw.
Ystyfnig. Mae llawer “yn anffyddlon,” “yn gwrthod cytuno â phobl eraill,” “yn fradwyr” ac “yn ystyfnig.” (2 Timotheus 3:2-4) Maen nhw’n dangos y ffaeleddau hyn drwy wrthod cyfaddawdu, peidio â cheisio datrys problemau, neu gadw eu haddewidion.
Treisgar. Heddiw, mae llawer “yn ffyrnig,” yn colli eu tymer yn hawdd, sydd yn aml yn arwain at ymddygiad creulon neu dreisgar.—2 Timotheus 3:3.
Digyfraith. Rhagfynegodd Iesu y byddai “anghyfraith yn cynyddu” yn ein dyddiau ni. (Mathew 24:12, troednodyn) Hefyd fe wnaeth ef ddarogan y byddai ‘cynnwrf’ neu ‘wrthryfeloedd.’—Luc 21:9, troednodyn.
Diffyg cariad teuluol. Does gan y rhai sydd “yn anufudd i’w rhieni” ddim ‘cariad naturiol’ tuag at y teulu. Canlyniad hyn yw’r twf mewn esgeulustod, camdriniaeth, a thrais yn y cartref.—2 Timotheus 3:2, 3.
Crefydd ragrithiol. Mae nifer cynyddol o bobl “yn honni eu bod nhw’n gwasanaethu Duw,” ond rhywbeth allanol ydy hyn yn unig. (2 Timotheus 3:5) Yn hytrach nag ufuddhau i ewyllys Duw, maen nhw’n dilyn arweinwyr crefyddol sy’n dweud wrthyn nhw yr hyn maen nhw eisiau ei glywed.—2 Timotheus 4:3, 4.
Pa effaith byddai pobl hunanol yn ei chael ar eraill?
Mae hunanoldeb rhemp wedi achosi epidemig o loes feddyliol ac emosiynol. (Pregethwr 7:7) Er enghraifft, mae’r rhai sy’n caru arian yn cymryd mantais ar eraill. Gall pobl heb gariad naturiol gam-drin aelodau’r teulu, sy’n gallu gwneud i’r aelodau hynny fod yn isel eu hysbryd neu deimlo fel lladd eu hunain. Ac mae pob bradwr, neu berson anffyddlon, yn gadael creithiau emosiynol ar y rhai sy’n dioddef eu brad neu eu hanffyddlondeb.
Pam y byddai pobl yn gyffredinol yn newid er gwaeth?
Mae’r Beibl yn esbonio’r rhesymau y tu ôl i newid ymddygiad pobl:
Mae cariad diffuant tuag at Dduw a chymydog yn lleihau. (Mathew 24:12) Wrth i hyn ddigwydd mae hunanoldeb yn cynyddu.
Mae Satan y Diafol wedi cael ei fwrw allan o’r nef ac wedi ei gyfyngu i gyffiniau’r ddaear. (Datguddiad 12:9, 12) Ers hynny, mae wedi dylanwadu ar fodau dynol i’w gwneud nhw yn fwy hunanol byth.—1 Ioan 5:19.
Sut dylen ni ymateb i’r newidiadau negyddol mewn pobl?
Mae Gair Duw yn dweud: “Paid cael dim i’w wneud â phobl felly.” (2 Timotheus 3:5, beibl.net) Dydy hyn ddim yn golygu ein bod ni’n eithrio ein hunain o gymdeithas yn llwyr. Yn hytrach, dylen ni osgoi gwneud ffrindiau agos gyda’r rhai sy’n byw bywydau hunanol, ac annuwiol.—Iago 4:4.
A fyddai ymddygiad pawb yn mynd yn waeth?
Na fyddai. Rhagfynegodd y Beibl y byddai rhai yn “galaru’n drist am yr holl bethau ffiaidd sy’n digwydd.” (Eseciel 9:4) Bydden nhw’n gwrthod hunanoldeb a defnyddio safonau Duw i fyw eu bywydau. Byddai’r ffordd maen nhw’n siarad ac yn ymddwyn yn amlwg yn dra gwahanol i bobl yn gyffredinol. (Malachi 3:16, 18) Er enghraifft, bydden nhw’n ceisio cadw heddwch gyda phawb gan wrthod rhyfeloedd a thrais.—Micha 4:3.
A fydd cymdeithas ddynol yn dirywio i anhrefn llwyr?
Na fydd. Fydd cymdeithas ddynol ddim yn chwalu’n llwyr. Yn lle hynny, bydd Duw yn cael gwared ar bobl sy’n benderfynol o anufuddhau i’w safonau. (Salm 37:38) Bydd yn sefydlu “daear newydd”—cymdeithas ddynol newydd yma ar y ddaear—lle bydd pobl addfwyn yn byw mewn heddwch am byth. (2 Pedr 3:13; Salm 37:11, 29) Nid ffantasi yw’r gobaith hwn. Hyd yn oed nawr, mae’r Beibl yn helpu pobl i newid eu bywydau yn unol â ffyrdd cyfiawn Duw.—Effesiaid 4:23, 24.
a Mae proffwydoliaeth y Beibl a chyflwr y byd yn dangos ein bod ni’n byw yn y “dyddiau olaf,” a fyddai’n cael eu dynodi gan amserau “enbyd” neu “beryglus.” (2 Timotheus 3:1; Beibl Cysegr-lân) Am fwy o wybodaeth, gweler yr erthygl “Beth Yw Arwyddion y ‘Dyddiau Diwethaf’ neu’r ‘Cyfnod Olaf’?”