Neidio i'r cynnwys

Pwy Neu Beth Yw’r “Alffa a’r Omega”?

Pwy Neu Beth Yw’r “Alffa a’r Omega”?

Ateb y Beibl

 Mae’r “Alffa a’r Omega” yn cyfeirio at Jehofa Dduw, yr Hollalluog. Mae’r term hwn yn ymddangos tair gwaith yn y Beibl.—Datguddiad 1:8; 21:6; 22:13. a

Pam mae Duw yn galw ei hun yr “Alffa a’r Omega”?

 Alffa ac omega yw’r llythrennau cyntaf ac olaf yn y wyddor Roeg, sef yr iaith a’i defnyddiwyd i ysgrifennu’r rhan o’r Beibl sy’n cael ei hadnabod fel y Testament Newydd, yn cynnwys llyfr y Datguddiad. Mae lleoliadau’r llythrennau hyn yn y wyddor Roeg yn cael eu defnyddio i ddarlunio mai Jehofa yn unig yw’r dechrau a’r diwedd. (Datguddiad 21:6) Ef oedd Duw Hollalluog erioed a fydd yn parhau i fod yn Dduw Hollalluog am byth. Ef yw’r unig un sydd “o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.”—Salm 90:2, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

Pwy yw’r “cyntaf a’r olaf”?

 Mae’r Beibl yn defnyddio’r term hwn naill ai am Jehofa neu am ei Fab, Iesu, ond gydag ystyron gwahanol. Ystyriwch ddwy esiampl.

  •   Yn Eseia 44:6, mae Jehofa’n dweud: “Fi ydy’r cyntaf, a fi ydy’r olaf! Does dim duw arall yn bod ar wahân i mi.” Yma, mae Jehofa yn amlygu mai ef yw’r tragwyddol wir Dduw; heblaw ef, nid oes un arall. (Deuteronomium 4:35, 39) Felly, yma mae gan y dywediad “cyntaf a’r olaf” yr un ystyr â’r “Alffa a’r Omega.”

  •   Hefyd, mae’r term “Cyntaf [pro’tos, nid alffa] a’r Olaf [e’scha·tos, nid omega]” yn ymddangos yn Datguddiad 1:17, 18 a 2:8. Yn yr adnodau hyn, mae’r cyd-destun yn dangos bod yr un a gyfeiriwyd ato wedi marw ac yna yn dod yn ôl yn fyw. Felly, ni all yr adnodau hyn gyfeirio at Dduw am nad yw ef erioed wedi marw. (Habacuc 1:12) Ond, bu farw Iesu ac yna cafodd ei atgyfodi. (Actau 3:13-15) Ef oedd y dyn cyntaf i gael ei atgyfodi i fywyd ysbrydol tragwyddol yn y nef, lle mae nawr yn byw “am byth bythoedd.” (Datguddiad 1:18; Colosiaid 1:18) Iesu yw’r un sy’n gweithredu pob atgyfodiad o hynny ymlaen. (Ioan 6:40, 44) Felly, ef oedd yr un olaf i gael ei atgyfodi yn uniongyrchol gan Jehofa. (Actau 10:40) Yn yr ystyr hwn, gall Iesu gael ei alw’n gywir y “Cyntaf a’r Olaf.”

A ydy Datguddiad 22:13 yn profi mai Iesu yw’r “Alffa a’r Omega”?

 Nac ydy. Nid yw’r adroddwr yn Datguddiad 22:13 wedi ei enwi’n benodol, ac mae ’na amryw o adroddwyr yn y bennod hon. Yn ei esboniad o’r rhan hon o Datguddiad, ysgrifennodd yr Athro William Barclay: “Nid yw pethau wedi eu hysgrifennu mewn unrhyw drefn amlwg, . . . ac yn aml mae’n anodd fod yn sicr pwy yw’r adroddwr.” (The Revelation of John, Cyfrol 2, Rhifyn Diwygiedig, tudalen 223) Felly, gallwn adnabod yr “Alffa a’r Omega” yn Datguddiad 22:13 fel yr un Person sydd â’r teitl hwn mewn mannau eraill yn Datguddiad​—Jehofa Dduw.

a Mae’r term hefyd yn cael ei ddefnyddio yn Datguddiad 1:​11 yn y Beibl Cysegr-lân. Ond mae’r rhan fwyaf o gyfieithiadau modern yn ei adael allan oherwydd nad yw’n cael ei gynnwys yn y llawysgrifau Groeg hynaf, ond yn amlwg wedi cael ei ychwanegu at gopïau diweddarach o’r Ysgrythurau.