Ydy Hi’n Iawn i Gristnogion Ddefnyddio Dulliau Atal Cenhedlu?
Ateb y Beibl
Ni orchmynnodd Iesu i’w ddilynwyr gael plant neu beidio. A chafodd y fath orchymyn mo’i roi gan ddisgyblion Iesu chwaith. Does yr un adnod yn y Beibl yn condemnio atal cenhedlu yn benodol. Yn hyn o beth, mae’r egwyddor yn Rhufeiniaid 14:12 yn berthnasol: “Bydd rhaid i bob un ohonon ni ateb drosto’i hun o flaen Duw.”
Felly, mae cyplau priod yn rhydd i benderfynu drostyn nhw eu hunain i fagu teulu neu beidio. Y nhw hefyd caiff benderfynu faint o blant y cân nhw a phryd. Os bydd gŵr neu wraig yn penderfynu defnyddio dull atal cenhedlu sydd ddim yn erthylu plentyn, dyna’u dewis a’u cyfrifoldeb personol nhw. Ni ddylai unrhyw un eu barnu.—Rhufeiniaid 14:4, 10-13.