Beth Mae’n ei Olygu i Fod yn Sanctaidd?
Ateb y Beibl
Mae bod yn sanctaidd yn cyfeirio at y cyflwr o gadw draw oddi wrth unrhyw beth sy’n gallu eich halogi. Daw’r gair Hebraeg a gyfieithir “sanctaidd” o ymadrodd sy’n golygu “ar wahân.” Felly, mae’r hyn sy’n sanctaidd wedi ei wahanu oddi wrth ddefnydd cyffredin, neu’n cael ei ystyried yn gysegredig, am ei fod yn lân ac yn bur.
Mae Duw yn sanctaidd i’r radd eithaf. Dywed y Beibl: “Does neb yn sanctaidd fel yr ARGLWYDD [Heb. Jehofa].” a (1 Samuel 2:2) Yn gwbl briodol felly, mae Duw yn gosod y safon o ran beth sy’n sanctaidd.
Gall y gair “sanctaidd” gyfeirio at unrhyw beth sydd â chysylltiad uniongyrchol â Duw, yn enwedig pethau sydd wedi eu neilltuo i’w defnyddio mewn cysylltiad ag addoli yn unig. Er enghraifft, mae’r Beibl yn siarad am:
Mannau sanctaidd: Dywedodd Duw wrth Moses ger y berth oedd ar dân: “Mae’r llecyn yr wyt yn sefyll arno yn dir sanctaidd.”—Exodus 3:2-5, BCND.
Digwyddiadau sanctaidd: Gwnaeth yr Israeliaid gynt addoli Jehofa mewn gwyliau crefyddol rheolaidd a elwir “cymanfaoedd sanctaidd.”—Lefiticus 23:37, BCND.
Gwrthrychau sanctaidd: Roedd eitemau a ddefnyddiwyd yn nheml Jerwsalem gynt yn cael eu galw’n “gelfi cysegredig.” (1 Bren. 8:4) Roedd yr eitemau cysegredig hyn i gael eu trin â pharch, er nad oedden nhw byth i gael eu haddoli eu hunain. b
A all person amherffaith fod yn sanctaidd?
Gall. Mae Duw yn gorchymyn: “Rhaid i chi fod yn sanctaidd am fy mod i yn sanctaidd.” (1 Pedr 1:16) Wrth gwrs, ni allai dynion amherffaith fyth gyrraedd safon berffaith Duw o sancteiddrwydd. Er hynny, gall pobl sy’n ufuddhau i ddeddfau cyfiawn Duw gael eu hystyried yn “sanctaidd a derbyniol gan Dduw.” (Rhufeiniaid 12:1) Mae person sy’n gwneud ei orau i fod yn sanctaidd yn adlewyrchu hyn yn ei eiriau a’i weithredoedd. Er enghraifft, bydd ef neu hi yn dilyn cyngor y Beibl i fod “yn sanctaidd” yn eu holl ymddygiad, ac i “beidio gwneud dim sy’n anfoesol yn rhywiol.”—1 Thesaloniaid 4:3; 1 Pedr 1:15, BCND.
Ydy hi’n bosib i rywun golli ei safle sanctaidd o flaen Duw?
Ydy. Petai rhywun yn cefnu ar safonau Duw ynglŷn ag ymddygiad, ni fyddai Duw bellach yn ystyried y person hwnnw yn sanctaidd. Er enghraifft, mae llyfr yr Hebreaid yn y Beibl yn cyfarch y brodyr gan eu galw’n “gyfeillion sanctaidd,” ond y mae’n eu rhybuddio i sicrhau nad ydyn nhw’n “anufudd ac yn troi cefn ar y Duw byw.”—Hebreaid 3:1, 12.
Syniadau anghywir ynglŷn â bod yn sanctaidd
Camsyniad: Gallwn ddod yn sanctaidd drwy wadu ein hunain.
Ffaith: Dangosa’r Beibl fod “disgyblu’r corff a’i drin yn llym” neu hunanwadiad eithafol, “yn dda i ddim” yng ngolwg Duw. (Colosiaid 2:23) Yn lle hynny, mae Duw eisiau inni fwynhau pethau da. “Rhodd Duw i bawb ydy iddyn nhw fwyta ac yfed a mwynhau eu holl weithgareddau”—Pregethwr 3:13.
Camsyniad: Mae aros yn ddi-briod yn eich gwneud chi’n fwy sanctaidd.
Ffaith: Gall Cristion ddewis aros yn ddibriod, ond dydy peidio â phriodi ynddo’i hun ddim yn eich gwneud chi’n sanctaidd yng ngolwg Duw. Mae’n wir bod y rhai sy’n aros yn sengl yn gallu canolbwyntio ar addoli. (1 Corinthiaid 7:32-34) Ond, mae’r Beibl yn dangos y gall y rhai sydd wedi priodi fod yn sanctaidd hefyd. Mae’n ffaith fod o leiaf un o apostolion Iesu wedi priodi, sef Pedr.—Mathew 8:14; 1 Corinthiaid 9:5.
a Jehofa yw enw personol Duw. Mae cannoedd o adnodau yn cysylltu’r enw gyda’r geiriau “sanctaidd” a “sancteiddrwydd.”
b Mae’r Beibl yn condemnio addoli creiriau crefyddol.—1 Corinthiaid 10:14.