Ai Dim Ond Dyn Da Oedd Iesu?
Ateb y Beibl
Roedd Iesu yn fwy na dyn da. A dweud y lleiaf, mae wedi dod yn amlwg mae ef yw’r dyn â’r dylanwad mwyaf yn hanes y ddynoliaeth. Sylwch beth ddywedodd yr haneswyr enwog hyn amdano:
“Hawdd dweud mai Iesu o Nasareth . . . yw’r cymeriad amlycaf mewn hanes.”—H. G. Wells, hanesydd o Loegr.
“Bywyd [Iesu] yw’r un mwyaf dylanwadol a fu erioed ar y blaned ac mae ei effaith yn dal i gynyddu.”—Kenneth Scott Latourette, hanesydd ac awdur o America.
Mae’r Beibl yn dangos pam bod Iesu wedi cael mwy o effaith nag unrhyw ddyn da arall a fu erioed. Pan ofynnodd Iesu i’w ddilynwyr agosaf: “Pwy dych chi’n ddweud ydw i?” Atebodd un ohonyn nhw’n gywir: “Ti ydy’r Meseia, Mab y Duw byw.”—Mathew 16:15, 16.