Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Dalu Degwm?
Ateb y Beibl
Er mwyn cynnal gwir addoliad, roedd pobl Israel gynt o dan orchymyn i dalu degwm, a neu ddegfed ran o’u henillion blynyddol. Dywedodd Duw: “Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi’n rhoi heibio ddeg y cant o gynnyrch eich tir bob blwyddyn.”—Deuteronomium 14:22.
Roedd y gorchymyn i dalu’r degwm yn rhan o’r Gyfraith a roddodd Duw i Israel gynt drwy Moses. Nid yw Cristnogion o dan Gyfraith Moses ac felly nid oes rhaid iddyn nhw dalu degwm. (Effesiaid 2:15) Yn lle hynny, mae pob Cristion i gyfrannu’n ariannol “o’i wirfodd, dim yn anfodlon neu am fod pwysau [arno]. Mae Duw’n mwynhau gweld pobl sydd wrth eu boddau yn rhoi.”—2 Corinthiaid 9:7.
Talu’r Degwm yn Amser y Beibl—Yr “Hen Destament”
Yn y rhan o’r Beibl a elwir yn Hen Destament, mae’n sôn sawl gwaith am dalu’r degwm. Mae’r rhan fwyaf o’r achosion yn perthyn i gyfnod ar ôl i Israel gael y Gyfraith drwy Moses. Ond mae dau achos yn perthyn i gyfnod cyn hynny.
Cyn Cyfraith Moses
Y person cyntaf y mae sôn amdano’n talu degwm yw Abram (Abraham). (Genesis 14:18-20; Hebreaid 7:4) Ymddengys mai rhodd unwaith yn unig oedd degwm Abraham, wedi ei dalu i’r dyn a oedd yn frenin-offeiriad Salem. Nid oes dim tystiolaeth yn y Beibl i awgrymu bod Abraham na’i blant wedi talu degwm arall.
Yr ail berson i gynnig degwm yn y Beibl oedd Jacob, ŵyr Abraham. Petai Duw yn ei fendithio, addawodd Jacob y byddai’n “rhoi un rhan o ddeg o bopeth” yn ôl iddo. (Genesis 28:20-22) Ym marn rhai ysgolheigion Beiblaidd, mae’n debyg bod Jacob wedi talu’r degwm hwn drwy offrymu anifeiliaid. Er bod Jacob wedi addo hyn i Dduw, nid oedd yn mynnu bod ei deulu yn gwneud yr un fath.
O dan Gyfraith Moses
Roedd yr Israeliaid gynt o dan orchymyn i dalu’r degwm er mwyn cynnal gweithgareddau crefyddol y genedl.
Roedd y degwm yn cael ei ddefnyddio i gynnal gweithwyr crefyddol llawn amser—sef y Lefiaid, a oedd yn cynnwys hefyd yr offeiriaid—gan nad oedd ganddyn nhw unrhyw dir i’w ffermio. (Numeri 18:20, 21) Roedd y Lefiaid yn derbyn degymau oddi wrth y bobl, ac yn eu tro yn rhoi “degwm o’r degwm” i’r offeiriaid.—Numeri 18:26-29, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.
Ymddengys fod angen talu degwm arall yn ystod y flwyddyn, a defnyddiwyd hwnnw er lles y Lefiaid a’r bobl yn gyffredinol. (Deuteronomium 14:22, 23) Roedd teuluoedd yn Israel yn gallu defnyddio’r degwm hwn adeg gwyliau arbennig. Mewn rhai blynyddoedd fe’i defnyddiwyd i gynnal y tlodion.—Deuteronomium 14:28, 29; 26:12.
Sut roedden nhw’n cyfri’r degwm? Roedd yr Israeliaid yn neilltuo deg y cant o gynnyrch blynyddol eu tir. (Lefiticus 27:30) Pe baen nhw’n dewis talu’r degwm mewn arian yn hytrach na chynnyrch, roedd yn rhaid talu nid deg y cant, ond deuddeg y cant. (Lefiticus 27:31) Roedden nhw hefyd i roi “pob degfed anifail.”—Lefiticus 27:32.
I bennu degwm eu da byw, roedd yr Israeliaid yn dewis pob degfed anifail a ddaeth allan o’r gorlan. Yn ôl y Gyfraith, nid oedden nhw’n cael chwilio na chyfnewid yr anifeiliaid hyn, ac nid oedden nhw’n cael newid y degwm hwn yn arian. (Lefiticus 27:32, 33) Sut bynnag, roedd hi’n iawn troi’r ail ddegwm ar gyfer y gwyliau blynyddol yn arian. Roedd hyn yn ei gwneud hi’n haws i’r Israeliaid oedd yn byw’n bell o Jerwsalem ddod i’r gwyliau.—Deuteronomium 14:25, 26.
Pryd roedd yr Israeliaid yn talu’r degwm? Roedd yr Israeliaid yn talu’r degwm bob blwyddyn. (Deuteronomium 14:22) Ond roedd y seithfed flwyddyn yn wahanol. Saboth neu flwyddyn o orffwys oedd honno, ac nid oedd yr Israeliaid yn tyfu unrhyw gnydau. (Lefiticus 25:4, 5) Oherwydd hynny, nid oedd degwm yn cael ei dalu adeg y cynhaeaf. Yn y drydedd a’r chweched flwyddyn o’r cylch saith mlynedd, roedd yr Israeliaid yn rhannu’r ail ddegwm gyda’r Lefiaid a’r tlodion.—Deuteronomium 14:28, 29.
Beth oedd y gosb am beidio â thalu’r degwm? Nid oedd Cyfraith Moses yn pennu cosb am beidio â thalu’r degwm. Dyletswydd foesol oedd degymu. Roedd yr Israeliaid i ddatgan gerbron Duw eu bod wedi talu’r degwm a gofyn am ei fendith am wneud hynny. (Deuteronomium 26:12-15) Yng ngolwg Duw, roedd peidio â thalu’r degwm yn gyfystyr â dwyn oddi arno.—Malachi 3:8, 9.
A oedd y degwm yn ormod o faich? Nac oedd. Addawodd Duw y byddai’n bendithio’r genedl pe baen nhw’n talu’r degwm ac na fydden nhw’n brin o ddim byd. (Malachi 3:10) Ar y llaw arall, roedd y genedl yn dioddef pan oedden nhw’n atal y degwm. Collon nhw fendith Duw, a thrwy beidio â chynnal yr offeiriaid a’r Lefiaid, roedden nhw’n dioddef yn ysbrydol.—Nehemeia 13:10; Malachi 3:7.
Talu’r Degwm yn Amser y Beibl—Y “Testament Newydd”
Pan oedd Iesu ar y ddaear, roedd talu’r degwm yn dal yn ofynnol i weision Duw. Ond cafodd y gyfraith honno ei diddymu ar ôl i Iesu farw.
Yn amser Iesu
Yn yr hyn a elwir yn Destament Newydd, y mae’r Beibl yn dangos bod yr Israeliaid yn dal i dalu’r degwm tra bod Iesu ar y ddaear. Roedd Iesu yn cydnabod bod dyletswydd ar y bobl i dalu degwm. Ond condemniodd Iesu’r arweinwyr crefyddol a oedd yn ofalus iawn i’w dalu, ond ar yr un pryd yn “talu dim sylw i faterion pwysica’r Gyfraith—byw’n gyfiawn, bod yn drugarog ac yn ffyddlon i Dduw.”—Mathew 23:23.
Ar ôl marwolaeth Iesu
Ar ôl i Iesu farw, nid oedd rhaid talu’r degwm. Fe wnaeth marwolaeth Iesu ddiddymu Cyfraith Moses, gan gynnwys y gorchymyn i dalu’r degwm.—Hebreaid 7:5, 18; Effesiaid 2:13-15; Colosiaid 2:13, 14.
a Degwm yw “y ddegfed ran o incwm unigolyn wedi ei neilltuo at ddibenion penodol. . . . Yn y Beibl, fel arfer mae diben crefyddol i’r degwm.”—Harper’s Bible Dictionary, tudalen 765.