Beth Yw’r Trychineb Mawr?
Ateb y Beibl
Y trychineb mawr fydd yr amser mwyaf anodd erioed i bobl ar y ddaear. Yn ôl proffwydoliaethau yn y Beibl, bydd yn digwydd yn ystod “y dyddiau olaf” neu “amser y diwedd.” (2 Timotheus 3:1; Daniel 12:4, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Bydd y trychineb hwnnw’n rhywbeth “sydd ddim wedi digwydd o ddechrau creadigaeth Duw hyd yr amser hwnnw, ac na fydd yn digwydd byth eto.” —Marc 13:19; Daniel 12:1; Mathew 24:21, 22.
Digwyddiadau yn ystod y trychineb mawr
Dinistrio gau grefydd. Bydd gau grefydd yn cael ei dinistrio a hynny’n sydyn ac yn annisgwyl. (Datguddiad 17:1, 5; 18:9, 10, 21) Bydd grymoedd gwleidyddol y byd, sy’n cael eu cynrychioli gan y Cenhedloedd Unedig, yn cyflawni ewyllys Duw drwy wneud hyn.—Datguddiad 17:3, 15-18. a
Ymosod ar wir grefydd. Bydd cynghrair o genhedloedd, sy’n cael ei disgrifio yn llyfr Eseciel fel “Gog o dir Magog,” yn ceisio dinistrio pawb sy’n dilyn y gwir grefydd. Ond bydd Duw yn amddiffyn ei addolwyr.—Eseciel 38:1, 2, 9-12, 18-23.
Barnu trigolion y ddaear. Bydd Iesu yn barnu pawb ar y ddaear ac “yn gwahanu pobl, un oddi wrth y llall, yn union fel y mae bugail yn gwahanu’r defaid oddi wrth y geifr.” (Mathew 25:31-33) Sail ei farnedigaeth fydd y ffordd mae unigolion wedi cefnogi, neu fethu cefnogi, “brodyr” Iesu, sef y rhai a fydd yn llywodraethu gydag ef yn y nefoedd.—Mathew 25:34-46.
Casglu’r rhai a fydd yn llywodraethu yn y Deyrnas. Bydd rhai ffyddlon sydd wedi cael eu dewis i reoli gyda Christ yn gorffen eu bywydau ar y ddaear, ac yn cael eu hatgyfodi i’r nefoedd.—Mathew 24:31; 1 Corinthiaid 15:50-53; 1 Thesaloniaid 4:15-17.
Armagedon. Mae “rhyfel dydd mawr Duw’r Hollalluog” hefyd yn cael ei alw’n ‘ddydd Jehofa.’ (Datguddiad 16:14, 16; 2 Pedr 3:12; Eseia 13:9) Bydd y rhai sy’n cael eu barnu’n anffafriol gan Iesu yn cael eu dinistrio. (Seffaneia 1:18; 2 Thesaloniaid 1:6-10). Bydd trefn wleidyddol y byd cyfan, sy’n cael ei darlunio yn y Beibl fel bwystfil gwyllt â saith pen iddo, yn cael ei dinistrio.—Datguddiad 19:19-21.
Digwyddiadau ar ôl y trychineb mawr
Rhwymo Satan a’r cythreuliaid. Bydd angel pwerus yn hyrddio Satan a’r cythreuliaid “i mewn i’r dyfnder,” sydd yn symbol o gyflwr anweithredol, tebyg i farwolaeth. (Datguddiad 20:1-3) Bydd sefyllfa Satan yn y dyfnder yn debyg i fod yn y carchar; heb allu dylanwadu ar neb.—Datguddiad 20:7.
Dechrau’r Mileniwm. Bydd Teyrnas Dduw yn rheoli am fil o flynyddoedd, a bydd hynny yn dod â llawer o fendithion i’r ddynolryw. (Datguddiad 5:9, 10; 20:4, 6) Bydd ‘tyrfa fawr’ ddi-rif yn “dod allan o’r trychineb mawr,” a goroesi i weld dechrau’r Mileniwm ar y ddaear.—Datguddiad 7:9, 14; Salm 37:9-11.
a Yn llyfr Datguddiad, mae gau grefydd yn cael ei darlunio fel Babilon Fawr, ”y butain fawr.” (Datguddiad 17:1, 5) Mae’r bwystfil gwyllt ysgarlad, sy’n dinistrio Babilon Fawr, yn symbol o gyfundrefn ryngwladol sy’n ceisio uno a chynrychioli cenhedloedd y byd. Enw gwreiddiol y gyfundrefn hon oedd Cynghrair y Cenhedloedd; yr enw arni heddiw yw’r Cenhedloedd Unedig.