CWRS ASTUDIO’R BEIBL GYDA HYFFORDDWR
Mwynhewch Fywyd am Byth!
Yn y cwrs Beiblaidd rhyngweithiol am ddim, cewch atebion i gwestiynau fel:
Sut galla i gael bywyd hapus?
A ddaw drygioni a dioddefaint i ben?
A fydda i’n gweld fy anwyliaid marw eto ryw ddydd?
A oes gan Dduw ddiddordeb yno i?
Sut galla i weddïo a gwybod bod Duw’n gwrando?
Yn Rhad ac Am Ddim
Mae’r cwrs cyfan am ddim, gan gynnwys y llyfryn astudio Mwynhewch Fywyd am Byth! a Beibl hefyd os ydych chi angen un.
Cyfleus
Cyfarfod gyda hyfforddwr un ai wyneb yn wyneb neu’n rhithiol—pryd bynnag a lle bynnag sy’n gyfleus i chi.
Heb Ymrwymiad
Mi gewch chi ganslo unrhyw adeg—heb unrhyw ymrwymiad.
Sut mae ein cwrs Beiblaidd yn gweithio?
Bydd athro personol yn eich helpu i ddysgu am y Beibl, fesul pwnc. Yn y cwrs Beiblaidd rhyngweithiol Mwynhewch Fywyd am Byth! byddwch yn darganfod neges y Beibl fesul tipyn, a sut gall y neges honno eich helpu. I ddysgu mwy, gwyliwch y fideo neu cymerwch sbec ar rai o’r cwestiynau cyffredin am y cwrs.
Barod i fynd amdani?
Cliciwch ar y botwm i drefnu sesiwn cyntaf eich astudiaeth Feiblaidd bersonol.