WEDI EI DDYLUNIO?
Glud y Gragen Long
Mae swolegwyr wedi hen sylwi ar allu’r gragen long i lynu’n dynn wrth greigiau, pierau, a chyrff llongau. Dywedir bod glud y gragen long yn llawer mwy effeithiol na gludion synthetig. Dim ond yn ddiweddar mae gwyddonwyr wedi deall sut yn union mae’r gragen long yn glynu wrth wynebau gwlyb.
Ystyriwch: Mae astudiaethau wedi dangos y bydd larfa cragen long yn nofio yn y môr gan archwilio arwynebau gwahanol cyn dewis man addas i angori ei hun. Ar ôl cael hyd i’w le, ymddengys fod y larfa yn cynhyrchu dau sylwedd. Mae’r un cyntaf yn hylif olewog sy’n cael gwared ar y dŵr yn y man sydd wedi ei ddewis. Mae’r hylif hwn hefyd yn paratoi’r llecyn ar gyfer yr ail sylwedd sydd wedi ei wneud o ffosffoproteinau.
Gyda’i gilydd, mae’r ddau sylwedd yn creu glud hynod o gryf sydd hyd yn oed yn gallu gwrthsefyll effaith ddiraddiol bacteria. Mae cryfder parhaol y glud yn bwysig oherwydd bydd y gragen yn treulio gweddill ei hoes yn sownd wrth y llecyn hwnnw.
Mae’r ffordd y mae’r gragen long yn creu’r glud yn llawer mwy cymhleth nag y tybiwyd o’r blaen. Dywedodd un aelod o’r tîm sydd wedi darganfod y broses: “Mae hwn yn ateb rhyfeddol o glyfar i’r broblem o sut i weithio gydag arwynebau gwlyb.” Gyda’r wybodaeth hon, mae ymchwilwyr yn gobeithio creu gludion sy’n gweithio o dan ddŵr, a defnyddio sylweddau naturiol i wneud gludion synthetig i’w defnyddio mewn offer electronig a mewnblaniadau meddygol.
Beth rydych chi’n ei feddwl? Ai esblygiad sy’n gyfrifol am lud y gragen long? Neu a gafodd ei greu?