WEDI EI DDYLUNIO?
Croen Hunanlanhau y Morfil Pengrwn
Problem fawr sy’n wynebu cwmnïau llongau yw’r cregyn llong a’r organebau eraill sy’n tyfu ar gyrff llongau. Mae’r tyfiant hwn yn arafu llongau, yn peri iddyn nhw losgi mwy o danwydd, ac yn gorfodi iddyn nhw gael eu codi o’r môr bob rhyw ddwy flynedd i gael eu glanhau. Mae gwyddonwyr yn troi at y byd natur am ateb.
Ystyriwch: Mae astudiaethau wedi dangos bod croen y morfil pengrwn (Globicephala melas) yn gallu glanhau ei hun. Ar wyneb y croen mae crychau bychain, neu nanocrychau, sy’n rhy fach i larfae’r cregyn llong fedru cydio ac ymsefydlu. Yn y bylchau rhwng y crychau hyn ceir hylif tew sy’n lladd algâu a bacteria. Mae’r morfil yn cynhyrchu mwy o’r hylif wrth iddo fwrw’r hen groen.
Mae gwyddonwyr yn bwriadu addasu system hunanlanhau’r morfil ar gyfer cyrff llongau. Yn y gorffennol, defnyddid paent arbennig i rwystro’r cregyn, ond yn ddiweddar gwaharddwyd nifer o’r paentiau mwyaf cyffredin hyn oherwydd eu bod yn wenwynig i greaduriaid y môr. Ateb yr ymchwilwyr yw gorchuddio cyrff y llongau gyda rhwyll fetel ar ben haenen arall llawn tyllau sy’n gollwng cemegyn nad yw’n niweidio’r amgylchedd. Wrth ddod i gysylltiad â dŵr môr, mae’r cemegyn yn tewychu i ffurfio croen dros gorff y llong gyfan. Dros amser, mae’r croen hwn, sydd tua 0.7 milimetr [0.03 modfedd] o drwch, yn treulio ac yn diflannu gydag unrhyw organebau a allai fod wedi glynu ato. Mae’r system wedyn yn creu haenen newydd i orchuddio corff y llong.
Mae arbrofion mewn labordai wedi dangos y byddai’r system hon yn gallu lleihau tyfiant y cregyn llong i un y cant o’r hyn a fyddai fel arfer. Byddai hynny’n fantais enfawr i gwmnïau llongau, oherwydd mae tynnu llongau o’r môr i’w glanhau yn hynod o gostus.
Beth rydych chi’n ei feddwl? Ai esblygu a wnaeth croen hunanlanhau’r morfil pengrwn? Neu a gafodd ei ddylunio?