WEDI EI DDYLUNIO?
Ffroen Dda y Ci
Dywed ymchwilwyr fod cŵn yn defnyddio eu trwynau i ganfod oed, rhyw, neu dymer cŵn eraill. Gellir hyd yn oed hyfforddi cŵn i ganfod ffrwydron a chyffuriau anghyfreithlon. Mae pobl fel arfer yn defnyddio eu llygaid i gael gwybod am yr hyn sydd o’u cwmpas, ond mae cŵn yn defnyddio eu ffroenau. Maen nhw’n “darllen” gyda’u trwynau.
Ystyriwch: Mae gan gŵn synnwyr arogli sydd filoedd o weithiau’n fwy sensitif na’n synnwyr arogli ni. Yn ôl Sefydliad Cenedlaethol Safonau a Thechnoleg UDA (NIST), mae ci “yn gallu canfod rhai cyfansoddion ar raddfa ychydig o rannau ymhob triliwn. Mae’r gamp hon yn cyfateb i fedru blasu chwarter llond llwy o siwgr mewn pwll nofio Olympaidd.”
Beth sy’n gyfrifol am ffroen dda y ci?
Mae trwyn ci yn wlyb ac felly yn dal y gronynnau sy’n gysylltiedig ag arogl yn well.
Mae dau lwybr anadlu mewn trwyn ci—un ar gyfer anadlu, a’r llall ar gyfer arogli. Pan fydd ci yn ffroeni, mae’r aer yn mynd i ran o’r trwyn lle mae llawer o niwronau derbyn aroglau.
Mae ardal arogli yn nhrwyn y ci yn gallu bod yn 130 centimetr sgwâr (20 modfedd sgwâr) neu fwy, tra bod yr ardal arogli mewn pobl yn 5 centimetr sgwâr (0.8 modfedd sgwâr).
Mae gan gi hyd at 50 gwaith mwy o niwronau derbyn aroglau na ni.
Mae hyn i gyd yn caniatáu i’r ci wahaniaethu rhwng y cynhwysion mewn aroglau cymhleth. Er enghraifft, mae pobl yn gallu clywed arogl cawl, ond yn ôl rhai arbenigwyr, mae cŵn yn gallu canfod pob un o’r cynhwysion yn y cawl.
Mae ymchwilwyr mewn un sefydliad sy’n ymchwilio i ganser, y Pine Street Foundation, yn dweud bod ymennydd a thrwyn y ci yn cydweithio i fod “yn un o’r teclynnau mwyaf soffistigedig ar y blaned ar gyfer canfod aroglau.” Mae gwyddonwyr yn ceisio datblygu “trwynau” electronig sy’n gallu canfod ffrwydron, nwyddau gwaharddedig, a chlefydau, gan gynnwys canser.
Beth rydych chi’n ei feddwl? Ai rywbeth a wnaeth esblygu yw synnwyr arogli’r ci? Neu a gafodd ei ddylunio?