Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU | MAGU PLANT

Plant a’r Cyfryngau Cymdeithasol​—Rhan 2: Dysgu Pobl Ifanc i Fod yn Ddiogel ar y Cyfryngau Cymdeithasol

Plant a’r Cyfryngau Cymdeithasol​—Rhan 2: Dysgu Pobl Ifanc i Fod yn Ddiogel ar y Cyfryngau Cymdeithasol

 Ar ôl ystyried y peryglon, mae llawer o rieni wedi penderfynu peidio â gadael i’w plant ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Ond os ydych chi’n caniatáu i’ch plant yn eu harddegau ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, sut gallwch chi eu helpu i osgoi’r effeithiau niweidiol ac i’w defnyddio’n ddoeth?

Yn yr erthygl hon

 Blaenoriaethau pobl ifanc

 Beth dylech chi ei wybod: Mae’n hawdd i bobl ifanc fynd yn gaeth i’r cyfryngau cymdeithasol, ac felly mae’n bosib y byddan nhw angen help i reoli faint o amser maen nhw’n ei dreulio arnyn nhw.

 Egwyddor o’r Beibl: “[Gwnewch] yn siŵr o beth yw’r pethau mwyaf pwysig.”—Philipiaid 1:10.

 Ystyriwch hyn: Ydy’r amser mae’ch plentyn yn ei dreulio ar y cyfryngau cymdeithasol yn amharu ar ei gwsg, ar ei waith ysgol, neu ar ei fywyd teuluol? Mae ymchwilwyr yn dweud bod angen tua naw awr o gwsg bob nos ar bobl yn eu harddegau. Ond os bydd plant yn treulio nifer o oriau bob dydd ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’n debyg y byddan nhw’n cael llai na saith awr.

 Beth gallwch chi ei wneud? Trafodwch flaenoriaethau gyda’ch plentyn, a pham mai peth da yw rheoli faint o amser sy’n cael ei dreulio ar y cyfryngau cymdeithasol. Gosodwch reolau rhesymol, fel peidio â chaniatáu dyfeisiau yn yr ystafell wely yn ystod y nos. Eich nod yw helpu eich plentyn i feithrin hunanreolaeth, sydd yn rhinwedd a fydd yn hynod o ddefnyddiol iddo fel oedolyn.—1 Corinthiaid 9:25.

 Iechyd emosiynol pobl ifanc

 Beth dylech chi ei wybod: Mae gweld hunluniau ffrindiau sydd wedi cael eu twtio, a fideos sy’n dangos dim ond yr uchafbwyntiau, yn gallu gwneud i berson ifanc deimlo’n unig, yn bryderus, ac yn isel.

 Egwyddor o’r Beibl: ‘Mae’n rhaid ichi gael gwared ar . . . genfigen.’—1 Pedr 2:1.

 Ystyriwch hyn: Ydy defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gwneud i’ch plant deimlo’n anhapus am y ffordd maen nhw’n edrych? Ydyn nhw’n teimlo bod pawb arall yn cael hwyl tra bod eu bywydau nhw’n ddiflas?

 Beth gallwch chi ei wneud? Trafodwch gyda’ch plant pam mae cymharu yn beryglus. Cofiwch fod merched yn tueddu i boeni mwy na bechgyn am eu perthynas ag eraill ac am sut maen nhw’n edrych. Gallwch awgrymu bod eich plant yn stopio defnyddio cyfryngau cymdeithasol am gyfnod o bryd i’w gilydd. Mae dyn ifanc o’r enw Jacob yn dweud: “Fe wnes i ddileu’r cyfryngau cymdeithasol am sbel. Roedd hynny yn fy helpu i newid fy mlaenoriaethau a’r ffordd dw i’n meddwl amdana i fy hun ac am bobl eraill.”

 Ymddygiad pobl ifanc ar y we

 Beth dylech chi ei wybod: Mae rhai’n dweud bod defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn debyg i fyw ar lwyfan o flaen torf o bobl. Mae camddealltwriaeth a gwrthdaro yn siŵr o ddilyn.

 Egwyddor o’r Beibl: “Mae’n rhaid ichi eich gwahanu eich hunain oddi wrth bob math o chwerwder maleisus, llid, dicter, sgrechian, a siarad cas . . . Byddwch yn garedig wrth eich gilydd.”—Effesiaid 4:31, 32.

 Ystyriwch hyn: Ydy eich plentyn wedi dechrau hel clecs, cael problemau gyda phobl eraill, neu ddweud pethau cas ar y cyfryngau cymdeithasol?

 Beth gallwch chi ei wneud? Helpwch eich plentyn i ddeall pa mor bwysig yw bod yn gwrtais ar lein. Mae’r llyfr Digital Kids yn dweud: “Rhan o’n dyletswydd ni fel rhieni yw esbonio’n glir nad yw creulondeb yn dderbyniol mewn unrhyw sefyllfa—p’un a yw hynny yn y byd rhithiol neu’r byd go iawn.”

 Nid rhywbeth hanfodol yw’r cyfryngau cymdeithasol cofiwch, a nid yw pob rhiant yn caniatáu i’w plant yn eu harddegau eu defnyddio. Os ydych chi’n dewis caniatáu i’ch plant ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, dylech chi fod yn sicr eu bod nhw’n ddigon aeddfed i reoli’r amser maen nhw’n ei dreulio, i gadw perthynas dda gyda phobl eraill, ac i osgoi cynnwys niweidiol.