HELP AR GYFER Y TEULU | MAGU PLANT
Effaith Ysgariad ar Blant
Mae rhai pobl briod sy’n methu cyd-dynnu yn teimlo y byddai ysgariad yn well i’r plant—yn sicr yn well na byw gyda rhieni sy’n ffraeo o hyd. Ond beth mae’r ffeithiau yn ei ddangos?
Sut mae ysgariad yn effeithio ar blant?
Mae ymchwil yn dangos bod ysgariad yn cael effaith drychinebus ar blant. Mae’n fwy tebygol y bydd plant rhieni sydd wedi ysgaru:
yn teimlo’n ddig, yn bryderus, ac yn isel eu hysbryd
yn cael problemau ymddygiad
yn colli tir yn yr ysgol neu’n rhoi’r gorau i’w haddysg
yn tueddu i fod yn sâl
Yn ogystal â hynny, mae llawer o blant yn teimlo mai eu bai nhw yw’r ysgariad, neu y gallen nhw fod wedi ei atal.
Mae’r anawsterau sy’n wynebu’r plant yn gallu parhau yn eu bywydau fel oedolion, a’i gwneud hi’n anodd iddyn nhw deimlo’n hyderus ac ymddiried mewn pobl eraill. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o ysgaru pan fyddan nhw’n wynebu problemau priodasol.
Y gwir yw: Er bod rhai sy’n ystyried ysgaru yn honni y byddai hynny’n well i’r plant, nid yw’r ymchwil yn cytuno. “Mae ysgariad yn gwneud plant yn anhapus iawn,” meddai Penelope Leach, sy’n arbenigo mewn gofal plant. a
Egwyddor o’r Beibl: “Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi’ch hunain.”—Philipiaid 2:4.
A fydd fy mhlentyn yn hapusach os ydyn ni’n ysgaru?
Dyna fyddai rhai yn ei ddweud. Ond dylid cofio nad yw anghenion y rhiant yr un fath ag anghenion y plentyn fel arfer. Mae rhywun sy’n ystyried ysgaru yn edrych am fywyd newydd. Ond mae’r plentyn fel arfer eisiau dal ei afael ar fywyd gyda Mam a Dad.
Ar ôl astudio miloedd o ysgariadau, ysgrifennodd awduron y llyfr The Unexpected Legacy of Divorce: “Mae un neges yn glir: nid yw’r plant yn dweud eu bod nhw’n hapusach. I’r gwrthwyneb, maen nhw’n dweud yn blwmp ac yn blaen, ‘Daeth fy mhlentyndod i ben y diwrnod ysgarodd fy rhieni.’” Mae’r llyfr yn ychwanegu bod plant yn gweld y byd “yn lle llai dibynadwy oherwydd nad yw’r berthynas rhwng y bobl agosaf iddyn nhw yn gadarn.”
Y gwir yw: Mae’n annhebyg y bydd plant yn hapusach ar ôl i’w rhieni ysgaru.
Egwyddor o’r Beibl: “Mae iselder ysbryd yn faich trwm i’w gario.”—Diarhebion 18:14.
Beth dylwn i ei wybod am gyd-rianta?
Mae rhai sydd wedi ysgaru yn ceisio ymddwyn fel teulu dau-riant cyn belled â phosib, gan feddwl y gallan nhw rannu’r cyfrifoldeb i fagu’r plant rhyngddyn nhw. Ond mae hyn yn anodd iawn. Mae ymchwil yn dangos bod rhieni sydd wedi ysgaru yn tueddu:
i dreulio llai o amser gyda’u plant
i fethu cytuno ar safonau
i ildio i’w plant oherwydd euogrwydd neu flinder
Ar ôl ysgariad mae peryg y bydd plentyn yn fwy tueddol o wrthod gwrando ar eu rhieni. Wedi’r cwbl, os ydy ei rieni wedi cefnu ar eu gwerthoedd a methu cadw eu haddewidion, efallai bydd y plentyn yn gofyn: ‘Pam dylwn i wrando arnyn nhw?’
Y gwir yw: Fel arfer mae cyd-rianta ar ôl ysgariad yn anodd i rieni. Ond mae’r sefyllfa yn fwy anodd byth i’r plant.
Egwyddor o’r Beibl: “Peidiwch â chythruddo eich plant, rhag iddynt ddigalonni.”—Colosiaid 3:21, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.
A oes ateb gwell?
Mae dechrau bywyd newydd ar ôl ysgariad yn gofyn am waith caled. Yn aml byddai’n well petai’r cwpl yn gweithio’n galed i achub y briodas. Mae’r llyfr The Case for Marriage yn dweud: “Tueddwn i feddwl na fydd priodas anhapus byth yn newid, ond nid yw hynny yn wir. . . . Dros amser, mae priodasau y rhan fwyaf o gyplau anhapus sy’n aros gyda’i gilydd yn gwella’n arw.” O ystyried pob peth, mae plant yn gwneud yn well pan fydd eu rhieni yn aros gyda’i gilydd.
Nid yw hynny’n golygu na ddylai neb ysgaru. Mae’r Beibl yn caniatáu ysgaru os bydd un partner yn rhywiol anffyddlon. (Mathew 19:9) Ond mae’r Beibl hefyd yn dweud: “Mae’r call yn ystyried pob cam.” (Diarhebion 14:15, BCND) Dylai gwŷr a gwragedd mewn priodasau anhapus ystyried y ffactorau i gyd—gan gynnwys effaith yr ysgariad ar eu plant.
Wrth gwrs, nid yw hyn yn golygu y dylid dygymod â sefyllfa annifyr heb wneud dim i’w gwella. Mae’r Beibl yn rhoi’r cyngor gorau i helpu gwŷr a gwragedd feithrin y rhinweddau sydd eu hangen i greu priodas hapus a pharhaol. Nid yw hynny’n syndod, gan mai Awdur y Beibl, Jehofa, yw’r un a greodd briodas.—Mathew 19:4-6.
Egwyddor o’r Beibl: “Fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw, sy’n dy ddysgu di er dy les.”—Eseia 48:17.
a O’r llyfr Your Growing Child—From Babyhood Through Adolescence.