Neidio i'r cynnwys

HELP AR GYFER Y TEULU

Siarad â’ch Plant am Alcohol

Siarad â’ch Plant am Alcohol

 “Y tro cyntaf gwnaethon ni siarad â’n merch am alcohol, roedd hi’n chwech oed. Roedden ni wedi synnu ei bod hi’n gwybod cryn dipyn am alcohol.”​—Alexander.

 Beth ddylech chi ei wybod?

 Mae siarad â’ch plant am alcohol yn hanfodol. Peidiwch ag aros nes bod eich plentyn yn ei arddegau. “Dw i’n difaru peidio â thrafod y ffordd gywir o drin alcohol gyda fy mab ers oedran cynnar. Dysgais pa mor bwysig oedd hyn ar ôl profiad anodd. Wnes i ganfod bod fy mab wedi yfed alcohol yn aml ers iddo fod yn 13,” meddai Khamit, o Rwsia.

 Pam dylech chi boeni?

  •   Mae ffrindiau ysgol, hysbysebion, a’r teledu yn gallu effeithio ar agwedd eich plentyn tuag at alcohol.

  •   Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, mae yfed dan oed yng Nghymru yn parhau i fod yn achos pryder, gydag 17% o fechgyn ac 14% o ferched 11-16 mlwydd oed yn yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos.

 Nid yw’n syndod felly fod swyddogion iechyd yn awgrymu bod rhieni yn dysgu eu plant am beryglon alcohol o oedran ifanc. Sut medrwch chi wneud hynny?

 Beth allwch chi ei wneud?

 Rhagweld cwestiynau eich plentyn. Mae plant ifanc yn chwilfrydig, ond mae plant hŷn yn fwy chwilfrydig byth. Felly peth da fydd paratoi o flaen llaw sut rydych chi am ateb. Er enghraifft:

  •   Os ydy eich plentyn yn awyddus i wybod sut flas sydd ar alcohol, gallwch ddweud bod gwin yn debyg i sudd ffrwyth sur, a bod cwrw yn gallu blasu’n chwerw.

  •   Os ydy eich plentyn eisiau blasu alcohol, gallwch ddweud bod alcohol yn rhy gryf i gorff plentyn. Sôniwch am yr effeithiau: Mae Alcohol yn gwneud i bobl ymlacio, ond mae yfed gormod yn achosi iddyn nhw deimlo’n chwil, gwneud pethau twp, a dweud pethau y byddan nhw’n difaru.​—Diarhebion 23:29-​35.

 Addysgwch eich hun. Mae’r Beibl yn dweud: “Mae pawb call yn gwneud beth sy’n ddoeth.” (Diarhebion 13:16) Gwnewch yn sicr eich bod yn gwybod rheolau eich gwlad ynglŷn â defnydd cyfreithiol alcohol. Wedyn, byddwch chi’n barod i helpu’ch plentyn.

 Achub y blaen wrth drafod y pwnc. Dywed Mark, tad o Brydain: “Mae defnydd alcohol yn gallu drysu rhai ifanc. Gofynnais i fy mab wyth oed, a yw yfed alcohol yn beth da neu ddrwg. Wnes i wneud yn siŵr bod ’na awyrgylch anffurfiol fel ei fod yn teimlo’n ddigon cyfforddus i fynegi ei farn yn agored.”

 Byddwch yn creu argraff gryfach os ydych yn trafod alcohol ar fwy nag un achlysur. Yn ôl oedran eich plentyn, gallwch chi sôn am alcohol pan ydych yn sgwrsio am bethau eraill sy’n bwysig mewn bywyd, megis diogelwch ar y ffyrdd ac addysg rhyw.

 Gosodwch yr esiampl. Mae plentyn yn debyg i sbwng—yn amsugno beth sydd o’i gwmpas—ac mae ymchwil yn dangos mai rhieni sy’n cael y dylanwad mwyaf ar eu plant. Mae hyn yn golygu, os ydych yn dibynnu ar alcohol i ymlacio neu i leddfu ar bwysau bywyd, bydd eich plentyn yn cael y syniad mai alcohol yw’r ateb i bryderon bywyd. Felly, gosodwch y patrwm. Gwnewch yn siŵr eich bod chi yn defnyddio alcohol mewn ffordd gyfrifol.

Bydd eich plant yn dysgu o’ch esiampl ynglŷn â defnydd o alcohol