Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

Llyfr Cyntaf Brenhinoedd

Penodau

Braslun o'r Cynnwys

  • 1

    • Dafydd ac Abisag (1-4)

    • Adoneia yn ceisio cipio’r orsedd (5-10)

    • Nathan a Bath-seba yn gweithredu (11-27)

    • Dafydd yn gorchymyn bod Solomon yn cael ei eneinio (28-40)

    • Adoneia yn ffoi i’r allor (41-53)

  • 2

    • Dafydd yn rhoi cyfarwyddiadau i Solomon (1-9)

    • Dafydd yn marw; Solomon ar yr orsedd (10-12)

    • Cynllwyn Adoneia yn arwain at ei farwolaeth (13-25)

    • Abiathar yn cael ei anfon i ffwrdd; Joab yn cael ei ladd (26-35)

    • Simei yn cael ei ladd (36-46)

  • 3

    • Solomon yn priodi merch Pharo (1-3)

    • Jehofa yn ymddangos i Solomon mewn breuddwyd (4-15)

      • Solomon yn gofyn am ddoethineb (7-9)

    • Solomon yn barnu rhwng dwy fam (16-28)

  • 4

    • Gweinyddiaeth Solomon (1-19)

    • Llwyddiant o dan deyrnasiad Solomon (20-28)

      • Heddwch o dan winwydden a choeden ffigys (25)

    • Doethineb a diarhebion Solomon (29-34)

  • 5

    • Y Brenin Hiram yn darparu deunydd adeiladu (1-12)

    • Y gweithlu roedd Solomon wedi ei orfodi i weithio iddo (13-18)

  • 6

    • Solomon yn adeiladu’r deml (1-38)

      • Yr ystafell fewnol (19-22)

      • Y cerwbiaid (23-28)

      • Lluniau wedi eu cerfio, drysau, cwrt mewnol (29-36)

      • Y deml wedi ei chwblhau mewn tua saith mlynedd (37, 38)

  • 7

    • Safle palas Solomon (1-12)

    • Hiram fedrus i helpu Solomon (13-47)

      • Y ddwy golofn o gopr (15-22)

      • Y Môr o fetel wedi ei gastio (23-26)

      • Deg cerbyd a deg basn copr (27-39)

    • Yr offer aur yn cael eu cwblhau (48-51)

  • 8

    • Dod â’r Arch i mewn i’r deml (1-13)

    • Solomon yn annerch y bobl (14-21)

    • Gweddi Solomon i gysegru’r deml (22-53)

    • Solomon yn bendithio’r bobl (54-61)

    • Aberthau a gŵyl gysegru (62-66)

  • 9

    • Jehofa yn ymddangos i Solomon eto (1-9)

    • Anrheg Solomon i’r Brenin Hiram (10-14)

    • Prosiectau amrywiol Solomon (15-28)

  • 10

    • Brenhines Seba yn ymweld â Solomon (1-13)

    • Cyfoeth enfawr Solomon (14-29)

  • 11

    • Gwragedd Solomon yn troi ei galon (1-13)

    • Gwrthwynebwyr yn erbyn Solomon (14-25)

    • Deg llwyth yn cael eu haddo i Jeroboam (26-40)

    • Solomon yn marw; Rehoboam yn cael ei wneud yn frenin (41-43)

  • 12

    • Ateb cas Rehoboam (1-15)

    • Deg llwyth yn gwrthryfela (16-19)

    • Jeroboam yn cael ei wneud yn frenin ar Israel (20)

    • Rehoboam i beidio â brwydro yn erbyn Israel (21-24)

    • Jeroboam yn annog y bobl i addoli lloeau (25-33)

  • 13

    • Proffwydoliaeth yn erbyn yr allor ym Methel (1-10)

      • Allor yn cael ei chwalu (5)

    • Dyn y gwir Dduw yn anufudd (11-34)

  • 14

    • Proffwydoliaeth Aheia yn erbyn Jeroboam (1-20)

    • Rehoboam yn teyrnasu dros Jwda (21-31)

  • 15

    • Abeiam, brenin Jwda (1-8)

    • Asa, brenin Jwda (9-24)

    • Nadab, brenin Israel (25-32)

    • Baasa, brenin Israel (33, 34)

  • 16

    • Barnedigaeth Jehofa yn erbyn Baasa (1-7)

    • Ela, brenin Israel (8-14)

    • Simri, brenin Israel (15-20)

    • Omri, brenin Israel (21-28)

    • Ahab, brenin Israel (29-33)

    • Hiel yn ailadeiladu Jericho (34)

  • 17

    • Y proffwyd Elias yn rhagfynegi sychder (1)

    • Cigfrain yn dod â bwyd i Elias (2-7)

    • Elias yn ymweld â gweddw yn Sareffath (8-16)

    • Mab y weddw yn marw ac yn cael ei atgyfodi (17-24)

  • 18

    • Elias yn cyfarfod Obadeia ac Ahab (1-18)

    • Elias yn erbyn proffwydi Baal yng Ngharmel (19-40)

      • “Cloffi rhwng dau feddwl” (21)

    • Diwedd y sychder o dair blynedd a hanner (41-46)

  • 19

    • Elias yn ffoi oddi wrth ddicter Jesebel (1-8)

    • Jehofa yn ymddangos i Elias yn Horeb (9-14)

    • Elias i eneinio Hasael, Jehu, ac Eliseus (15-18)

    • Eliseus yn cael ei benodi i gymryd lle Elias (19-21)

  • 20

    • Syriaid yn rhyfela yn erbyn Ahab (1-12)

    • Ahab yn trechu’r Syriaid (13-34)

    • Proffwydoliaeth yn erbyn Ahab (35-43)

  • 21

    • Ahab eisiau gwinllan Naboth (1-4)

    • Jesebel yn trefnu marwolaeth Naboth (5-16)

    • Neges Elias yn erbyn Ahab (17-26)

    • Ahab yn ei wneud ei hun yn isel (27-29)

  • 22

    • Jehosaffat yn ochri ag Ahab (1-12)

    • Michea yn proffwydo gorchfygiad (13-28)

      • Ysbryd yn twyllo Ahab (21, 22)

    • Ahab yn cael ei ladd yn Ramoth-gilead (29-40)

    • Teyrnasiad Jehosaffat dros Jwda (41-50)

    • Ahaseia, brenin Israel (51-53)