Cyntaf Brenhinoedd 1:1-53

  • Dafydd ac Abisag (1-4)

  • Adoneia yn ceisio cipio’r orsedd (5-10)

  • Nathan a Bath-seba yn gweithredu (11-27)

  • Dafydd yn gorchymyn bod Solomon yn cael ei eneinio (28-40)

  • Adoneia yn ffoi i’r allor (41-53)

1  Nawr roedd y Brenin Dafydd wedi mynd yn hen erbyn hyn, ac er iddyn nhw roi blancedi drosto, roedd yn methu cynhesu.  Felly dywedodd ei weision wrtho: “Gad inni chwilio am ferch, gwyryf, ar dy gyfer di, ein harglwydd y brenin, a bydd hi’n nyrs iti ac yn gofalu amdanat ti. Bydd hi’n gorwedd yn dy freichiau er mwyn i’n harglwydd y brenin deimlo’n gynnes.”  Dyma nhw’n chwilio drwy diriogaeth Israel i gyd am ferch brydferth, a daethon nhw o hyd i Abisag o Sunem a dod â hi i mewn at y brenin.  Roedd y ferch yn hynod o hardd, a dechreuodd hi ofalu am y brenin fel nyrs iddo, ond wnaeth y brenin ddim cael rhyw gyda hi.  Yn y cyfamser, roedd Adoneia fab Haggith yn ceisio mwy o rym iddo’i hun, gan ddweud: “Rydw i am fod yn frenin!” Gorchmynnodd fod cerbyd yn cael ei wneud iddo gyda marchogion a 50 o ddynion i redeg o’i flaen.  Ond doedd ei dad erioed wedi ei geryddu* drwy ddweud: “Pam rwyt ti wedi gwneud hyn?” Roedd ef hefyd yn olygus iawn, a chafodd ei eni ar ôl Absalom.  Roedd Adoneia yn ymgynghori â Joab fab Seruia ac Abiathar yr offeiriad, ac roedden nhw’n ei helpu ac yn ei gefnogi.  Ond nid oedd Sadoc yr offeiriad, Benaia fab Jehoiada, Nathan y proffwyd, Simei, Rei, na milwyr dewr Dafydd yn cefnogi Adoneia.  Yn y pen draw, dyma Adoneia yn aberthu defaid, gwartheg, ac anifeiliaid tew wrth ymyl carreg Soheleth, sy’n agos i En-rogel. Gwnaeth ef wahodd ei holl frodyr, meibion y brenin, a holl ddynion Jwda a oedd yn weision i’r brenin. 10  Ond wnaeth ef ddim gwahodd Nathan y proffwyd, Benaia a’r milwyr dewr, na Solomon ei frawd. 11  Yna dywedodd Nathan wrth Bath-seba, mam Solomon: “Onid wyt ti wedi clywed bod Adoneia fab Haggith wedi dod yn frenin, heb i’n harglwydd Dafydd wybod am y peth? 12  Felly nawr, plîs gad imi roi cyngor iti, er mwyn iti allu achub dy fywyd dy hun a bywyd dy fab Solomon. 13  Dos i mewn at y Brenin Dafydd a dyweda wrtho: ‘Onid y ti, fy arglwydd y brenin, a wnaeth addo i dy forwyn, “Dy fab Solomon fydd yn frenin ar fy ôl i, ac ef yw’r un a fydd yn eistedd ar fy ngorsedd”? Felly pam mae Adoneia wedi dod yn frenin?’ 14  Tra byddi di yn dal yno yn siarad â’r brenin, bydda i’n dod i mewn ar dy ôl di ac yn cadarnhau beth rwyt ti’n ei ddweud.” 15  Felly aeth Bath-seba i mewn at y brenin, i mewn i’w ystafell breifat. Roedd y brenin yn hen iawn, ac roedd Abisag o Sunem yn gofalu am y brenin. 16  Yna dyma Bath-seba yn ymgrymu’n isel o flaen y brenin â’i hwyneb ar y llawr, a dywedodd y brenin: “Beth rwyt ti eisiau?” 17  Atebodd hi: “Fy arglwydd, y ti wnaeth addo i dy forwyn yn enw Jehofa* dy Dduw, ‘Dy fab Solomon fydd yn frenin ar fy ôl i, ac ef yw’r un fydd yn eistedd ar fy ngorsedd.’ 18  Ond edrycha! mae Adoneia wedi dod yn frenin, ac nid wyt ti, fy arglwydd y brenin, yn gwybod dim am y peth. 19  Gwnaeth ef aberthu nifer mawr o deirw, anifeiliaid tew, a defaid, a gwahodd holl feibion y brenin ac Abiathar yr offeiriad a Joab, pennaeth y fyddin; ond wnaeth ef ddim gwahodd dy was Solomon. 20  Ac nawr, fy arglwydd y brenin, mae llygaid Israel i gyd yn edrych arnat ti i wybod pwy fydd yn eistedd ar dy orsedd ar dy ôl di, fy arglwydd y brenin. 21  Fel arall, cyn gynted ag y bydd fy arglwydd y brenin wedi marw,* bydda i a fy mab Solomon yn cael ein hystyried yn fradwyr.” 22  A thra oedd hi’n dal i siarad â’r brenin, daeth Nathan y proffwyd i mewn. 23  Ar unwaith, cafodd y brenin wybod: “Mae Nathan y proffwyd yma!” Aeth i mewn at y brenin ac ymgrymu o’i flaen â’i wyneb ar y llawr. 24  Yna dywedodd Nathan: “Fy arglwydd y brenin, a wnest ti ddweud, ‘Adoneia fydd yn frenin ar fy ôl i, ac ef yw’r un a fydd yn eistedd ar fy ngorsedd’? 25  Oherwydd heddiw mae ef wedi mynd i lawr i aberthu nifer mawr o deirw, anifeiliaid tew, a defaid, ac mae wedi gwahodd holl feibion y brenin a phenaethiaid y fyddin ac Abiathar yr offeiriad. Maen nhw yno yn bwyta ac yn yfed gydag ef, ac maen nhw’n dweud, ‘Hir oes i’r Brenin Adoneia!’ 26  Ond wnaeth ef ddim fy ngwahodd i, na Sadoc yr offeiriad, na Benaia fab Jehoiada, na dy fab Solomon. 27  A wyt ti, fy arglwydd y brenin, wedi cymeradwyo hyn heb ddweud wrth dy was pwy ddylai eistedd ar orsedd fy arglwydd y brenin ar ei ôl?” 28  Nawr atebodd y Brenin Dafydd: “Galwch Bath-seba ata i.” A gyda hynny daeth hi i mewn a sefyll o flaen y brenin. 29  Yna addawodd y brenin ar lw: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, yr un wnaeth fy achub i o bob helynt, 30  yn union fel gwnes i addo iti yn enw Jehofa, Duw Israel, gan ddweud, ‘Dy fab Solomon fydd yn frenin ar fy ôl i, ac ef yw’r un a fydd yn eistedd ar fy ngorsedd yn fy lle i!’ dyna beth bydda i’n ei achosi i ddigwydd heddiw.” 31  Yna dyma Bath-seba yn ymgrymu’n isel o flaen y brenin â’i hwyneb ar y llawr a dweud: “Hir oes i fy arglwydd y Brenin Dafydd!” 32  Ar unwaith, dywedodd y Brenin Dafydd: “Galwch Sadoc yr offeiriad ata i, yn ogystal â Nathan y proffwyd, a Benaia fab Jehoiada.” Felly daethon nhw i mewn at y brenin. 33  Dywedodd y brenin wrthyn nhw: “Cymerwch fy ngweision a rhowch fy mab Solomon ar gefn fy mul* fy hun, a’i arwain i lawr i Gihon. 34  Bydd Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd yn ei eneinio yno yn frenin ar Israel; yna canwch y corn a dywedwch, ‘Hir oes i’r Brenin Solomon!’ 35  Yna dilynwch ef yn ôl, a bydd yn dod i mewn ac yn eistedd ar fy ngorsedd; a bydd yn frenin yn fy lle i, a bydda i’n ei benodi yn arweinydd dros Israel a thros Jwda.” 36  Ar unwaith, dywedodd Benaia fab Jehoiada wrth y brenin: “Amen! Gad i Jehofa, Duw fy arglwydd y brenin, gymeradwyo hynny. 37  Yn union fel roedd Jehofa gyda fy arglwydd y brenin, gad iddo hefyd fod gyda Solomon, a gad iddo wneud ei orsedd yn fwy grymus na gorsedd fy arglwydd y Brenin Dafydd.” 38  Yna dyma Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd, Benaia fab Jehoiada, a’r Cerethiaid a’r Pelethiaid yn mynd i lawr ac yn rhoi Solomon ar gefn mul* y Brenin Dafydd, a daethon nhw ag ef i Gihon. 39  Nesaf, cymerodd Sadoc yr offeiriad y corn olew allan o’r babell ac eneinio Solomon, a dechreuon nhw ganu’r corn, a dechreuodd y bobl i gyd weiddi: “Hir oes i’r Brenin Solomon!” 40  Ar ôl hynny, dyma’r bobl i gyd yn ei ddilyn yn ôl gan chwarae ffliwtiau a dathlu gymaint nes iddyn nhw hollti’r ddaear gyda’u twrw. 41  Gwnaeth Adoneia, a phawb roedd ef wedi eu gwahodd, glywed hyn ar ôl iddyn nhw orffen bwyta. Cyn gynted ag y clywodd Joab sŵn y corn, dywedodd: “Pam mae ’na gymaint o dwrw yn y ddinas?” 42  Tra oedd yn dal i siarad, cyrhaeddodd Jonathan fab Abiathar yr offeiriad. Yna dywedodd Adoneia: “Tyrd i mewn, oherwydd rwyt ti’n ddyn da* ac mae’n rhaid fod gen ti newyddion da.” 43  Ond atebodd Jonathan: “Nac oes! Mae ein harglwydd y Brenin Dafydd wedi gwneud Solomon yn frenin. 44  Dyma’r brenin yn anfon Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd, Benaia fab Jehoiada, a’r Cerethiaid a’r Pelethiaid gydag ef, a dyma nhw’n rhoi Solomon ar gefn mul* y brenin. 45  Yna dyma Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd yn ei eneinio yn frenin yn Gihon. Ar ôl hynny, daethon nhw o fan ’na yn llawenhau, ac mae’r ddinas yn llawn cynnwrf. Dyna oedd yr holl dwrw gwnaethoch chi ei glywed. 46  Ar ben hynny, mae Solomon wedi eistedd ar yr orsedd frenhinol. 47  A rhywbeth arall, mae gweision y brenin wedi dod i mewn i longyfarch ein harglwydd y Brenin Dafydd, gan ddweud, ‘Gad i dy Dduw wneud enw Solomon yn fwy gogoneddus na dy enw di, a gad iddo wneud gorsedd Solomon yn fwy grymus na dy orsedd di!’ Gyda hynny dyma’r brenin yn ymgrymu i Dduw ar ei wely. 48  A gwnaeth y brenin hefyd ddweud, ‘Clod i Jehofa, Duw Israel, sydd wedi penodi rhywun heddiw i eistedd ar fy ngorsedd ac sydd wedi caniatáu imi weld hynny â fy llygaid fy hun!’” 49  A dyma bawb roedd Adoneia wedi eu gwahodd yn dychryn. Felly cododd pob un ohonyn nhw a mynd ei ffordd ei hun. 50  Roedd Adoneia hefyd yn ofni Solomon, felly cododd a mynd i’r tabernacl a chydio yng nghyrn yr allor. 51  Cafodd Solomon wybod: “Mae Adoneia wedi dechrau ofni’r Brenin Solomon ac mae wedi cydio yng nghyrn yr allor gan ddweud, ‘Gad i’r Brenin Solomon addo i mi yn gyntaf na fydd yn lladd ei was â’r cleddyf.’” 52  Atebodd Solomon: “Os bydd ef yn ymddwyn mewn ffordd deilwng, ni fydd yr un blewyn o’i wallt yn syrthio i’r ddaear; ond os bydd yn gwneud rhywbeth drwg, bydd rhaid iddo farw.” 53  Felly dyma’r Brenin Solomon yn anfon dynion i ddod ag ef i lawr o’r allor. Yna daeth i mewn ac ymgrymu o flaen y Brenin Solomon, ac ar ôl hynny dywedodd Solomon wrtho: “Dos i dy dŷ dy hun.”

Troednodiadau

Neu “wedi brifo ei deimladau.”
Enw personol unigryw Duw sy’n cael ei gynrychioli gan y pedair cytsain Hebraeg יהוה (YHWH). Mae’n ymddangos bron 7,000 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg.
Neu “wedi gorwedd i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Hynny yw, mules.
Hynny yw, mules.
Neu “rwyt ti’n ddyn teilwng.”
Hynny yw, mules.