Cyntaf Brenhinoedd 10:1-29

  • Brenhines Seba yn ymweld â Solomon (1-13)

  • Cyfoeth enfawr Solomon (14-29)

10  Nawr roedd brenhines Seba wedi clywed am Solomon a’i gysylltiad ag enw Jehofa, felly daeth hi i’w roi ar brawf drwy ofyn cwestiynau cymhleth.*  Dyma hi’n cyrraedd Jerwsalem gyda grŵp mawr o weision, gyda chamelod yn cario olew balm a llawer iawn o aur a gemau gwerthfawr. Aeth hi i mewn at Solomon a siarad ag ef am bopeth a oedd yn agos at ei chalon.  Yna atebodd Solomon ei holl gwestiynau. Doedd dim byd yn rhy anodd i’r brenin ei esbonio iddi.  Pan welodd brenhines Seba holl ddoethineb Solomon, y tŷ roedd ef wedi ei adeiladu,  y bwyd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd wrth ei fwrdd, y ffordd roedd ei weision yn gweini a’r dillad crand roedden nhw’n eu gwisgo, ei brif weision gweini,* a’r offrymau llosg roedd yn eu cynnig yn nhŷ Jehofa yn rheolaidd, roedd hi wedi ei syfrdanu’n llwyr.  Felly dywedodd hi wrth y brenin: “Mae popeth glywais i yn fy ngwlad fy hun am dy ddoethineb a’r pethau rwyt ti wedi eu cyflawni* yn wir.  Ond doeddwn i ddim yn credu’r hyn roeddwn i wedi ei glywed nes imi ddod a’i weld â fy llygaid fy hun. Ac edrycha! doeddwn i ddim wedi clywed yr hanner. Rwyt ti’n llawer mwy doeth a chyfoethog nag yr oeddwn i wedi clywed.  Mor hapus ydy dy bobl, ac mor hapus ydy dy weision sy’n sefyll o dy flaen di o hyd yn gwrando ar dy ddoethineb!  Clod i Jehofa dy Dduw, yr un sy’n hapus â’r hyn rwyt ti’n ei wneud ac sydd felly wedi dy wneud di’n frenin ar Israel. Oherwydd cariad tragwyddol Jehofa, mae ef wedi dy benodi di’n frenin i farnu’n deg ac i reoli’n gyfiawn.” 10  Yna, rhoddodd hi 120 talent* o aur a llawer iawn o olew balm a gemau gwerthfawr i’r brenin. Ddaeth neb â chymaint â hynny o olew balm i mewn i’r wlad byth eto. 11  Roedd llynges Hiram yn cario aur o Offir a hefyd yn dod â choed sandalwydd* o Offir mewn niferoedd enfawr, yn ogystal â gemau gwerthfawr. 12  Defnyddiodd y brenin y coed sandalwydd er mwyn gwneud cynhalbyst ar gyfer tŷ Jehofa ac ar gyfer tŷ’r brenin,* yn ogystal ag er mwyn gwneud telynau ac offerynnau llinynnol i’r cantorion. Does neb wedi gweld y fath goed sandalwydd hyd heddiw nac wedi dod â chymaint i mewn i’r wlad chwaith. 13  Beth bynnag roedd brenhines Seba eisiau neu’n gofyn amdano roedd y Brenin Solomon yn ei roi iddi, yn ychwanegol i’r hyn roedd ef wedi ei roi iddi allan o’i haelioni ei hun. Ar ôl hynny, dyma hi’n gadael ac yn mynd yn ôl i’w gwlad ei hun gyda’i gweision. 14  Ac roedd yr holl aur roedd Solomon yn ei dderbyn mewn blwyddyn yn pwyso 666 talent, 15  heb sôn am yr hyn roedd yn ei gael gan y masnachwyr, a’r elw gan y marchnadwyr a gan holl frenhinoedd Arabia a llywodraethwyr y wlad. 16  Gwnaeth y Brenin Solomon 200 tarian fawr o aloi aur (aeth 600 sicl* o aur ar bob tarian) 17  a 300 bwcler* o aloi aur (aeth tri mina* o aur ar bob bwcler). Yna dyma’r brenin yn eu rhoi nhw yn Nhŷ Coedwig Lebanon. 18  Hefyd gwnaeth y brenin orsedd ifori fawr a’i gorchuddio ag aur wedi ei buro. 19  Roedd ’na chwe stepen yn arwain at yr orsedd, ac roedd gan yr orsedd ganopi crwn y tu ôl iddi a dwy fraich, ac roedd ’na ddau lew yn sefyll bob ochr iddi. 20  Ac roedd ’na 12 llew yn sefyll ar y chwe stepen, un ar bob pen i’r chwe stepen. Doedd dim teyrnas arall wedi gwneud unrhyw beth tebyg. 21  Roedd holl gwpanau y Brenin Solomon wedi eu gwneud o aur, ac roedd holl lestri ac offer gweini Tŷ Coedwig Lebanon wedi eu gwneud o aur pur. Doedd dim byd wedi ei wneud o arian oherwydd roedd arian yn cael ei ystyried yn ddiwerth yn nyddiau Solomon. 22  Roedd gan y brenin lynges o longau Tarsis ar y môr a oedd yn hwylio gyda llynges Hiram. Unwaith bob tair blynedd byddai’r llynges o longau Tarsis yn dychwelyd wedi eu llwytho ag aur ac arian, ifori, epaod, a pheunod. 23  Felly roedd y Brenin Solomon yn fwy cyfoethog ac yn ddoethach na holl frenhinoedd eraill y ddaear. 24  Ac roedd pobl y ddaear gyfan eisiau mynd i weld Solomon i glywed y doethineb roedd Duw wedi ei roi yn ei galon. 25  Byddai pob un yn dod ag anrheg—pethau wedi eu gwneud o arian, pethau wedi eu gwneud o aur, dillad, arfau, olew balm, ceffylau, a mulod—ac roedd hyn yn digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn. 26  A pharhaodd Solomon i gasglu cerbydau a cheffylau;* roedd ganddo 1,400 o gerbydau a 12,000 o geffylau,* ac roedd yn eu cadw nhw yn y dinasoedd cerbyd ac yn agos at y brenin yn Jerwsalem. 27  Dyma’r brenin yn gwneud yr arian yn Jerwsalem mor gyffredin â’r cerrig, a’r coed cedrwydd mor gyffredin â’r coed sycamor yn y Seffela. 28  Roedd ceffylau Solomon wedi cael eu mewnforio o’r Aifft, a byddai grŵp o fasnachwyr y brenin yn prynu’r ceffylau fesul gyr* am un pris. 29  Roedd pob cerbyd a oedd yn cael ei fewnforio o’r Aifft yn costio 600 darn o arian, ac roedd ceffyl yn costio 150 darn o arian; yn eu tro bydden nhw’n eu hallforio nhw i holl frenhinoedd yr Hethiaid a brenhinoedd Syria.

Troednodiadau

Neu “drwy osod posau.”
Neu “ei drulliaid,” swyddogion y llys brenhinol a oedd yn tywallt gwin neu ddiodydd eraill i’r brenin.
Neu “dweud.”
Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).
Hynny yw, coed almug.
Neu “palas y brenin.”
Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).
Tarian fach oedd yn aml yn cael ei chario gan fwasaethwyr.
Yn yr Ysgrythurau Hebraeg roedd mina yn gyfartal â 570 g (18.35 oz t).
Neu “marchogion.”
Neu “o farchogion.”
Neu efallai, “o’r Aifft ac o Cwe; byddai masnachwyr y brenin yn eu prynu nhw o Cwe,” efallai’n cyfeirio at Cilicia.