Cyntaf Brenhinoedd 11:1-43

  • Gwragedd Solomon yn troi ei galon (1-13)

  • Gwrthwynebwyr yn erbyn Solomon (14-25)

  • Deg llwyth yn cael eu haddo i Jeroboam (26-40)

  • Solomon yn marw; Rehoboam yn cael ei wneud yn frenin (41-43)

11  Roedd y Brenin Solomon yn caru llawer o ferched* estron yn ogystal â merch Pharo: merched* o blith y Moabiaid, yr Ammoniaid, y Sidoniaid, a’r Hethiaid.  Roedden nhw’n dod o blith y cenhedloedd roedd Jehofa wedi sôn amdanyn nhw wrth yr Israeliaid drwy ddweud: “Mae’n rhaid ichi beidio â chymysgu â nhw,* a ddylen nhwthau ddim cymysgu â chi, oherwydd byddan nhw’n sicr yn troi eich calonnau i ddilyn eu duwiau nhw.” Ond roedd Solomon yn dal i lynu wrthyn nhw ac yn eu caru nhw.  Ac roedd ganddo 700 o wragedd a oedd yn dywysogesau a 300 o wragedd eraill,* a gwnaeth ei wragedd droi ei galon oddi wrth Dduw fesul tipyn.*  Wrth i Solomon heneiddio, gwnaeth ei wragedd ddenu ei galon* i ddilyn duwiau eraill, a doedd ei galon ddim yn hollol ffyddlon* i Jehofa ei Dduw fel roedd calon ei dad, Dafydd.  A dilynodd Solomon Astoreth, duwies y Sidoniaid, a Milcom duw ffiaidd yr Ammoniaid.  Gwnaeth Solomon beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, ac ni wnaeth ef ddilyn Jehofa yn llwyr fel roedd ei dad, Dafydd, wedi gwneud.  Dyna pryd adeiladodd Solomon uchelfan i Cemos, duw ffiaidd Moab, ac un arall i Moloch, duw ffiaidd yr Ammoniaid, ar y mynydd o flaen Jerwsalem.  Dyna beth wnaeth ef ar gyfer ei holl wragedd estron a oedd yn gwneud i fwg godi wrth iddyn nhw aberthu i’w duwiau.  Gwylltiodd Jehofa yn lân â Solomon, oherwydd roedd ei galon wedi troi oddi wrth Jehofa, Duw Israel, a oedd wedi ymddangos iddo ddwywaith 10  a’i rybuddio am yr union beth hwn, iddo beidio â mynd ar ôl duwiau eraill. Ond doedd ef ddim yn ufudd i orchmynion Jehofa. 11  Yna dywedodd Jehofa wrth Solomon: “Am dy fod ti wedi gwneud hyn, ac am dy fod ti heb gadw fy nghyfamod na’r deddfau rydw i wedi eu gorchymyn iti, bydda i’n sicr yn rhwygo’r deyrnas i ffwrdd oddi wrthot ti, a bydda i’n ei rhoi i un o dy weision. 12  Ond er mwyn dy dad Dafydd, fydda i ddim yn gwneud hyn yn ystod dy fywyd di, bydda i’n ei rhwygo allan o law dy fab, 13  ond fydda i ddim yn rhwygo’r deyrnas gyfan i ffwrdd, bydda i’n rhoi un llwyth i dy fab er mwyn fy ngwas Dafydd ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas rydw i wedi ei dewis.” 14  Yna, cododd Jehofa wrthwynebwr yn erbyn Solomon, Hadad yr Edomiad, o deulu brenhinol Edom. 15  Pan wnaeth Dafydd drechu Edom, aeth Joab, pennaeth y fyddin, i fyny i gladdu’r meirw, a cheisiodd Dafydd daro pob gwryw yn Edom i lawr. 16  (Arhosodd Joab ac Israel gyfan yno am chwe mis nes iddo gael gwared ar bob gwryw o Edom.) 17  Ond gwnaeth Hadad ffoi gyda rhai o weision ei dad a oedd yn Edomiaid, ac aethon nhw i’r Aifft; roedd Hadad yn fachgen ifanc ar y pryd. 18  Felly gadawon nhw Midian a dod i Paran. Cymeron nhw ddynion o Paran gyda nhw a dod i’r Aifft, at Pharo brenin yr Aifft a wnaeth roi tŷ a thir iddo, a gorchymyn i fwyd gael ei roi iddo yn rheolaidd. 19  Roedd Hadad yn plesio Pharo gymaint nes iddo roi chwaer ei wraig, Tahpenes y frenhines,* iddo er mwyn iddo ei phriodi. 20  Ymhen amser, dyma chwaer Tahpenes yn geni mab iddo, Genubath, a gwnaeth Tahpenes ei fagu yn nhŷ Pharo, ac arhosodd Genubath yn nhŷ Pharo ymhlith meibion Pharo. 21  Clywodd Hadad yn yr Aifft fod Dafydd wedi marw* a bod Joab, pennaeth y fyddin, hefyd wedi marw. Felly dywedodd Hadad wrth Pharo: “Anfona fi i ffwrdd er mwyn imi fynd i fy ngwlad fy hun.” 22  Ond dywedodd Pharo wrtho: “Pam rwyt ti eisiau mynd yn ôl i dy wlad dy hun? Beth rwyt ti’n brin ohono fan hyn?” I hynny dywedodd wrtho: “Dim byd, ond plîs anfona fi i ffwrdd.” 23  Hefyd, cododd Duw wrthwynebwr arall yn erbyn Solomon, Reson fab Eliada a oedd wedi ffoi oddi wrth ei arglwydd Hadadeser brenin Soba. 24  Pan drechodd Dafydd ddynion Soba, casglodd Reson ddynion at ei gilydd a daeth yn bennaeth ar grŵp o ladron. Felly aethon nhw i Ddamascus a setlo yno a dechrau teyrnasu yn Namascus. 25  Ac roedd yn gwrthwynebu Israel holl ddyddiau Solomon, gan ychwanegu at y niwed roedd Hadad wedi ei wneud, ac roedd yn casáu Israel tra oedd yn teyrnasu dros Syria. 26  Dechreuodd Jeroboam hefyd wrthryfela yn erbyn y brenin. Roedd Jeroboam yn fab i Nebat ac roedd yn ddyn o Sereda yn Effraim. Roedd yn un o weision Solomon, ac roedd ei fam yn wraig weddw o’r enw Serua. 27  Dyma pam gwnaeth ef wrthryfela yn erbyn y brenin: Roedd Solomon wedi adeiladu’r Bryn* ac wedi cau’r bwlch yn wal Dinas Dafydd ei dad. 28  Nawr roedd Jeroboam yn ddyn medrus. Pan welodd Solomon fod y dyn ifanc yn gweithio’n galed, dyma’n ei benodi’n arolygwr dros y rhai o dŷ Joseff a oedd yn cael eu gorfodi i weithio. 29  Tua’r adeg honno, aeth Jeroboam allan o Jerwsalem, a daeth y proffwyd Aheia o Seilo ar ei draws ar y ffordd. Roedd Aheia yn gwisgo dilledyn newydd ac roedd y ddau ohonyn nhw yno ar eu pennau eu hunain. 30  Gafaelodd Aheia yn y dilledyn newydd roedd yn ei wisgo a’i rwygo yn 12 darn. 31  Yna dywedodd wrth Jeroboam: “Cymera ddeg darn i ti dy hun, oherwydd dyma beth mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Rydw i’n rhwygo’r deyrnas allan o law Solomon, a bydda i’n rhoi deg llwyth i ti. 32  Ond bydda i’n cadw un llwyth er mwyn fy ngwas Dafydd ac er mwyn Jerwsalem, y ddinas rydw i wedi ei dewis allan o holl lwythau Israel. 33  Bydda i’n gwneud hyn am eu bod nhw wedi fy ngadael i, ac am eu bod nhw’n ymgrymu i Astoreth duwies y Sidoniaid, i Cemos duw Moab, ac i Milcom duw yr Ammoniaid, a dydyn nhw ddim wedi cerdded yn fy ffyrdd drwy wneud beth sy’n iawn yn fy ngolwg i a drwy gadw fy neddfau a fy marnedigaethau fel gwnaeth Dafydd, tad Solomon. 34  Ond fydda i ddim yn cymryd y deyrnas gyfan allan o law Solomon, a bydda i’n ei gadw yn bennaeth am holl ddyddiau ei fywyd er mwyn fy ngwas Dafydd y gwnes i ei ddewis, oherwydd roedd yn ufudd i fy ngorchmynion a fy neddfau. 35  Ond bydda i’n cymryd y frenhiniaeth o law ei fab ac yn ei rhoi i ti, hynny yw, deg llwyth. 36  Bydda i’n rhoi un llwyth i’w fab, fel bydd gan fy ngwas Dafydd lamp o fy mlaen i am byth yn Jerwsalem, y ddinas rydw i wedi ei dewis i fi fy hun i sefydlu fy enw yno. 37  Bydda i’n dy ddewis di a byddi di’n teyrnasu dros bopeth rwyt ti eisiau, a byddi di’n dod yn frenin ar Israel. 38  Ac os byddi di’n ufuddhau i bopeth rydw i’n ei orchymyn iti ac os byddi di’n cerdded yn fy ffyrdd ac yn gwneud beth sy’n iawn yn fy ngolwg drwy ufuddhau i fy ngorchmynion a fy neddfau, yn union fel gwnaeth fy ngwas Dafydd, bydda i gyda ti hefyd. A bydda i’n adeiladu tŷ iti a fydd yn para am amser hir, yn union fel y gwnes i adeiladu i Dafydd, a bydda i’n rhoi Israel iti. 39  A bydda i’n bychanu disgynyddion Dafydd oherwydd hyn i gyd, ond nid am byth.’” 40  Felly ceisiodd Solomon ladd Jeroboam, ond gwnaeth Jeroboam ffoi i’r Aifft, at Sisac brenin yr Aifft, ac arhosodd yn yr Aifft nes i Solomon farw. 41  Ynglŷn â gweddill hanes Solomon, popeth a wnaeth a’i ddoethineb, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes Solomon? 42  Teyrnasodd Solomon yn Jerwsalem dros Israel gyfan am 40 mlynedd. 43  Yna bu farw Solomon* a chafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd ei dad; a daeth ei fab Rehoboam yn frenin yn ei le.

Troednodiadau

Neu “o fenywod.”
Neu “menywod.”
Neu “Rhaid ichi beidio â’u priodi nhw.”
Neu “o wragedd gordderch,” hynny yw, gwragedd eilradd a oedd yn aml yn gaethferched.
Neu “ac roedd ei wragedd yn dylanwadu’n gryf arno.”
Neu “gwnaeth ei wragedd droi ei galon i ffwrdd.”
Neu “doedd ei galon ddim yn gyflawn.”
Brenhines doedd ddim yn rheoli.
Neu “wedi gorwedd i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Neu “Milo.” Term Hebraeg sy’n golygu “llenwi.”
Neu “Yna gorweddodd Solomon i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”