Cyntaf Brenhinoedd 12:1-33
12 Aeth Rehoboam i Sichem, oherwydd roedd Israel gyfan wedi mynd i Sichem i’w wneud yn frenin.
2 Clywodd Jeroboam fab Nebat am hyn (roedd yn dal i fyw yn yr Aifft am ei fod wedi rhedeg i ffwrdd oherwydd y Brenin Solomon).
3 Yna dyma ddynion Israel yn anfon amdano. Wedyn, daeth Jeroboam a holl gynulleidfa Israel at Rehoboam a dweud:
4 “Rhoddodd dy dad iau drom arnon ni a’n gorfodi ni i weithio’n galed. Ond os byddi di’n llai llym nag ef, ac yn gwneud ein bywydau yn haws, gwnawn ni dy wasanaethu di.”
5 Ar hynny dywedodd wrthyn nhw: “Ewch i ffwrdd am dri diwrnod; yna dewch yn ôl ata i.” Felly aeth y bobl i ffwrdd.
6 Yna dyma’r Brenin Rehoboam yn ymgynghori â’r dynion hŷn* a oedd wedi gwasanaethu ei dad Solomon tra oedd yn fyw, gan ddweud: “Pa gyngor byddech chi’n ei roi i mi ar sut i ateb y bobl?”
7 Dyma nhw’n ateb: “Os byddi di heddiw yn dod yn was i’r bobl ac yn ildio i’w cais ac yn eu hateb nhw’n garedig, byddan nhw’n wastad yn weision iti.”
8 Ond gwrthododd y cyngor a roddodd y dynion hŷn* iddo, ac aeth i ymgynghori â’r dynion ifanc oedd wedi tyfu i fyny* ag ef ac a oedd nawr yn swyddogion iddo.
9 Gofynnodd iddyn nhw: “Pa gyngor sydd gynnoch chi ar sut dylen ni ateb y bobl hyn sydd wedi dweud wrtho i, ‘Gwna’r iau roddodd dy dad arnon ni yn ysgafnach’?”
10 Dywedodd y dynion ifanc oedd wedi tyfu i fyny* ag ef: “Dyma beth dylet ti ei ddweud wrth y bobl hyn sydd wedi dweud wrthot ti, ‘Mae dy dad wedi rhoi iau drom arnon ni, ond dylet ti ei hysgafnhau inni’; dyma beth dylet ti ei ddweud wrthyn nhw, ‘Bydd fy mys bach yn fwy trwchus na chluniau fy nhad.
11 Rhoddodd fy nhad faich trwm arnoch chi, ond bydda i’n ychwanegu at eich baich. Gwnaeth fy nhad eich cosbi chi â chwipiau, ond bydda i’n eich cosbi chi â chwipiau llawer gwaeth.’”*
12 Daeth Jeroboam a’r holl bobl at Rehoboam ar y trydydd diwrnod, yn union fel roedd y brenin wedi dweud: “Dewch yn ôl ata i ar y trydydd diwrnod.”
13 Ond dyma’r brenin yn ateb y bobl yn llym, gan wrthod y cyngor roedd y dynion hŷn* wedi ei roi iddo.
14 Siaradodd â nhw yn ôl cyngor y dynion ifanc, gan ddweud: “Rhoddodd fy nhad faich trwm arnoch chi, ond bydda i’n ychwanegu at eich baich. Gwnaeth fy nhad eich cosbi chi â chwipiau, ond bydda i’n eich cosbi chi â chwipiau llawer gwaeth.”*
15 Felly wnaeth y brenin ddim gwrando ar y bobl, oherwydd roedd Jehofa wedi achosi hyn i gyd, er mwyn cyflawni’r addewid roddodd Jehofa i Jeroboam fab Nebat trwy Aheia o Seilo.
16 Pan welodd Israel gyfan fod y brenin yn gwrthod gwrando arnyn nhw, dyma nhw’n ateb y brenin: “Pa ran sydd gynnon ni yn Dafydd? Does gynnon ni ddim etifeddiaeth ym mab Jesse. Ewch yn ôl at eich duwiau, O Israel. Nawr edrycha ar ôl dy dŷ dy hun, O Dafydd!” Gyda hynny aeth Israel yn ôl i’w cartrefi.
17 Ond parhaodd Rehoboam i deyrnasu dros yr Israeliaid oedd yn byw yn ninasoedd Jwda.
18 Yna dyma’r Brenin Rehoboam yn anfon Adoram, a oedd yn gyfrifol am y rhai oedd wedi cael eu gorfodi i lafurio i’r brenin, ond gwnaeth Israel gyfan ei labyddio nes iddo farw. Llwyddodd y Brenin Rehoboam i ddringo i mewn i’w gerbyd a ffoi i Jerwsalem.
19 Ac mae’r Israeliaid wedi bod yn gwrthryfela yn erbyn tŷ Dafydd hyd heddiw.
20 Cyn gynted ag y clywodd Israel gyfan fod Jeroboam wedi dod yn ôl, dyma nhw’n trefnu cyfarfod ac yn galw amdano ac yn ei wneud yn frenin ar Israel gyfan. Dim ond llwyth Jwda a wnaeth aros yn ffyddlon i dŷ Dafydd.
21 Unwaith i Rehoboam gyrraedd Jerwsalem, casglodd holl dŷ Jwda a llwyth Benjamin at ei gilydd, 180,000 o filwyr oedd wedi cael eu hyfforddi, i frwydro yn erbyn tŷ Israel er mwyn adfer y frenhiniaeth i Rehoboam fab Solomon.
22 Yna daeth gair y gwir Dduw at Semaia, dyn y gwir Dduw, gan ddweud:
23 “Dyweda wrth Rehoboam fab Solomon brenin Jwda ac wrth holl dŷ Jwda a Benjamin a gweddill y bobl,
24 ‘Dyma mae Jehofa yn ei ddweud: “Mae’n rhaid ichi beidio â mynd i fyny a brwydro yn erbyn eich brodyr yr Israeliaid. Mae’n rhaid i bob un ohonoch chi fynd yn ôl i’w dŷ, oherwydd y fi sydd wedi achosi i hyn ddigwydd.”’” Felly dyma nhw’n ufuddhau i air Jehofa ac yn mynd yn ôl adref, fel roedd Jehofa wedi dweud wrthyn nhw.
25 Yna dyma Jeroboam yn ailadeiladu* Sechem yn ardal fynyddig Effraim a byw yno. O fan ’na aeth allan ac ailadeiladu* Penuel.
26 Dywedodd Jeroboam yn ei galon: “Nawr bydd y deyrnas yn dychwelyd i dŷ Dafydd.
27 Os ydy’r bobl hyn yn parhau i fynd i fyny i offrymu aberthau yn nhŷ Jehofa yn Jerwsalem, bydd calonnau’r bobl hefyd yn troi yn ôl at eu harglwydd, Rehoboam brenin Jwda. Ie, byddan nhw’n fy lladd i ac yn troi yn ôl at Rehoboam brenin Jwda.”
28 Ar ôl ymgynghori, dyma’r brenin yn gwneud dau lo aur ac yn dweud wrth y bobl: “Mae’n ormod i chi fynd i fyny i Jerwsalem. Dyma eich Duw, O Israel, yr un a ddaeth â chi i fyny allan o wlad yr Aifft.”
29 Yna rhoddodd un ym Methel a rhoddodd y llall yn Dan.
30 A gwnaeth hyn achosi iddyn nhw bechu, ac aeth y bobl mor bell â Dan i addoli’r llo oedd yno.
31 A chododd addoldai ar yr uchelfannau a phenododd offeiriaid o blith y bobl gyffredin, y rhai nad oedden nhw’n Lefiaid.
32 Gwnaeth Jeroboam hefyd sefydlu gŵyl yn yr wythfed mis, ar y pymthegfed* diwrnod o’r mis, fel yr ŵyl yn Jwda. Ar yr allor gwnaeth ef ei hadeiladu ym Methel, aberthodd i’r lloeau roedd ef wedi eu gwneud, ac ym Methel gwnaeth ef aseinio offeiriaid ar gyfer yr uchelfannau roedd ef wedi eu codi.
33 A dechreuodd offrymu ar yr allor roedd ef wedi ei hadeiladu ym Methel ar y pymthegfed* diwrnod yn yr wythfed mis, yn y mis roedd ef ei hun wedi ei ddewis; a sefydlodd ŵyl ar gyfer pobl Israel, a daeth at yr allor i gynnig offrymau ac i wneud i fwg godi oddi ar yr aberthau.
Troednodiadau
^ Neu “â’r henuriaid.”
^ Neu “yr henuriaid.”
^ Neu “tyfu lan.”
^ Neu “tyfu lan.”
^ Neu “â fflangellau.”
^ Neu “yr henuriaid.”
^ Neu “â fflangellau.”
^ Neu “cryfhau.”
^ Neu “a chryfhau.”
^ Neu “15fed.”
^ Neu “15fed.”