Cyntaf Brenhinoedd 13:1-34
13 Ar air Jehofa, daeth un o ddynion Duw o Jwda i Fethel tra oedd Jeroboam yn sefyll wrth yr allor yn llosgi aberthau.*
2 Yna cyhoeddodd air Jehofa yn erbyn yr allor gan ddweud: “O allor, allor! Dyma mae Jehofa yn ei ddweud: ‘Edrycha! Bydd mab o’r enw Joseia yn cael ei eni i dŷ Dafydd! Bydd yn aberthu offeiriaid yr uchelfannau arnat ti, y rhai sy’n gwneud i fwg godi o’u haberthau arnat ti, a bydd ef yn llosgi esgyrn dynol arnat ti.’”
3 Rhoddodd arwydd ar y diwrnod hwnnw, yn dweud: “Dyma’r arwydd mae Jehofa wedi ei ddatgan: Edrycha! Bydd yr allor yn cael ei malu, a bydd y lludw* sydd arni yn cael ei ollwng i’r llawr.”
4 Cyn gynted ag y clywodd y Brenin Jeroboam beth roedd dyn y gwir Dduw wedi ei ddweud yn erbyn yr allor ym Methel, cododd ei law oddi ar yr allor a’i hymestyn i gyfeiriad dyn y gwir Dduw a dweud: “Daliwch ef!” Ar unwaith, dyma ei law yn sychu,* a doedd ef ddim yn gallu ei thynnu yn ôl.
5 Yna cafodd yr allor ei chwalu, a chafodd y lludw oedd arni ei ollwng i’r llawr yn ôl yr arwydd roedd dyn y gwir Dduw wedi ei roi ar air Jehofa.
6 Nawr dywedodd y brenin wrth ddyn y gwir Dduw: “Plîs erfynia ar Jehofa dy Dduw am ei drugaredd, a gweddïa ar fy rhan fel bydd fy llaw yn cael ei hadfer.” Gyda hynny erfyniodd dyn y gwir Dduw ar Jehofa am ei drugaredd, a chafodd llaw y brenin ei hadfer i fel yr oedd hi o’r blaen.
7 Yna dywedodd y brenin wrth ddyn y gwir Dduw: “Tyrd adref gyda mi am ychydig o fwyd, a gad imi roi anrheg iti.”
8 Ond dywedodd dyn y gwir Dduw wrth y brenin: “Hyd yn oed petaset ti’n rhoi hanner dy dŷ imi, fyddwn i ddim yn dod gyda ti nac yn bwyta bara nac yn yfed dŵr yn y lle hwn.
9 Oherwydd dyma beth gwnaeth Jehofa ei orchymyn imi: ‘Mae’n rhaid iti beidio â bwyta bara nac yfed dŵr, ac mae’n rhaid iti beidio â dychwelyd ar hyd y ffordd y dest ti.’”
10 Felly dyma’n gadael ar hyd ffordd arall, a wnaeth ef ddim dychwelyd ar hyd y ffordd y daeth i Fethel.
11 Roedd ’na hen broffwyd yn byw ym Methel, a daeth ei feibion gartref ac adrodd wrtho yr holl bethau roedd dyn y gwir Dduw wedi eu gwneud y diwrnod hwnnw ym Methel, a beth roedd ef wedi ei ddweud wrth y brenin. Ar ôl iddyn nhw adrodd hyn wrth eu tad,
12 gofynnodd eu tad iddyn nhw: “Pa ffordd aeth ef?” Felly dangosodd ei feibion iddo pa ffordd roedd dyn y gwir Dduw o Jwda wedi mynd.
13 Nawr dywedodd wrth ei feibion: “Rhowch gyfrwy ar yr asyn imi.” Ar ôl iddyn nhw wneud hynny, dringodd ar gefn yr asyn.
14 Aeth ar ôl dyn y gwir Dduw a daeth o hyd iddo yn eistedd o dan goeden fawr. Yna dywedodd wrtho: “Ai ti yw dyn y gwir Dduw a ddaeth o Jwda?” Atebodd: “Ie.”
15 Dywedodd wrtho: “Tyrd adref gyda mi i fwyta bara.”
16 Ond atebodd: “Alla i ddim mynd yn ôl gyda ti na derbyn dy wahoddiad, ac alla i ddim bwyta bara nac yfed dŵr gyda ti yn y lle hwn chwaith.
17 Oherwydd gorchmynnodd Jehofa imi, ‘Mae’n rhaid iti beidio â bwyta bara nac yfed dŵr yno. Mae’n rhaid iti beidio â mynd yn ôl ar hyd y ffordd y dest ti.’”
18 Gyda hynny dywedodd yr hen broffwyd: “Rydw innau hefyd yn broffwyd fel ti, a rhoddodd angel y gorchymyn hwn imi gan Jehofa: ‘Cymera ef yn ôl gyda ti i dy dŷ, er mwyn iddo gael bwyta bara ac yfed dŵr.’” (Roedd yn ei dwyllo.)
19 Felly aeth yn ôl gydag ef i fwyta ac yfed yn ei dŷ.
20 Tra oedden nhw’n eistedd wrth y bwrdd, daeth neges Jehofa at y proffwyd oedd wedi dod ag ef yn ôl,
21 a chododd ei lais a dweud wrth ddyn y gwir Dduw o Jwda, “Dyma beth mae Jehofa yn ei ddweud: ‘Am dy fod ti wedi gwrthryfela yn erbyn gorchymyn Jehofa, a heb gadw’r gorchymyn roddodd Jehofa dy Dduw iti,
22 ond yn hytrach dest ti yn ôl i fwyta bara ac yfed dŵr yn y lle hwn, er ei fod eisoes wedi dweud wrthot ti, “Paid â bwyta bara nac yfed dŵr,” fydd dy gorff marw ddim yn mynd i feddrod dy gyndadau.’”
23 Ar ôl i ddyn y gwir Dduw fwyta ac yfed, dyma’r hen broffwyd yn paratoi’r asyn ar ei gyfer.*
24 Yna aeth dyn y gwir Dduw ar ei ffordd, ond daeth llew ar ei draws a’i ladd. Cafodd ei gorff marw ei daflu i’r ffordd, a safodd yr asyn wrth ei ymyl; roedd y llew hefyd yn sefyll wrth ymyl y corff marw.
25 Roedd ’na ddynion yn pasio heibio a dyma nhw’n gweld y corff marw oedd wedi ei daflu i’r ffordd a’r llew oedd yn sefyll wrth ymyl y corff marw. Daethon nhw i mewn i’r ddinas lle roedd yr hen broffwyd yn byw a sôn am y peth.
26 Pan glywodd yr hen broffwyd* beth ddigwyddodd, dywedodd ar unwaith: “Hwn ydy dyn y gwir Dduw a oedd wedi gwrthryfela yn erbyn gorchymyn Jehofa; felly rhoddodd Jehofa ef drosodd i’r llew, i’w larpio a’i ladd, yn ôl beth ddywedodd Jehofa wrtho.”
27 Yna dywedodd wrth ei feibion: “Paratowch* yr asyn imi.” Felly dyma nhw’n gwneud hynny.
28 Yna aeth ar ei ffordd a dod o hyd i’r corff marw oedd wedi cael ei daflu i’r ffordd, gyda’r asyn a’r llew yn sefyll wrth ei ymyl. Doedd y llew ddim wedi bwyta’r corff marw, nac wedi llarpio’r asyn.
29 Cododd y proffwyd gorff dyn y gwir Dduw a’i roi ar yr asyn, a daeth ag ef yn ôl i’w ddinas ei hun i’w gladdu ac i alaru drosto.
30 Felly rhoddodd y corff marw yn ei feddrod ei hun, a dyma nhw’n galaru ac yn dweud: “Dyna drueni, fy mrawd!”
31 Ar ôl ei gladdu, dywedodd wrth ei feibion: “Pan fydda i’n marw, mae’n rhaid ichi fy nghladdu i yn yr un lle ag y mae dyn y gwir Dduw wedi ei gladdu. Gosodwch fy esgyrn i wrth ymyl ei esgyrn ef.
32 Bydd y neges oddi wrth Jehofa a gyhoeddodd yn erbyn yr allor ym Methel, ac yn erbyn yr holl addoldai ar yr uchelfannau yn ninasoedd Samaria, yn sicr o ddod yn wir.”
33 Hyd yn oed ar ôl i hyn i gyd ddigwydd, wnaeth Jeroboam ddim troi yn ôl oddi wrth ei ffyrdd drwg, ond parhaodd i benodi offeiriaid ar gyfer yr uchelfannau o blith y bobl gyffredin. Byddai’n penodi pwy bynnag oedd eisiau bod yn offeiriad, gan ddweud: “Bydd ef yn dod yn un o offeiriaid yr uchelfannau.”
34 Gwnaeth y pechod hwn ar ran teulu Jeroboam arwain at eu dinistr ac achosi iddyn nhw gael eu dileu oddi ar wyneb y ddaear.
Troednodiadau
^ Efallai bod y term Hebraeg hefyd yn cyfeirio at losgi arogldarth.
^ Neu “lludw brasterog,” hynny yw, lludw wedi ei wlychu â braster yr aberthau.
^ Neu “yn cael ei pharlysu.”
^ Neu “ar gyfer y proffwyd oedd wedi dod yn ôl gydag ef.”
^ Llyth., “y proffwyd oedd wedi dod â dyn y gwir Dduw yn ôl o’r ffordd.”
^ Neu “Rhowch gyfrwy ar.”