Cyntaf Brenhinoedd 14:1-31

  • Proffwydoliaeth Aheia yn erbyn Jeroboam (1-20)

  • Rehoboam yn teyrnasu dros Jwda (21-31)

14  Bryd hynny dyma Abeia fab Jeroboam yn mynd yn sâl.  Felly dywedodd Jeroboam wrth ei wraig: “Cod plîs, a chuddia pwy wyt ti fel fyddan nhw ddim yn gwybod mai fy ngwraig i wyt ti, a dos i Seilo. Edrycha! Mae Aheia y proffwyd yno. Ef yw’r un wnaeth sôn amdana i yn dod yn frenin ar y bobl hyn.  Cymera ddeg torth o fara gyda ti, yn ogystal â chacennau, a phot o fêl, a dos ato. Yna bydd ef yn dweud wrthot ti beth fydd yn digwydd i’r bachgen.”  Gwnaeth gwraig Jeroboam fel roedd ef wedi dweud. Cododd a mynd i Seilo a daeth i dŷ Aheia. Roedd llygaid Aheia yn syllu’n syth ymlaen, a doedd ef ddim yn gallu gweld oherwydd ei henaint.  Ond roedd Jehofa wedi dweud wrth Aheia: “Mae gwraig Jeroboam yn dod i dy holi di ynglŷn â’i mab, am ei fod yn sâl. Gwna i ddweud wrthot ti sut i’w hateb hi.* Pan fydd hi’n cyrraedd, bydd hi’n cuddio pwy ydy hi.”  Unwaith i Aheia glywed sŵn ei thraed wrth iddi ddod i mewn i’r fynedfa, dywedodd: “Tyrd i mewn, wraig Jeroboam. Pam rwyt ti’n cuddio pwy wyt ti? Rydw i wedi cael fy aseinio i roi newyddion drwg iti.  Dos i ddweud wrth Jeroboam, ‘Dyma mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud: “Gwnes i dy godi di o blith dy bobl, i dy wneud di’n arweinydd dros fy mhobl Israel.  Yna gwnes i rwygo’r deyrnas i ffwrdd oddi wrth dŷ Dafydd a’i rhoi i ti. Ond dwyt ti ddim wedi cadw fy ngorchmynion nac wedi fy nilyn i â dy holl galon fel gwnaeth fy ngwas Dafydd, roedd ef ond yn gwneud beth oedd yn iawn yn fy ngolwg i.  Rwyt ti wedi ymddwyn yn waeth na phawb a ddaeth o dy flaen di, ac rwyt ti wedi gwneud duw arall a delwau metel i ti dy hun er mwyn fy nigio i, ac rwyt ti wedi troi dy gefn arna i. 10  Am y rheswm hwnnw rydw i’n dod â thrychineb ar dŷ Jeroboam, a bydda i’n cael gwared ar bob gwryw o deulu Jeroboam, gan gynnwys hyd yn oed y mwyaf gwan ac isel yn Israel, a bydda i’n ysgubo tŷ Jeroboam i ffwrdd, yn union fel mae rhywun yn clirio’r carthion* nes bod y cyfan wedi mynd! 11  Bydd unrhyw un sy’n perthyn i Jeroboam sy’n marw yn y ddinas yn cael ei fwyta gan y cŵn; a bydd unrhyw un sy’n marw yn y cae yn cael ei fwyta gan adar y nefoedd, oherwydd dyna mae Jehofa wedi ei ddweud.”’ 12  “Nawr cod a dos adref. Pan fyddi di’n camu i mewn i’r ddinas, bydd y plentyn yn marw. 13  Bydd Israel gyfan yn galaru drosto ac yn ei gladdu, oherwydd ef yw’r unig un o deulu Jeroboam a fydd yn cael ei gladdu mewn bedd, oherwydd ef yw’r unig un o dŷ Jeroboam mae Jehofa, Duw Israel, wedi gweld rhywbeth da ynddo. 14  Bydd Jehofa yn codi brenin iddo’i hun ar Israel a fydd yn cael gwared ar dŷ Jeroboam o’r diwrnod hwnnw ymlaen, ie, hyd yn oed nawr. 15  Bydd Jehofa yn taro Israel i lawr fel corsen sy’n siglo yn y dŵr, a bydd yn dadwreiddio Israel o’r wlad dda hon a roddodd ef i’w cyndadau, a bydd yn eu gwasgaru nhw y tu hwnt i’r Afon,* oherwydd gwnaethon nhw eu polion cysegredig, gan ddigio Jehofa. 16  A bydd yn cefnu ar Israel oherwydd y pechodau mae Jeroboam wedi eu cyflawni a’r rhai mae wedi achosi i Israel eu cyflawni.” 17  Gyda hynny, cododd gwraig Jeroboam a mynd i Tirsa. Pan ddaeth hi at drothwy’r tŷ, bu farw’r bachgen. 18  Felly dyma nhw’n ei gladdu a galarodd Israel gyfan drosto, yn ôl beth roedd Jehofa wedi ei ddweud drwy ei was Aheia y proffwyd. 19  Ac mae gweddill hanes Jeroboam, sut gwnaeth ef ryfela a theyrnasu, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel. 20  A theyrnasodd Jeroboam am 22 mlynedd, ar ôl hynny bu farw;* a daeth ei fab Nadab yn frenin yn ei le. 21  Yn y cyfamser, roedd Rehoboam fab Solomon wedi dod yn frenin yn Jwda. Roedd Rehoboam yn 41 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 17 mlynedd yn Jerwsalem, y ddinas roedd Jehofa wedi ei dewis allan o holl lwythau Israel i sefydlu ei enw yno. Enw mam Rehoboam oedd Naama yr Ammones. 22  Ac roedd Jwda yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, a gwnaethon nhw ei gythruddo yn fwy nag yr oedd eu cyndadau wedi gwneud oherwydd eu pechodau. 23  Hefyd gwnaethon nhw barhau i adeiladu uchelfannau iddyn nhw eu hunain, a cholofnau cysegredig, a pholion cysegredig ar bob bryn uchel ac o dan bob coeden ddeiliog. 24  Yn y wlad roedd ’na hefyd ddynion a oedd yn eu puteinio eu hunain yn eu temlau. Roedden nhw’n gwneud pethau hollol ffiaidd, fel gwnaeth y cenhedloedd roedd Jehofa wedi eu gyrru allan o flaen yr Israeliaid. 25  Yn y bumed flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Rehoboam, daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem. 26  Cymerodd drysorau tŷ Jehofa, a thrysorau tŷ* y brenin. Cymerodd bopeth, gan gynnwys yr holl darianau aur roedd Solomon wedi eu gwneud. 27  Felly, gwnaeth y Brenin Rehoboam darianau o gopr yn eu lle, a rhoddodd nhw o dan ofal penaethiaid y gwarchodlu, a oedd yn gwarchod mynedfa tŷ’r brenin. 28  Bryd bynnag roedd y brenin yn mynd i dŷ Jehofa, byddai’r gwarchodlu yn dod gydag ef ac yn cario’r tarianau, ac yna yn eu rhoi nhw yn ôl yn ystafell y gwarchodlu. 29  Ac ynglŷn â gweddill hanes Rehoboam, popeth a wnaeth, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda? 30  Roedd ’na ryfela di-baid rhwng Rehoboam a Jeroboam. 31  Yna bu farw Rehoboam* a chafodd ei gladdu gyda’i gyndadau yn Ninas Dafydd. Enw ei fam oedd Naama yr Ammones. A daeth ei fab Abeiam* yn frenin yn ei le.

Troednodiadau

Neu “Dylet ti ddweud hyn a hyn wrthi.”
Neu “clirio’r dom; tail; baw.”
Hynny yw, Afon Ewffrates.
Neu “ar ôl hynny gorweddodd i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Neu “palas.”
Neu “Yna gorweddodd Rehoboam i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Hefyd yn cael ei alw’n Abeia.