Cyntaf Brenhinoedd 15:1-34

  • Abeiam, brenin Jwda (1-8)

  • Asa, brenin Jwda (9-24)

  • Nadab, brenin Israel (25-32)

  • Baasa, brenin Israel (33, 34)

15  Yn y ddeunawfed* flwyddyn o deyrnasiad y Brenin Jeroboam fab Nebat, daeth Abeiam yn frenin ar Jwda.  Teyrnasodd am dair blynedd yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Maacha, wyres Abisalom.  Cyflawnodd yr un pechodau roedd ei dad wedi eu cyflawni, a doedd ei galon ddim yn hollol ffyddlon* i Jehofa ei Dduw fel roedd calon Dafydd ei gyndad.  Ond, er mwyn Dafydd, rhoddodd Jehofa ei Dduw lamp iddo yn Jerwsalem drwy godi ei fab ar ei ôl a thrwy gadw Jerwsalem yn ddiogel.  Roedd Dafydd wedi gwneud beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa, a wnaeth ef ddim troi i ffwrdd o unrhyw beth roedd Ef wedi ei orchymyn iddo holl ddyddiau ei fywyd, oni bai am beth ddigwyddodd yn achos Ureia yr Hethiad.  Ac roedd ’na ryfela rhwng Rehoboam a Jeroboam holl ddyddiau ei fywyd.  Ynglŷn â gweddill hanes Abeiam, popeth a wnaeth, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda? Roedd ’na hefyd ryfel rhwng Abeiam a Jeroboam.  Yna bu farw Abeiam,* a gwnaethon nhw ei gladdu yn Ninas Dafydd; a daeth ei fab Asa yn frenin yn ei le.  Yn yr ugeinfed* flwyddyn o deyrnasiad Jeroboam brenin Israel, dechreuodd Asa deyrnasu dros Jwda. 10  Teyrnasodd yn Jerwsalem am 41 mlynedd. Enw ei nain* oedd Maacha, wyres Abisalom. 11  Gwnaeth Asa beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa, fel gwnaeth Dafydd ei gyndad. 12  Gyrrodd yr holl ddynion oedd yn eu puteinio eu hunain yn y temlau allan o’r wlad, ac fe gafodd wared ar yr holl eilunod ffiaidd* roedd ei gyndadau wedi eu gwneud. 13  Gwnaeth ef hyd yn oed ddiswyddo ei nain* Maacha o fod yn fam frenhines, am ei bod hi wedi gwneud eilun anweddus i’w addoli ynghyd â’r polyn cysegredig. Torrodd Asa ei heilun anweddus i lawr, a’i losgi yn Nyffryn Cidron. 14  Ond roedd yr uchelfannau yn dal i fod yno. Er hynny, roedd calon Asa yn hollol ffyddlon* i Jehofa drwy gydol ei fywyd. 15  A daeth â’r pethau roedd ef a’i dad wedi eu sancteiddio i mewn i dŷ Jehofa—arian, aur, a gwahanol lestri. 16  Roedd ’na ryfela di-baid rhwng Asa a Baasa brenin Israel. 17  Felly daeth Baasa, brenin Israel, i fyny yn erbyn Jwda a dechreuodd ailadeiladu* Rama er mwyn rhwystro unrhyw un rhag gadael a rhag dod i mewn i diriogaeth Asa brenin Jwda. 18  Gyda hynny cymerodd Asa yr holl arian a’r aur oedd ar ôl yn nhrysordai tŷ Jehofa ac yn nhrysordai tŷ* y brenin a’u rhoi nhw i’w weision. Yna dyma’r Brenin Asa yn eu hanfon nhw at Ben-hadad, mab Tabrimon, mab Hesion, brenin Syria, a oedd yn byw yn Namascus, gan ddweud: 19  “Mae ’na gytundeb rhyngot ti a fi a rhwng fy nhad i a dy dad di. Rydw i’n anfon anrheg o arian ac aur atat ti. Tyrd, torra dy gytundeb â Baasa brenin Israel, fel y bydd ef yn cilio yn ôl oddi wrtho i.” 20  Gwrandawodd Ben-hadad ar y Brenin Asa ac anfonodd benaethiaid ei fyddinoedd i fyny yn erbyn dinasoedd Israel, a dyma nhw’n taro i lawr Ijon, Dan, Abel-beth-maacha, Cinnereth i gyd, a holl wlad Nafftali. 21  Pan glywodd Baasa am hyn, stopiodd adeiladu* Rama ar unwaith ac aeth yn ôl i Tirsa ac aros yno. 22  Yna galwodd y Brenin Asa ar Jwda gyfan—heb eithriad—a dyma nhw’n mynd â’r cerrig a’r coed o Rama, y rhai roedd Baasa wedi bod yn adeiladu â nhw, a dyna ddefnyddiodd y Brenin Asa i ailadeiladu* Geba yn Benjamin, a Mispa. 23  Ynglŷn â gweddill hanes Asa, ei holl weithredoedd nerthol a phopeth a wnaeth, a’r dinasoedd gwnaeth ef eu hadeiladu,* onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda? Ond yn ei henaint roedd yn dioddef o glefyd yn ei draed. 24  Yna bu farw Asa* a chafodd ei gladdu gyda’i gyndadau yn Ninas Dafydd ei gyndad; a daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le. 25  Daeth Nadab fab Jeroboam yn frenin ar Israel yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Asa brenin Jwda, a theyrnasodd dros Israel am ddwy flynedd. 26  Parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa a dilynodd ôl traed ei dad a chyflawni yr un pechodau roedd ei dad wedi achosi i Israel eu cyflawni. 27  Dyma Baasa fab Aheia o dŷ Issachar yn cynllwynio yn ei erbyn, a gwnaeth Baasa ei daro i lawr yn Gibbethon, a oedd yn perthyn i’r Philistiaid, tra oedd Nadab a’r Israeliaid i gyd yn ymosod* ar Gibbethon. 28  Felly dyma Baasa yn ei ladd yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Asa brenin Jwda, a daeth yn frenin yn ei le. 29  Ac unwaith iddo ddod yn frenin, tarodd holl dŷ Jeroboam i lawr. Wnaeth ef ddim gadael i unrhyw un* yn nhŷ Jeroboam ddianc; gorchmynnodd i bob un ohonyn nhw gael ei ladd yn ôl beth roedd Jehofa wedi ei ddweud drwy ei was Aheia o Seilo. 30  Roedd hyn oherwydd y pechodau roedd Jeroboam wedi eu cyflawni a hefyd y pechodau y gwnaeth ef achosi i Israel eu cyflawni, ac am ei fod wedi gwylltio Jehofa, Duw Israel, yn ofnadwy. 31  Ynglŷn â gweddill hanes Nadab, popeth a wnaeth, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel? 32  Ac roedd ’na ryfela di-baid rhwng Asa a Baasa brenin Israel. 33  Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Asa brenin Jwda, daeth Baasa fab Aheia yn frenin yn Tirsa ar Israel gyfan, a theyrnasodd am 24 blynedd. 34  Ond parhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, ac roedd yn ymddwyn yr un fath â Jeroboam, ac yn cyflawni’r un pechodau y gwnaeth ef achosi i Israel eu cyflawni.

Troednodiadau

Neu “18fed.”
Neu “doedd ei galon ddim yn gyflawn.”
Neu “Yna gorweddodd Abeiam i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Neu “20fed.”
Neu “ei fam-gu.”
Efallai bod y term Hebraeg yn gysylltiedig â gair am “garthion” ac mae’n cael ei ddefnyddio fel math o sarhad.
Neu “ei fam-gu.”
Neu “yn gyflawn.”
Neu “dechreuodd gryfhau.”
Neu “palas.”
Neu “stopiodd gryfhau; ailadeiladu.”
Neu “i gryfhau.”
Neu “cryfhau; ailadeiladu.”
Neu “Yna gorweddodd Asa i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Neu “gwarchae.”
Neu “unrhyw un sy’n anadlu.”