Cyntaf Brenhinoedd 16:1-34

  • Barnedigaeth Jehofa yn erbyn Baasa (1-7)

  • Ela, brenin Israel (8-14)

  • Simri, brenin Israel (15-20)

  • Omri, brenin Israel (21-28)

  • Ahab, brenin Israel (29-33)

  • Hiel yn ailadeiladu Jericho (34)

16  Dyma Jehofa yn defnyddio Jehu fab Hanani i gyhoeddi dedfryd yn erbyn Baasa, gan ddweud:  “Gwnes i dy godi di allan o’r llwch a dy wneud di’n arweinydd dros fy mhobl Israel, ond rwyt ti wedi parhau i ymddwyn yr un fath â Jeroboam ac wedi achosi i fy mhobl Israel bechu fel eu bod nhw’n fy nigio i â’u pechodau.  Felly rydw i’n ysgubo Baasa a’i dŷ i ffwrdd yn llwyr, a bydda i’n gwneud ei dŷ fel tŷ Jeroboam fab Nebat.  Bydd unrhyw un o berthnasau Baasa sy’n marw yn y ddinas yn cael ei fwyta gan y cŵn; a bydd unrhyw un o’i berthnasau sy’n marw yn y cae yn cael ei fwyta gan adar y nefoedd.”  Ynglŷn â gweddill hanes Baasa, beth wnaeth ef, a’i weithredoedd nerthol, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel?  Yna bu farw Baasa* a chafodd ei gladdu yn Tirsa; a daeth Ela ei fab yn frenin yn ei le.  A hefyd daeth gair Jehofa yn erbyn Baasa a’i dŷ drwy’r proffwyd Jehu fab Hanani, nid yn unig oherwydd yr holl ddrygioni roedd ef wedi ei wneud yng ngolwg Jehofa drwy ei ddigio â’i weithredoedd, fel gwnaeth tŷ Jeroboam, ond hefyd am ei fod wedi taro Nadab i lawr.  Yn y chweched flwyddyn ar hugain* o deyrnasiad Asa brenin Jwda, daeth Ela fab Baasa yn frenin ar Israel yn Tirsa, a theyrnasodd am ddwy flynedd.  Dyma ei was Simri, pennaeth hanner ei gerbydau rhyfel, yn cynllwynio yn ei erbyn tra oedd yn Tirsa yn yfed yn drwm nes iddo feddwi yn nhŷ Arsa, a oedd yn gyfrifol am y palas yn Tirsa. 10  Daeth Simri i mewn a’i daro i lawr a’i ladd yn y seithfed flwyddyn ar hugain* o deyrnasiad Asa brenin Jwda, a daeth yn frenin yn ei le. 11  Pan ddaeth yn frenin, yn syth ar ôl iddo eistedd ar ei orsedd, dyma’n taro holl dŷ Baasa i lawr, wnaeth ef ddim arbed unrhyw wryw, ddim hyd yn oed ei berthnasau* na’i ffrindiau. 12  Felly dyma Simri yn dinistrio holl dŷ Baasa, yn ôl beth roedd Jehofa wedi ei ddweud yn erbyn Baasa drwy Jehu y proffwyd. 13  Roedd hyn oherwydd yr holl bechodau roedd Baasa a’i fab Ela wedi eu cyflawni, a’r pechodau roedden nhw wedi achosi i Israel eu cyflawni drwy ddigio Jehofa, Duw Israel, â’u heilunod diwerth. 14  Ynglŷn â gweddill hanes Ela, popeth a wnaeth, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel? 15  Yn y seithfed flwyddyn ar hugain* o deyrnasiad Asa brenin Jwda, daeth Simri yn frenin am saith diwrnod yn Tirsa, tra bod y milwyr yn gwersylla yn erbyn Gibbethon, a oedd yn perthyn i’r Philistiaid. 16  Ymhen amser, clywodd y milwyr a oedd yn gwersylla: “Mae Simri wedi cynllwynio yn erbyn y brenin ac wedi ei ladd.” Felly dyma Israel gyfan yn gwneud Omri, pennaeth y fyddin, yn frenin ar Israel ar y diwrnod hwnnw yn y gwersyll. 17  Aeth Omri, ac Israel gyfan gydag ef, i fyny o Gibbethon a gwarchae ar Tirsa. 18  Pan welodd Simri fod y ddinas wedi cael ei chipio, aeth i mewn i dŵr caerog tŷ* y brenin a llosgi’r tŷ i lawr tra oedd ef y tu mewn iddo, a bu farw. 19  Roedd hyn oherwydd y pechodau roedd ef wedi eu cyflawni gan wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa drwy ymddwyn yr un ffordd â Jeroboam, ac am y pechod roedd ef wedi achosi i Israel ei gyflawni. 20  Ynglŷn â gweddill hanes Simri, a’i gynllwyn yn erbyn Ela, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel? 21  Roedd ’na raniad ymysg pobl Israel bryd hynny. Dechreuodd rhai o’r bobl ddilyn Tibni fab Ginath, ac roedden nhw eisiau ei wneud yn frenin, ac roedd y gweddill yn dilyn Omri. 22  Ond dyma’r bobl oedd yn dilyn Omri yn trechu’r bobl oedd yn dilyn Tibni fab Ginath. Felly bu farw Tibni, a daeth Omri yn frenin. 23  Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain* o deyrnasiad Asa brenin Jwda, daeth Omri yn frenin ar Israel, a theyrnasodd am 12 mlynedd. Teyrnasodd yn Tirsa am chwe mlynedd. 24  Prynodd fynydd Samaria gan Semer am ddau dalent* o arian, ac adeiladodd ddinas ar y mynydd. Rhoddodd yr enw Samaria* ar y ddinas roedd ef wedi ei hadeiladu, ar ôl Semer perchennog y mynydd. 25  Parhaodd Omri i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, ac roedd yn waeth na phawb a ddaeth o’i flaen. 26  Efelychodd esiampl wael Jeroboam fab Nebat, a chyflawni’r un pechod roedd Israel wedi ei gyflawni o dan ddylanwad Jeroboam drwy ddigio Jehofa, Duw Israel, gyda’u heilunod diwerth. 27  Ynglŷn â gweddill hanes Omri, beth wnaeth ef, a’i weithredoedd nerthol, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel? 28  Yna bu farw Omri,* a chafodd ei gladdu yn Samaria; a daeth ei fab Ahab yn frenin yn ei le. 29  Daeth Ahab fab Omri yn frenin ar Israel yn yr wythfed flwyddyn ar ddeg ar hugain* o deyrnasiad Asa brenin Jwda, a theyrnasodd Ahab fab Omri dros Israel yn Samaria am 22 mlynedd. 30  Roedd Ahab fab Omri yn waeth yng ngolwg Jehofa na phawb a ddaeth o’i flaen. 31  Cyflawnodd yr un pechodau â Jeroboam fab Nebat; ac fel petai hynny ddim yn ddigon, gwnaeth ef hefyd briodi Jesebel ferch Ethbaal, brenin y Sidoniaid, a dechrau gwasanaethu Baal ac ymgrymu iddo. 32  Ar ben hynny, cododd allor i Baal yn nhŷ* Baal, yr un roedd ef wedi ei adeiladu yn Samaria. 33  Hefyd dyma Ahab yn gwneud y polyn cysegredig. Roedd Ahab wedi gwneud mwy i ddigio Jehofa, Duw Israel, na holl frenhinoedd Israel o’i flaen. 34  Yn ystod brenhiniaeth Ahab, gwnaeth Hiel o Fethel ailadeiladu Jericho. Bu farw Abiram ei fab cyntaf-anedig wrth iddo osod ei sylfeini, a bu farw Segub ei ieuengaf wrth iddo godi ei drysau, yn union fel dywedodd Jehofa drwy Josua fab Nun.

Troednodiadau

Neu “Yna gorweddodd Baasa i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Neu “26ain flwyddyn.”
Neu “27ain flwyddyn.”
Neu “y rhai a fyddai’n dial am ei waed.”
Neu “27ain flwyddyn.”
Neu “palas.”
Neu “31ain flwyddyn.”
Roedd talent yn gyfartal â 34.2 kg (1,101 oz t).
Sy’n golygu “Yn Perthyn i Glan Semer.”
Neu “Yna gorweddodd Omri i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Neu “38ain flwyddyn.”
Neu “yn nheml.”