Cyntaf Brenhinoedd 17:1-24

  • Y proffwyd Elias yn rhagfynegi sychder (1)

  • Cigfrain yn dod â bwyd i Elias (2-7)

  • Elias yn ymweld â gweddw yn Sareffath (8-16)

  • Mab y weddw yn marw ac yn cael ei atgyfodi (17-24)

17  Nawr dywedodd Elias,* oedd yn dod o Tisbe yng ngwlad Gilead, wrth Ahab: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa, Duw Israel, yn fyw, yr un rydw i’n ei wasanaethu, fydd ’na ddim gwlith na glaw yn ystod y blynyddoedd hyn oni bai fy mod i’n gorchymyn fel arall!”  Daeth gair Jehofa ato gan ddweud:  “Mae’n rhaid iti adael y lle hwn a throi tua’r dwyrain, a chuddio yn Nyffryn Cerith* sydd i’r dwyrain o’r Iorddonen.  Dylet ti yfed o’r nant a gwna i orchymyn i’r cigfrain ddod â bwyd iti yno.”  Ar unwaith, aeth i wneud yn union fel roedd Jehofa wedi dweud; aeth i aros wrth Ddyffryn Cerith,* sydd i’r dwyrain o’r Iorddonen.  Ac roedd y cigfrain yn dod â bara a chig iddo bob bore a phob noswaith, ac roedd yn yfed o’r nant.  Ond ar ôl rhai dyddiau, dyma’r nant yn sychu, oherwydd doedd ’na ddim glaw yn y wlad.  Yna daeth gair Jehofa ato:  “Cod, dos i Sareffath, sy’n perthyn i Sidon, ac arhosa yno. Edrycha! Gwna i orchymyn i wraig weddw yno roi bwyd iti.” 10  Felly cododd a mynd i Sareffath. Pan gyrhaeddodd fynedfa’r ddinas, roedd ’na wraig weddw yn casglu darnau o bren. Felly galwodd arni a dweud: “Plîs, tyrd ag ychydig o ddŵr imi mewn cwpan imi gael yfed.” 11  Wrth iddi fynd i’w nôl, galwodd arni: “Plîs, tyrd â darn o fara imi yn dy law.” 12  I hynny, dywedodd hi: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa dy Dduw yn fyw, does gen i ddim bara, dim ond llond llaw o flawd yn y jar fawr, a mymryn o olew yn y jar fach. Nawr, rydw i’n casglu ychydig o ddarnau o bren, a bydda i’n mynd i mewn ac yn paratoi rhywbeth i fi a fy mab. Ar ôl inni fwyta, byddwn ni’n marw.” 13  Yna dywedodd Elias wrthi: “Paid ag ofni. Dos i mewn a gwneud fel dywedaist ti. Ond yn gyntaf, defnyddia beth sydd yno i wneud torth fach gron o fara i mi, a thyrd â hi allan ata i. Ar ôl hynny, cei di baratoi rhywbeth i ti a dy fab. 14  Oherwydd dyma mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Ni fydd y blawd yn y jar fawr yn dod i ben, ac ni fydd yr olew yn y jar fach yn sychu nes y diwrnod y bydd Jehofa yn gwneud iddi lawio ar wyneb y ddaear.’” 15  Felly dyma hi’n mynd i wneud fel roedd Elias wedi dweud, ac roedd ganddi hithau, ei theulu, ac Elias ddigon o fwyd am lawer o ddyddiau. 16  Ni wnaeth y blawd yn y jar fawr ddod i ben, ac ni wnaeth yr olew yn y jar fach sychu, yn union fel roedd Jehofa wedi dweud drwy Elias. 17  Ar ôl y pethau hyn, dyma fab y ddynes* oedd biau’r tŷ yn mynd yn sâl, ac aeth ei salwch mor ddifrifol nes iddo stopio anadlu. 18  I hynny, dywedodd hi wrth Elias: “Beth sydd gen ti yn fy erbyn i, O ddyn y gwir Dduw? Wyt ti wedi dod i fy atgoffa i o fy euogrwydd, ac i ladd fy mab?” 19  Ond dywedodd ef wrthi: “Rho dy fab imi.” Yna dyma’n ei gymryd o’i breichiau ac yn ei gario i fyny i’r ystafell ar y to lle roedd yn aros, ac yn ei roi i orwedd ar ei wely ei hun. 20  Galwodd allan ar Jehofa: “O Jehofa fy Nuw, a wyt ti hyd yn oed yn gwneud niwed i’r wraig weddw sydd wedi rhoi llety imi? Pam rwyt ti wedi gadael i’w mab farw?” 21  Yna gwnaeth ef ymestyn ei hun dros y plentyn dair gwaith a galw ar Jehofa: “O Jehofa fy Nuw, plîs gad i fywyd* y plentyn hwn ddod yn ôl i mewn iddo.” 22  Gwrandawodd Jehofa ar gais Elias, a daeth bywyd* y plentyn yn ôl i mewn iddo a daeth yn ôl yn fyw. 23  Cymerodd Elias y plentyn a dod ag ef i lawr o’r ystafell ar ben y to i mewn i’r tŷ a’i roi i’w fam; a dywedodd Elias: “Edrycha! Mae dy fab yn fyw.” 24  I hynny, dywedodd y ddynes* wrth Elias: “Nawr rydw i’n gwybod dy fod ti’n wir yn was i Dduw a bod popeth mae Jehofa wedi ei ddweud drwyddot ti yn wir.”

Troednodiadau

Sy’n golygu “Jehofa Yw Fy Nuw.”
Neu “Wadi Cerith.”
Neu “Wadi Cerith.”
Neu “y fenyw.”
Neu “enaid.”
Neu “enaid.”
Neu “y fenyw.”