Cyntaf Brenhinoedd 18:1-46

  • Elias yn cyfarfod Obadeia ac Ahab (1-18)

  • Elias yn erbyn proffwydi Baal yng Ngharmel (19-40)

    • “Cloffi rhwng dau feddwl” (21)

  • Diwedd y sychder o dair blynedd a hanner (41-46)

18  Ar ôl peth amser, yn y drydedd flwyddyn, daeth gair Jehofa at Elias gan ddweud: “Dos, a mynd at Ahab, a bydda i’n anfon glaw ar wyneb y ddaear.”  Felly aeth Elias o flaen Ahab tra oedd y newyn yn dal yn ddifrifol yn Samaria.  Yn y cyfamser, dyma Ahab yn galw Obadeia a oedd yn gyfrifol am y palas. (Nawr roedd Obadeia yn ofni Jehofa yn fawr,  a phan oedd Jesebel yn lladd proffwydi Jehofa, cymerodd Obadeia 100 o broffwydi a’u cuddio nhw mewn ogofâu fesul 50, a darparu bara a dŵr iddyn nhw.)  Yna dywedodd Ahab wrth Obadeia: “Dos drwy’r wlad i bob ffynnon ddŵr ac i bob dyffryn.* Efallai cawn ni hyd i ddigon o laswellt* i gadw’r ceffylau a’r mulod yn fyw ac i gadw ein holl anifeiliaid rhag marw.”  Felly dyma nhw’n rhannu rhyngddyn nhw y wlad roedden nhw’n pasio drwyddi. Aeth Ahab ar hyd un ffordd ar ei ben ei hun, ac aeth Obadeia ar hyd ffordd arall ar ei ben ei hun.  Tra oedd Obadeia ar ei ffordd, roedd Elias yno i’w gyfarfod. Ar unwaith, dyma Obadeia yn ei adnabod a syrthiodd ar ei wyneb ar lawr a dweud: “Ai ti sydd yna fy arglwydd Elias?”  Atebodd: “Ie, fi sydd yma. Dos i ddweud wrth dy arglwydd: ‘Mae Elias yma.’”  Ond dywedodd: “Pa bechod rydw i wedi ei gyflawni i ti fy rhoi i drosodd i Ahab er mwyn imi gael fy lladd? 10  Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa dy Dduw yn fyw, does ’na ddim gwlad na theyrnas lle nad ydy fy arglwydd wedi chwilio amdanat ti. Ar ôl iddyn nhw ddweud, ‘Dydy ef ddim yma,’ roedd yn gwneud i’r deyrnas a’r wlad addo ar lw nad oedden nhw wedi dy weld di. 11  Nawr rwyt ti’n dweud, ‘Dos i ddweud wrth dy arglwydd: “Mae Elias yma.”’ 12  Pan fydda i’n dy adael di, bydd ysbryd Jehofa yn dy gario di i ffwrdd i rywle, ac fydd gen i ddim syniad lle, a phan fydda i’n dweud wrth Ahab fy mod i wedi dy weld di, ac mae yntau’n dod ac yn methu dod o hyd iti, bydd yn sicr o fy lladd i. Ond eto, rydw i, dy was, wedi ofni Jehofa ers fy ieuenctid. 13  Onid wyt ti, fy arglwydd, wedi clywed beth wnes i pan oedd Jesebel yn lladd proffwydi Jehofa, sut gwnes i guddio 100 o broffwydi Jehofa mewn ogofâu fesul 50, a pharhau i ddarparu bara a dŵr iddyn nhw? 14  Ond nawr dy fod ti’n dweud, ‘Dos i ddweud wrth dy arglwydd: “Mae Elias yma,”’ bydd yn sicr o fy lladd i.” 15  Ond dywedodd Elias: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa y lluoedd yn fyw, yr un rydw i’n ei wasanaethu, bydda i’n ymddangos o flaen Ahab heddiw.” 16  Felly aeth Obadeia i ffwrdd i gyfarfod Ahab a dweud hyn wrtho, ac aeth Ahab i gyfarfod Elias. 17  Pan welodd Ahab Elias, dywedodd: “Dyna ti! Yr un sy’n dod â helynt mawr ar Israel!” 18  I hynny, dywedodd: “Nid fi sydd wedi dod â helynt ar Israel, ond ti a thŷ dy dad sydd wedi gwneud hynny drwy gefnu ar orchmynion Jehofa a thrwy ddilyn y duwiau Baal. 19  Ac nawr casgla Israel gyfan ata i ar Fynydd Carmel, yn ogystal â’r 450 o broffwydi Baal a’r 400 o broffwydi’r polyn cysegredig sy’n bwyta wrth fwrdd Jesebel.” 20  Felly anfonodd Ahab neges at holl bobl Israel a chasglu’r proffwydi at ei gilydd ar Fynydd Carmel. 21  Yna aeth Elias at yr holl bobl a gofyn: “Am faint mwy byddwch chi’n cloffi rhwng dau feddwl?* Os mai Jehofa yw’r gwir Dduw, dilynwch ef; ond os mai Baal yw’r gwir Dduw, dilynwch ef!” Ond wnaeth y bobl ddim dweud gair i’w ateb. 22  Yna dywedodd Elias wrth y bobl: “Fi ydy’r unig un o broffwydi Jehofa sydd ar ôl, ond mae ’na 450 o broffwydi Baal. 23  Gadewch iddyn nhw roi dau darw ifanc inni, a gadewch iddyn nhw ddewis un tarw ifanc a’i dorri’n ddarnau a’i roi ar y pren, ond ddylen nhw ddim ei roi ar dân. Bydda i’n paratoi’r tarw ifanc arall, ac yn ei roi ar y pren, ond wna i ddim ei roi ar dân. 24  Yna bydd rhaid ichi alw ar enw eich duw, a bydda i’n galw ar enw Jehofa. Bydd y Duw sy’n ateb drwy anfon tân yn dangos mai ef yw’r gwir Dduw.” I hynny, dyma’r bobl i gyd yn ateb: “Mae beth rwyt ti’n ei ddweud yn dda.” 25  Nawr dywedodd Elias wrth y proffwydi Baal: “Dewiswch un tarw ifanc a’i baratoi yn gyntaf, oherwydd mae ’na fwy ohonoch chi. Yna galwch ar enw eich duw, ond mae’n rhaid ichi beidio â rhoi eich aberth ar dân.” 26  Felly dyma nhw’n cymryd y tarw ifanc a gafodd ei roi iddyn nhw, yn ei baratoi, ac yn parhau i alw ar enw Baal drwy’r bore tan ganol dydd, gan ddweud: “O Baal, ateba ni!” Ond doedd ’na ddim llais a neb yn ateb. Roedden nhw’n dal ati i hercian o gwmpas yr allor roedden nhw wedi ei gwneud. 27  Ond am tua chanol dydd, dechreuodd Elias eu gwawdio nhw gan ddweud: “Gwaeddwch nerth eich pennau! Wedi’r cwbl, mae’n dduw! Efallai ei fod yn myfyrio neu wedi mynd i wneud ei fusnes.* Neu efallai ei fod yn cysgu ac mae angen i rywun ei ddeffro!” 28  Roedden nhw’n gweiddi nerth eu pennau ac yn eu torri eu hunain â chyllyll a gwaywffyn yn ôl eu harfer, nes bod eu gwaed yn llifo drostyn nhw. 29  Roedd hanner dydd wedi mynd heibio ac roedden nhw’n parhau i ymddwyn yn wallgof nes ei bod hi’n amser i offrwm grawn y noswaith gael ei gyflwyno, ond doedd ’na ddim llais a neb yn ateb; doedd neb yn talu sylw. 30  O’r diwedd, dywedodd Elias wrth y bobl i gyd: “Dewch ata i.” Felly, aeth y bobl i gyd ato. Yna dyma’n trwsio allor Jehofa a oedd wedi cael ei rhwygo i lawr. 31  Yna cymerodd Elias 12 carreg, un ar gyfer pob un o lwythau meibion Jacob, yr un roedd Jehofa wedi dweud wrtho: “Israel fydd dy enw.” 32  Defnyddiodd y cerrig i adeiladu allor yn enw Jehofa. Yna dyma’n gwneud ffos yr holl ffordd o amgylch yr allor. Roedd yr ardal roedd y ffos yn ei hamgylchynu yn ddigon mawr i hau dau fesur sea* o hadau ynddi. 33  Ar ôl hynny, rhoddodd y darnau o bren mewn trefn, torrodd y tarw ifanc yn ddarnau a’i roi ar y pren. Yna dywedodd: “Llanwch bedair jar fawr â dŵr a’i dywallt* ar yr offrwm llosg ac ar y darnau o bren.” 34  Yna dywedodd: “Gwnewch yr un peth eto.” Felly dyna wnaethon nhw. Unwaith eto dywedodd: “Gwnewch hynny am y drydedd waith.” Felly dyma nhw’n ei wneud am y drydedd waith. 35  Ac roedd y dŵr yn llifo yr holl ffordd o amgylch yr allor, a gwnaeth ef hefyd lenwi’r ffos â dŵr. 36  Tua’r adeg pan oedd offrwm grawn y noswaith yn cael ei gyflwyno, camodd Elias y proffwyd yn ei flaen a dweud: “O Jehofa, Duw Abraham, Isaac, ac Israel, gad i bawb wybod heddiw mai ti ydy Duw Israel ac mai dy was di ydw i, a fy mod i wedi gwneud yr holl bethau hyn ar dy orchymyn di. 37  Ateba fi, O Jehofa! Ateba fi er mwyn i’r bobl hyn wybod mai ti, Jehofa, ydy’r gwir Dduw a dy fod ti’n troi eu calonnau nhw yn ôl atat ti.” 38  Gyda hynny, syrthiodd dân Jehofa o’r nef a llosgi’r offrwm llosg, y darnau o bren, y cerrig, a’r llwch, a hefyd sychu’r dŵr oedd yn y ffos. 39  Pan welodd yr holl bobl hyn i gyd, syrthion nhw ar unwaith â’u hwynebau ar y llawr, a dweud: “Jehofa ydy’r gwir Dduw! Jehofa ydy’r gwir Dduw!” 40  Yna dywedodd Elias wrthyn nhw: “Daliwch broffwydi Baal! Peidiwch â gadael i’r un ohonyn nhw ddianc!” Ar unwaith, dyma nhw’n eu dal nhw a daeth Elias â nhw i lawr at nant* Cison a’u dienyddio nhw yno. 41  Nawr dywedodd Elias wrth Ahab: “Dos i fyny, bwyta ac yfed, oherwydd mae ’na sŵn glaw trwm.” 42  Felly aeth Ahab i fyny i fwyta ac i yfed, ond aeth Elias i fyny i ben Mynydd Carmel a mynd ar ei gwrcwd ar y llawr,* gan gadw ei wyneb rhwng ei bennau gliniau. 43  Yna dywedodd wrth ei was: “Dos i fyny, plîs, ac edrycha tuag at y môr.” Felly aeth i fyny ac edrych a dweud: “Does ’na ddim byd o gwbl.” Saith gwaith dywedodd Elias, “Dos yn ôl.” 44  Ar y seithfed gwaith, dywedodd ei was: “Edrycha! Mae ’na gwmwl bach tua maint llaw dyn yn codi allan o’r môr.” Nawr dywedodd: “Dos i ddweud wrth Ahab, ‘Gwna dy gerbyd yn barod! Dos i lawr fel na fyddi di’n cael dy ddal yn y glaw trwm!’” 45  Yn y cyfamser, aeth yr awyr yn dywyll oherwydd y cymylau, chwythodd y gwynt, a syrthiodd glaw trwm; a daliodd Ahab ati i yrru ei gerbyd a mynd ar ei ffordd i Jesreel. 46  Ond daeth llaw Jehofa ar Elias, a lapiodd Elias ei ddilledyn o amgylch ei liniau a rhedeg o flaen Ahab yr holl ffordd i Jesreel.

Troednodiadau

Neu “wadi.”
neu “o borfa.”
Neu “ar ddwy ffon fagl.”
Neu efallai, “wedi mynd ar daith.”
Roedd sea yn gyfartal â 7.33 L.
Neu “arllwys.”
Neu “wadi.”
Neu “a dyma’n cwtsio i lawr.”