Cyntaf Brenhinoedd 19:1-21

  • Elias yn ffoi oddi wrth ddicter Jesebel (1-8)

  • Jehofa yn ymddangos i Elias yn Horeb (9-14)

  • Elias i eneinio Hasael, Jehu, ac Eliseus (15-18)

  • Eliseus yn cael ei benodi i gymryd lle Elias (19-21)

19  Yna dywedodd Ahab wrth Jesebel am bopeth roedd Elias wedi ei wneud a sut roedd ef wedi lladd y proffwydi i gyd â’r cleddyf.  Gyda hynny anfonodd Jesebel neges at Elias yn dweud: “Gad i’r duwiau fy nghosbi i’n llym os nad ydw i wedi dy ladd di erbyn yr adeg yma yfory, fel gwnest ti eu lladd nhw!”  Gyda hynny daeth Elias yn ofnus, felly cododd a rhedeg am ei fywyd.* Daeth i Beer-seba, sy’n perthyn i Jwda, a gadawodd ei was yno.  Aeth yn ei flaen daith diwrnod i’r anialwch a daeth i eistedd o dan goeden banadl, a gofynnodd am iddo gael marw. Dywedodd: “Dyna ddigon! Nawr, O Jehofa, cymera fy mywyd* i ffwrdd, achos dydw i ddim gwell na fy nghyndadau.”  Yna gorweddodd i lawr a chwympo i gysgu o dan y goeden banadl. Ond yn sydyn dyma angel yn ei gyffwrdd ac yn dweud wrtho: “Cod a bwyta.”  Pan edrychodd, yno wrth ei ben roedd ’na dorth gron ar gerrig cynnes yn ogystal â jwg o ddŵr. Dyma Elias yn bwyta ac yfed, ac yn gorwedd i lawr eto.  Yn nes ymlaen daeth angel Jehofa yn ôl ato ail waith a’i gyffwrdd a dweud: “Cod a bwyta, oherwydd bydd y daith yn ormod iti.”  Felly cododd a bwyta ac yfed, a rhoddodd hynny ddigon o nerth iddo allu mynd ymlaen am 40 diwrnod a 40 nos nes iddo gyrraedd Horeb, mynydd y gwir Dduw.  Aeth i mewn i ogof yno ac aros dros nos; ac edrycha! daeth gair Jehofa ato gan ddweud: “Beth rwyt ti’n ei wneud yma Elias?” 10  I hynny dywedodd: “Rydw i wedi bod yn hollol selog dros Jehofa, Duw y lluoedd; ond mae pobl Israel wedi cefnu ar dy gyfamod, maen nhw wedi rhwygo dy allorau i lawr, ac wedi lladd dy broffwydi â’r cleddyf, a fi ydy’r unig un sydd ar ôl. Nawr maen nhw’n ceisio fy lladd i.” 11  Ond dywedodd Ef: “Dos allan a sefyll ar y mynydd o flaen Jehofa.” Ac edrycha! roedd Jehofa yn pasio heibio, ac roedd gwynt mawr cryf yn hollti mynyddoedd ac yn malu creigiau o flaen Jehofa, ond doedd Jehofa ddim yn y gwynt. Ar ôl y gwynt, roedd ’na ddaeargryn, ond doedd Jehofa ddim yn y daeargryn. 12  Ar ôl y daeargryn, roedd ’na dân, ond doedd Jehofa ddim yn y tân. Ar ôl y tân, roedd ’na lais tyner a thawel. 13  Unwaith i Elias glywed y llais, lapiodd ei wyneb yn ei ddilledyn swyddogol ac aeth allan i sefyll wrth fynedfa’r ogof. Yna dyma lais yn gofyn iddo: “Beth rwyt ti’n ei wneud yma Elias?” 14  I hynny dywedodd: “Rydw i wedi bod yn hollol selog dros Jehofa, Duw y lluoedd; ond mae pobl Israel wedi cefnu ar dy gyfamod, maen nhw wedi rhwygo dy allorau i lawr, ac wedi lladd dy broffwydi â’r cleddyf, a fi ydy’r unig un sydd ar ôl. Nawr maen nhw’n ceisio fy lladd i.” 15  Dywedodd Jehofa wrtho: “Dos yn ôl a mynd i anialwch Damascus. Pan fyddi di’n cyrraedd, eneinia Hasael yn frenin ar Syria. 16  A dylet ti eneinio Jehu ŵyr Nimsi yn frenin ar Israel, a dylet ti eneinio Eliseus* fab Saffat o Abel-mehola yn broffwyd yn dy le. 17  Bydd unrhyw un sy’n dianc rhag cleddyf Hasael yn cael ei ladd gan Jehu; a bydd unrhyw un sy’n dianc rhag cleddyf Jehu yn cael ei ladd gan Eliseus. 18  Ac mae ’na 7,000 yn dal ar ôl yn Israel sydd heb addoli* Baal na’i gusanu.” 19  Felly aeth o fan ’na a dod o hyd i Eliseus fab Saffat tra oedd yn aredig gyda 12 pâr o deirw o’i flaen, ac roedd ef gyda’r deuddegfed* pâr. Felly aeth Elias draw ato a thaflu ei ddilledyn swyddogol arno. 20  Gyda hynny dyma’n gadael y teirw ac yn rhedeg ar ôl Elias ac yn dweud: “Plîs gad imi gusanu fy nhad a fy mam. Yna gwna i dy ddilyn di.” Atebodd: “Dos, dydw i ddim yn dy rwystro di.” 21  Felly aeth yn ôl a chymryd pâr o deirw a’u haberthu nhw, a defnyddiodd yr offer aredig i ferwi cig y teirw a’i roi i’r bobl, a gwnaethon nhw fwyta. Ar ôl hynny cododd a dilyn Elias a dechrau gweini arno.

Troednodiadau

Neu “enaid.”
Neu “enaid.”
Sy’n golygu “Duw Yw Achubiaeth.”
Llyth., “heb blygu eu pennau gliniau i.”
Neu “12fed.”