Cyntaf Brenhinoedd 21:1-29
21 Ar ôl y pethau hyn, dyma ddigwyddodd: Roedd gan Naboth y Jesreeliad winllan a oedd yn Jesreel, wrth ymyl palas Ahab brenin Samaria.
2 Dywedodd Ahab wrth Naboth: “Rho dy winllan imi i’w defnyddio fel gardd lysiau am ei bod yn agos at fy nhŷ. Yna bydda i’n rhoi gwinllan well iti yn ei lle. Neu os byddai’n well gen ti, bydda i’n rhoi iti ei gwerth mewn arian.”
3 Ond dywedodd Naboth wrth Ahab: “O ystyried safbwynt Jehofa, alla i ddim hyd yn oed meddwl am roi etifeddiaeth fy nghyndadau iti.”
4 Felly daeth Ahab i mewn i’w dŷ yn ddigalon ac mewn tymer ddrwg oherwydd yr ateb roddodd Naboth y Jesreeliad iddo pan ddywedodd: “Wna i ddim rhoi etifeddiaeth fy nghyndadau iti.” Yna gorweddodd ar ei wely a chadw ei wyneb tuag at y wal a gwrthod bwyta.
5 Daeth ei wraig Jesebel i mewn ato a gofyn iddo: “Pam rwyt ti mor drist nes dy fod ti’n gwrthod bwyta?”
6 Dyma’n ei hateb hi: “Am fy mod i wedi dweud wrth Naboth y Jesreeliad, ‘Rho dy winllan imi am arian. Neu os byddai’n well gen ti, gad imi roi gwinllan arall iti yn ei lle.’ Ond dywedodd, ‘Wna i ddim rhoi fy ngwinllan iti.’”
7 Dywedodd ei wraig Jesebel wrtho: “Onid y ti sy’n rheoli fel brenin dros Israel? Tyrd, bwyta rywbeth, a chod dy galon. Gwna i roi gwinllan Naboth y Jesreeliad iti.”
8 Felly ysgrifennodd hi lythyrau yn enw Ahab a’u selio nhw â’i sêl ef ac anfon y llythyrau at yr henuriaid a’r bobl bwysig oedd yn byw yn ninas Naboth.
9 Ysgrifennodd hi yn y llythyrau: “Cyhoeddwch gyfnod o ymprydio, a gosodwch Naboth i eistedd o flaen y bobl i gyd.
10 A rhowch ddau ddyn da i ddim i eistedd o’i flaen er mwyn tystiolaethu yn ei erbyn, gan ddweud, ‘Rwyt ti wedi melltithio Duw a’r brenin!’ Yna dewch ag ef allan a’i labyddio nes iddo farw.”
11 Felly dyma ddynion ei ddinas, yr henuriaid a’r bobl bwysig oedd yn byw yn ei ddinas, yn gwneud yn union fel roedd wedi ei ysgrifennu yn y llythyrau roedd Jesebel wedi eu hanfon atyn nhw.
12 Cyhoeddon nhw gyfnod o ymprydio a gosod Naboth i eistedd o flaen y bobl.
13 Yna daeth dau o’r dynion da i ddim i mewn ac eistedd o’i flaen a dechrau tystiolaethu yn erbyn Naboth o flaen y bobl gan ddweud: “Mae Naboth wedi melltithio Duw a’r brenin!” Ar ôl hynny, daethon nhw ag ef at gyrion y ddinas a’i labyddio nes iddo farw.
14 Yna, dyma nhw’n anfon neges at Jesebel yn dweud: “Mae Naboth wedi cael ei labyddio i farwolaeth.”
15 Cyn gynted ag y clywodd Jesebel fod Naboth wedi cael ei labyddio i farwolaeth, dywedodd hi wrth Ahab: “Cod, a chymera winllan Naboth y Jesreeliad, yr un gwnaeth ef wrthod ei rhoi iti am arian, oherwydd dydy Naboth ddim yn fyw bellach. Mae ef wedi marw.”
16 Cyn gynted ag y clywodd Ahab fod Naboth wedi marw, cododd Ahab i fynd i lawr i winllan Naboth y Jesreeliad er mwyn ei meddiannu.
17 Ond daeth gair Jehofa at Elias o Tisbe yn dweud:
18 “Cod, dos i lawr i gyfarfod Ahab brenin Israel sydd yn Samaria. Mae ef wedi mynd i winllan Naboth i’w meddiannu.
19 Mae’n rhaid iti ddweud wrtho, ‘Dyma mae Jehofa yn ei ddweud: “A wyt ti wedi llofruddio dyn a hefyd wedi cymryd ei eiddo?”’ Yna dyweda wrtho, ‘Dyma mae Jehofa yn ei ddweud: “Yn y fan lle llyfodd y cŵn waed Naboth, bydd y cŵn hefyd yn llyfu dy waed di.”’”
20 Dywedodd Ahab wrth Elias: “Felly, fy ngelyn, rwyt ti wedi dod o hyd imi!” Atebodd: “Do, rydw i wedi dod o hyd iti. ‘Am dy fod ti’n benderfynol o wneud beth sy’n ddrwg yng ngolwg Jehofa,
21 bydda i’n dod â thrychineb arnat ti, a bydda i’n ysgubo dy ddisgynyddion i ffwrdd ar dy ôl di ac yn cael gwared ar bob gwryw o deulu Ahab, gan gynnwys y mwyaf gwan ac isel yn Israel.
22 A bydda i’n gwneud dy dŷ di fel tŷ Jeroboam fab Nebat ac fel tŷ Baasa fab Aheia, oherwydd rwyt ti wedi fy ngwylltio i ac wedi achosi i Israel bechu.’
23 Hefyd, ynglŷn â Jesebel, mae Jehofa wedi dweud: ‘Bydd y cŵn yn bwyta Jesebel yn y cae yn Jesreel.
24 Bydd unrhyw un sy’n perthyn i Ahab sy’n marw yn y ddinas yn cael ei fwyta gan y cŵn, a bydd unrhyw un sy’n marw yn y cae yn cael ei fwyta gan adar y nefoedd.
25 Yn wir, does ’na neb tebyg i Ahab wedi bod erioed o’r blaen, neb oedd mor benderfynol o wneud beth sy’n ddrwg yng ngolwg Jehofa, a’i wraig Jesebel yn ei annog.
26 Gwnaeth y pethau mwyaf afiach drwy addoli’r eilunod ffiaidd,* yn union fel roedd yr holl Amoriaid wedi gwneud, y rhai gwnaeth Jehofa eu gyrru allan o’r wlad o flaen yr Israeliaid.’”
27 Cyn gynted ag y clywodd Ahab y geiriau hyn, rhwygodd ei ddillad a rhoi sachliain am ei gorff; a dechreuodd ymprydio, a byddai’n gorwedd mewn sachliain a hefyd yn cerdded o gwmpas yn isel ei ysbryd.
28 Yna daeth gair Jehofa at Elias o Tisbe:
29 “A wyt ti wedi gweld sut mae Ahab wedi gwneud ei hun yn isel oherwydd beth ddywedais i yn ei erbyn? Am ei fod wedi gwneud ei hun yn isel o fy mlaen i, wna i ddim dod â’r trychineb yn ystod ei fywyd. Bydda i’n dod â’r trychineb ar ei dŷ yn nyddiau ei fab.”
Troednodiadau
^ Efallai bod y term Hebraeg yn gysylltiedig â gair am “garthion” ac mae’n cael ei ddefnyddio fel math o sarhad.