Cyntaf Brenhinoedd 22:1-53

  • Jehosaffat yn ochri ag Ahab (1-12)

  • Michea yn proffwydo gorchfygiad (13-28)

    • Ysbryd yn twyllo Ahab (21, 22)

  • Ahab yn cael ei ladd yn Ramoth-gilead (29-40)

  • Teyrnasiad Jehosaffat dros Jwda (41-50)

  • Ahaseia, brenin Israel (51-53)

22  Doedd ’na ddim rhyfel rhwng Syria ac Israel am dair blynedd.  Yn y drydedd flwyddyn, aeth Jehosaffat brenin Jwda i lawr at frenin Israel.  Yna dywedodd brenin Israel wrth ei weision: “Ydych chi’n gwybod mai ni sydd biau Ramoth-gilead? Ond eto, rydyn ni’n oedi rhag ei chymryd yn ôl oddi wrth frenin Syria.”  Yna dywedodd wrth Jehosaffat: “A fyddi di’n mynd gyda mi i frwydro yn Ramoth-gilead?” Atebodd Jehosaffat: “Rwyt ti a fi yn un. Mae dy bobl di a fy mhobl i hefyd yn un, gan gynnwys dy geffylau di a fy ngheffylau innau.”  Ond dywedodd Jehosaffat wrth frenin Israel: “Yn gyntaf, plîs gofynna am arweiniad Jehofa.”  Felly dyma frenin Israel yn casglu’r proffwydi at ei gilydd, tua 400 o ddynion, a dweud wrthyn nhw: “A ddylwn i fynd i ryfela yn erbyn Ramoth-gilead neu beidio?” Dywedon nhw: “Dos i fyny, bydd Jehofa yn ei rhoi yn nwylo’r brenin.”  Yna dywedodd Jehosaffat: “Onid oes ’na un o broffwydi Jehofa yma? Gad inni fynd i ofyn am arweiniad Duw drwyddo ef hefyd.”  Gyda hynny, dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat: “Mae ’na un dyn arall y gallwn ni ofyn am arweiniad Jehofa drwyddo; ond rydw i’n ei gasáu oherwydd dydy ef byth yn proffwydo pethau da ynglŷn â fi, dim ond pethau drwg. Ei enw yw Michea fab Imla.” Ond dywedodd Jehosaffat: “Ddylai’r brenin ddim dweud y fath beth.”  Felly galwodd brenin Israel un o swyddogion y llys a dweud: “Tyrd â Michea fab Imla yma yn gyflym.” 10  Nawr roedd brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda yn eistedd ar eu gorseddau yn gwisgo eu dillad brenhinol wrth y llawr dyrnu a oedd wrth fynedfa porth Samaria, ac roedd y proffwydi i gyd yn proffwydo o’u blaenau nhw. 11  Yna dyma Sedeceia fab Cenaana yn gwneud cyrn haearn iddo’i hun ac yn dweud: “Dyma mae Jehofa yn ei ddweud, ‘Byddi di’n defnyddio’r rhain i daro’r Syriaid* nes iti gael gwared arnyn nhw yn gyfan gwbl.’” 12  Roedd y proffwydi eraill i gyd yn proffwydo yn yr un ffordd, gan ddweud: “Dos i fyny i Ramoth-gilead a byddi di’n llwyddiannus; bydd Jehofa yn ei rhoi yn nwylo’r brenin.” 13  Felly dyma’r negesydd a oedd wedi mynd i alw Michea yn dweud wrtho: “Edrycha! Mae’r proffwydi i gyd yn dweud pethau da wrth y brenin. Plîs gad i dy air di fod fel eu geiriau nhw, a dyweda bethau da.” 14  Ond dywedodd Michea: “Mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw, bydda i’n dweud beth bynnag mae Jehofa yn ei ddweud wrtho i.” 15  Yna aeth i mewn at y brenin, a gofynnodd y brenin iddo: “Michea, a ddylen ni fynd i ryfela yn erbyn Ramoth-gilead, neu beidio?” Ar unwaith atebodd: “Dos i fyny a byddi di’n llwyddiannus; bydd Jehofa yn ei rhoi yn nwylo’r brenin.” 16  Gyda hynny, dywedodd y brenin wrtho: “Sawl gwaith sydd rhaid imi dy roi di o dan lw i beidio â dweud unrhyw beth wrtho i heblaw am y gwir yn enw Jehofa?” 17  Felly dywedodd: “Rydw i’n gweld yr Israeliaid i gyd wedi eu gwasgaru ar y mynyddoedd, fel defaid heb fugail. Dywedodd Jehofa: ‘Does gan y rhain ddim meistr. Gad i bob un fynd yn ôl i’w dŷ mewn heddwch.’” 18  Yna dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat: “Oni wnes i ddweud wrthot ti na fyddai’n proffwydo pethau da ynglŷn â fi, dim ond pethau drwg?” 19  Yna dywedodd Michea: “Felly gwranda ar air Jehofa: Gwelais Jehofa yn eistedd ar ei orsedd a holl fyddin y nefoedd yn sefyll wrth ei ymyl, ar ei ochr dde ac ar ei ochr chwith. 20  Yna dywedodd Jehofa, ‘Pwy fydd yn twyllo Ahab fel y bydd yn mynd i fyny ac yn syrthio yn Ramoth-gilead?’ Ac roedd un angel yn dweud un peth tra oedd angel arall yn dweud rhywbeth arall. 21  Yna daeth ysbryd* ymlaen a sefyll o flaen Jehofa a dweud, ‘Gwna i ei dwyllo.’ Gofynnodd Jehofa iddo, ‘Sut byddi di’n gwneud hynny?’ 22  Atebodd, ‘Bydda i’n mynd allan ac yn gwneud i’r proffwydi i gyd ddweud celwyddau.’ Felly dywedodd ef, ‘Byddi di’n ei dwyllo, ac yn fwy na hynny, byddi di’n llwyddiannus. Dos allan a gwna hynny.’ 23  Dyna pam mae Jehofa wedi gadael i angel wneud i’r holl broffwydi hyn ddweud celwyddau wrthot ti, ond mae Jehofa wedi datgan y bydd rhywbeth ofnadwy yn digwydd iti.” 24  Yna, aeth Sedeceia fab Cenaana at Michea a’i daro ar ei foch a dweud: “A wyt ti’n dweud bod nerth Jehofa wedi fy ngadael i ac nawr yn siarad â ti?” 25  Atebodd Michea: “Edrycha! Cei di weld ar y diwrnod pan fyddi di’n mynd i mewn i’r ystafell fewnol i guddio.” 26  Yna dywedodd brenin Israel: “Cymera Michea a’i roi drosodd i Amon, pennaeth y ddinas, ac i Joas, mab y brenin. 27  Dyweda wrthyn nhw, ‘Dyma mae’r brenin yn ei ddweud: “Rhowch y dyn hwn yn y carchar a rhowch ddim ond ychydig o fara a dŵr iddo nes imi ddod yn ôl mewn heddwch.”’” 28  Ond dywedodd Michea: “Os byddi di’n dod yn ôl mewn heddwch, dydy Jehofa ddim wedi siarad â fi.” Yna ychwanegodd: “Cymerwch sylw, chi bobl i gyd.” 29  Felly aeth brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda i fyny i Ramoth-gilead. 30  Yna dywedodd brenin Israel wrth Jehosaffat: “Gwna i guddio pwy ydw i, a mynd i mewn i’r frwydr, ond dylet ti wisgo dy wisg frenhinol.” Felly dyma frenin Israel yn newid ei ddillad fel na fyddai’n cael ei adnabod ac aeth i mewn i’r frwydr. 31  Nawr roedd brenin Syria wedi gorchymyn i’w 32 o arweinwyr cerbydau: “Peidiwch ag ymladd â neb, yn fach neu’n fawr, heblaw am frenin Israel.” 32  Ac unwaith i’r arweinwyr cerbydau weld Jehosaffat, dywedon nhw wrthyn nhw eu hunain: “Mae’n rhaid mai brenin Israel yw hwn.” Felly gwnaethon nhw droi i ymladd yn ei erbyn; a dechreuodd Jehosaffat weiddi am help. 33  Pan welodd yr arweinwyr cerbydau nad y brenin Israel oedd ef, dyma nhw’n troi yn ôl ar unwaith rhag ei ddilyn. 34  Ond gwnaeth un dyn saethu ei fwa ar hap, a tharo brenin Israel mewn bwlch rhwng ei lurig a gweddill ei arfwisg. Felly dywedodd y brenin wrth yrrwr ei gerbyd: “Tro yn ôl a chymera fi allan o’r frwydr, oherwydd rydw i wedi cael fy anafu’n ddrwg.” 35  Roedd y frwydr yn ffyrnig drwy’r diwrnod hwnnw. Roedd y brenin yn ei gerbyd ac roedd rhaid iddyn nhw ei ddal ar ei draed er mwyn iddo allu gweld y Syriaid. Roedd y gwaed yn llifo allan o’r anaf ac yn mynd ar hyd llawr y cerbyd rhyfel, a bu farw gyda’r nos. 36  Pan oedd yr haul yn machlud, aeth cri drwy’r gwersyll yn dweud: “Pawb yn ôl i’w ddinas! Pawb yn ôl i’w wlad!” 37  Felly bu farw’r brenin ac aethon nhw ag ef i Samaria a’i gladdu yno. 38  Pan wnaethon nhw olchi’r cerbyd rhyfel wrth bwll Samaria, roedd y cŵn yn llyfu ei waed ac roedd y puteiniaid yn ymolchi yno* yn ôl beth roedd Jehofa wedi ei ddweud. 39  Ynglŷn â gweddill hanes Ahab, popeth a wnaeth, a’r tŷ* o ifori a’r holl ddinasoedd gwnaeth ef eu hadeiladu, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Israel? 40  Yna bu farw Ahab;* a daeth ei fab Ahaseia yn frenin yn ei le. 41  Roedd Jehosaffat, mab Asa, wedi dod yn frenin ar Jwda yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Ahab brenin Israel. 42  Roedd Jehosaffat yn 35 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd yn Jerwsalem am 25 mlynedd. Enw ei fam oedd Aswba ferch Silhi. 43  Parhaodd i efelychu esiampl Asa ei dad heb wyro, a gwnaeth beth oedd yn iawn yng ngolwg Jehofa. Ond, roedd yr uchelfannau yn dal i fod yno. Ac roedd y bobl yn dal i aberthu ac yn gwneud i fwg godi oddi ar eu haberthau ar yr uchelfannau. 44  Gwnaeth Jehosaffat gadw heddwch â brenin Israel. 45  Ynglŷn â gweddill hanes Jehosaffat, ei weithredoedd nerthol a’i ryfela, onid ydy hynny wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda? 46  Gwnaeth ef hefyd yrru allan o’r wlad weddill y dynion a oedd yn eu puteinio eu hunain yn y temlau, y rhai oedd yn dal ar ôl ers dyddiau ei dad Asa. 47  Bryd hynny, doedd ’na ddim brenin yn Edom; roedd ’na ddirprwy yn gweithredu fel brenin. 48  Hefyd, adeiladodd Jehosaffat longau Tarsis i nôl aur o Offir, ond ni aeth y llongau oherwydd cawson nhw eu llongddryllio yn Esion-geber. 49  Dyna pryd dywedodd Ahaseia fab Ahab wrth Jehosaffat: “Gad i fy ngweision i fynd gyda dy weision di yn y llongau,” ond gwrthododd Jehosaffat. 50  Yna bu farw Jehosaffat,* a chafodd ei gladdu gyda’i gyndadau yn Ninas Dafydd ei gyndad; a daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le. 51  Daeth Ahaseia fab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria yn yr ail flwyddyn ar bymtheg* o deyrnasiad Jehosaffat brenin Jwda, a theyrnasodd dros Israel am ddwy flynedd. 52  Ac roedd yn parhau i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa a dilyn esiampl ei dad, ei fam, a Jeroboam fab Nebat, a oedd wedi achosi i Israel bechu. 53  Parhaodd i wasanaethu Baal ac ymgrymu iddo, a gwnaeth ef ddigio Jehofa, Duw Israel, dro ar ôl tro yn union fel roedd ei dad wedi gwneud.

Troednodiadau

Neu “i gornio’r Syriaid.”
Neu “angel.”
Neu efallai, “lle roedd y puteiniaid yn ymolchi, roedd y cŵn yn llyfu ei waed.”
Neu “palas.”
Neu “Yna gorweddodd Ahab i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Neu “Yna gorweddodd Jehosaffat i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”
Neu “17eg flwyddyn.”