Cyntaf Brenhinoedd 4:1-34

  • Gweinyddiaeth Solomon (1-19)

  • Llwyddiant o dan deyrnasiad Solomon (20-28)

    • Heddwch o dan winwydden a choeden ffigys (25)

  • Doethineb a diarhebion Solomon (29-34)

4  Roedd y Brenin Solomon yn teyrnasu dros Israel gyfan.  Y rhain oedd ei uwch-swyddogion:* Asareia fab Sadoc oedd yr offeiriad;  Elihoreff ac Aheia meibion Sisa oedd yn ysgrifenyddion; Jehosaffat fab Ahilud oedd y cofnodydd;  Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth y fyddin; roedd Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid;  Asareia fab Nathan oedd yn bennaeth ar y swyddogion; roedd Sabud fab Nathan yn offeiriad ac yn ffrind i’r brenin;  Ahisar oedd yn rhedeg y palas; ac Adoniram fab Abda oedd yn gyfrifol am y rhai roedd y brenin wedi eu gorfodi i weithio iddo.  Roedd gan Solomon 12 swyddog a oedd yn gyfrifol am Israel gyfan ac a oedd yn darparu bwyd i’r brenin a phawb oedd yn byw yn y palas. Roedd pob un yn gyfrifol am ddarparu bwyd am un mis o’r flwyddyn.  Dyma oedd eu henwau: Mab Hur, yn ardal fynyddig Effraim;  mab Decar, ym Macas, Saalbim, Beth-semes, ac Elon-beth-hanan; 10  mab Hesed yn Aruboth (oedd ag awdurdod dros Socho a holl wlad Heffer); 11  mab Abinadab oedd ag awdurdod dros lethrau Dor (daeth Taffath, merch Solomon, yn wraig iddo); 12  Baana fab Ahilud, yn Taanach, Megido, a Beth-sean i gyd, sydd wrth ymyl Sarethan o dan Jesreel, o Beth-sean i Abel-mehola i ardal Jocmeam; 13  mab Geber, yn Ramoth-gilead (oedd ag awdurdod dros bentrefi pebyll Jair fab Manasse, sydd yn Gilead; a hefyd ardal Argob sydd yn Basan: 60 dinas fawr â waliau a barrau copr); 14  Ahinadab fab Ido, ym Mahanaim; 15  Ahimaas, yn Nafftali (cymerodd ef Basemath, un arall o ferched Solomon, yn wraig); 16  Baana fab Husai, yn Aser a Bealoth; 17  Jehosaffat fab Parua, yn Issachar; 18  Simei fab Ela, yn Benjamin; 19  Geber fab Uri, yng ngwlad Gilead, hynny yw, gwlad Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Basan. Roedd ’na hefyd un swyddog yn gyfrifol am yr holl swyddogion eraill hyn yn y wlad. 20  Roedd Jwda ac Israel mor niferus â’r tywod ar lan y môr; roedden nhw’n bwyta ac yn yfed ac yn llawenhau. 21  Roedd Solomon yn teyrnasu dros yr holl deyrnasoedd o’r Afon* hyd at wlad y Philistiaid ac at ffin yr Aifft. Daethon nhw â threthi* at Solomon a’i wasanaethu holl ddyddiau ei fywyd. 22  Bob dydd roedd palas Solomon yn defnyddio 30 mesur corus* o flawd mân, 60 mesur corus o flawd cyffredin, 23  10 o wartheg tew, 20 o wartheg o’r borfa, a 100 o ddefaid, yn ogystal â cheirw,* gaseliaid, iyrchod,* a sawl cwcw* dew. 24  Roedd yn rheoli popeth ar yr ochr hon o’r Afon,* o Tiffsa i Gasa, gan gynnwys yr holl frenhinoedd ar yr ochr hon o’r Afon; ac roedd yn mwynhau heddwch ym mhob ardal. 25  Roedd Jwda ac Israel yn byw mewn heddwch, pob un o dan ei winwydden a’i goeden ffigys ei hun, o Dan i Beer-seba, holl ddyddiau Solomon. 26  Ac roedd gan Solomon 4,000* o stablau ar gyfer y ceffylau a oedd yn tynnu ei gerbydau ac roedd ganddo 12,000 o geffylau.* 27  Roedd y swyddogion hyn yn darparu bwyd i’r Brenin Solomon yn ogystal â phawb oedd yn bwyta wrth fwrdd y Brenin Solomon. Roedd pob un yn gyfrifol am un mis ac yn sicrhau bod ’na ddigon i bawb. 28  Roedden nhw hefyd yn mynd â haidd a gwellt i le bynnag roedd eu hangen ar gyfer y ceffylau gan gynnwys y ceffylau tynnu, pob un yn ôl ei ddyletswydd. 29  A rhoddodd Duw ddoethineb di-ben-draw i Solomon a chalon oedd yn llawn dealltwriaeth. 30  Roedd gan Solomon fwy o ddoethineb ’na holl bobl y Dwyrain a holl bobl yr Aifft. 31  Roedd yn ddoethach nag unrhyw ddyn arall, gan gynnwys Ethan yr Esrahiad a Heman, Calcol, a Darda, meibion Mahol; daeth Solomon yn enwog drwy’r holl wledydd oedd o’i gwmpas. 32  Cyfansoddodd 3,000 o ddiarhebion a 1,005 o ganeuon. 33  Byddai’n sôn am y coed, o’r cedrwydd yn Lebanon i’r isop sy’n tyfu ar y wal; byddai hefyd yn sôn am yr anifeiliaid, yr adar, yr ymlusgiaid, y pryfed, a’r pysgod. 34  Daeth pobl o’r holl genhedloedd i glywed doethineb Solomon, gan gynnwys brenhinoedd o bob rhan o’r byd a oedd wedi clywed am ei ddoethineb.

Troednodiadau

Neu “ei dywysogion.”
Hynny yw, yr Ewffrates.
Neu “ag anrhegion.”
Roedd un corus yn gyfartal â 220 L.
Neu “hyddod.”
Hynny yw, math o geirw bychain.
Hynny yw, y gog.
Hynny yw, i’r gorllewin o’r Ewffrates.
Y ffigwr hwn sydd yn rhai llawysgrifau ac yn yr hanes cyfochrog. Mae llawysgrifau eraill yn dweud 40,000.
Neu “o farchogion.”