Cyntaf Brenhinoedd 5:1-18

  • Y Brenin Hiram yn darparu deunydd adeiladu (1-12)

  • Y gweithlu roedd Solomon wedi ei orfodi i weithio iddo (13-18)

5  Pan glywodd Hiram, brenin Tyrus, fod Solomon wedi cael ei eneinio yn frenin yn lle ei dad, anfonodd ei weision at Solomon, am fod Hiram yn wastad wedi bod yn ffrind i Dafydd.  Yn ei dro, anfonodd Solomon neges at Hiram:  “Rwyt ti’n gwybod yn iawn nad oedd Dafydd fy nhad yn gallu adeiladu tŷ ar gyfer enw Jehofa ei Dduw, oherwydd y rhyfeloedd yn ei erbyn ar bob ochr nes bod Jehofa wedi rhoi ei elynion o dan wadnau ei draed.  Ond nawr mae Jehofa fy Nuw wedi rhoi gorffwys imi ar bob ochr. Does ’na neb yn fy ngwrthwynebu i a does dim byd drwg yn digwydd.  Felly rydw i’n bwriadu adeiladu tŷ ar gyfer enw Jehofa fy Nuw, yn union fel yr addawodd Jehofa i Dafydd fy nhad gan ddweud: ‘Dy fab di, yr un bydda i’n ei roi ar dy orsedd yn dy le di, fydd yn adeiladu tŷ ar gyfer fy enw.’  Nawr gorchmynna i dy bobl dorri cedrwydd o Lebanon imi. Bydd fy ngweision i yn gweithio gyda dy weision di, a bydda i’n talu cyflog i dy weision yn ôl y swm rwyt ti’n ei osod, oherwydd fel rwyt ti’n gwybod, does dim un ohonon ni yn gwybod sut i dorri coed fel y Sidoniaid.”  Roedd Hiram wrth ei fodd pan glywodd eiriau Solomon, a dywedodd: “Clod i Jehofa heddiw, am ei fod wedi rhoi mab doeth i Dafydd i fod dros y bobl niferus hyn!”*  Felly anfonodd Hiram neges at Solomon: “Rydw i wedi clywed y neges y gwnest ti ei hanfon ata i. Bydda i’n gwneud popeth rwyt ti’n ei ofyn drwy ddarparu’r coed cedrwydd a’r coed meryw.  Bydd fy ngweision yn dod â nhw i lawr o Lebanon at y môr, a bydda i’n eu clymu nhw at ei gilydd i wneud rafftiau ac yn eu gyrru nhw dros y môr i le bynnag rwyt ti eisiau. Bydda i’n gorchymyn i’r rafftiau gael eu datod yno, a byddi di’n gallu eu cario nhw i ffwrdd. A chei dithau ddarparu’r bwyd bydda i’n gofyn amdano ar gyfer fy nhŷ.” 10  Felly dyma Hiram yn darparu’r holl goed cedrwydd a choed meryw roedd Solomon eisiau. 11  A rhoddodd Solomon 20,000 mesur corus* o wenith i Hiram fel bwyd ar gyfer ei dŷ ac 20 mesur corus o’r olew olewydd gorau. Dyna beth roddodd Solomon i Hiram flwyddyn ar ôl blwyddyn. 12  A rhoddodd Jehofa ddoethineb i Solomon, yn union fel roedd wedi addo iddo. Ac roedd ’na heddwch rhwng Hiram a Solomon, a dyma’r ddau ohonyn nhw yn gwneud cytundeb heddwch. 13  Gwnaeth y Brenin Solomon orfodi dynion o blith Israel gyfan i weithio iddo; 30,000 o ddynion yn gyfan gwbl. 14  Byddai’n eu hanfon nhw i Lebanon fesul 10,000 am fis ar y tro. Byddan nhw’n treulio mis yn Lebanon a deufis gartref; ac roedd Adoniram yn gyfrifol am y rhai a oedd wedi eu gorfodi i weithio i’r brenin. 15  Roedd gan Solomon 70,000 o lafurwyr cyffredin ac 80,000 o ddynion yn naddu cerrig yn y mynyddoedd, 16  yn ogystal â’i 3,300 o swyddogion a oedd yn gwasanaethu fel fformyn i oruchwylio’r gweithwyr. 17  Ar orchymyn y brenin, gwnaethon nhw gloddio cerrig mawr drud, er mwyn gosod sylfaen y tŷ â cherrig wedi eu naddu. 18  Felly roedd adeiladwyr Solomon, adeiladwyr Hiram, a’r Gebaliaid yn naddu’r cerrig ac yn paratoi’r coed a’r cerrig ar gyfer adeiladu’r tŷ.

Troednodiadau

Neu “y genedl fawr hon!”
Roedd un corus yn gyfartal â 220 L.