Cyntaf Brenhinoedd 6:1-38

  • Solomon yn adeiladu’r deml (1-38)

    • Yr ystafell fewnol (19-22)

    • Y cerwbiaid (23-28)

    • Lluniau wedi eu cerfio, drysau, cwrt mewnol (29-36)

    • Y deml wedi ei chwblhau mewn tua saith mlynedd (37, 38)

6  Yn y bedwaredd flwyddyn ar ôl i Solomon ddod yn frenin ar Israel, hynny yw, bron i 480 mlynedd lawn ar ôl i’r Israeliaid ddod allan o’r Aifft, dechreuodd Solomon adeiladu tŷ Jehofa ym mis Sif (hynny yw, yr ail fis).  Adeiladodd y Brenin Solomon dŷ i Jehofa a oedd yn 60 cufydd* o hyd, 20 cufydd o led, a 30 cufydd o uchder.  Roedd y cyntedd a oedd ar flaen y deml yn 20 cufydd o hyd, sy’n gyfartal â lled y tŷ.* Roedd y cyntedd yn ychwanegu deg cufydd at hyd y tŷ.  Dyma’n gwneud ffenestri ar gyfer y tŷ oedd â fframiau a oedd yn culhau.*  Hefyd, adeiladodd estyniad yn erbyn wal y tŷ; aeth yr estyniad o gwmpas waliau’r tŷ, hynny yw, waliau’r deml* a’r ystafell fewnol.* Ac y tu mewn i’r estyniad roedd ’na ystafelloedd ochr.  Roedd y llawr isaf o ystafelloedd ochr yn bum cufydd o led, roedd y llawr canol yn chwe chufydd o led, ac roedd y trydydd llawr yn saith cufydd o led, am ei fod wedi gwneud siliau* o amgylch y tŷ cyfan fel na fyddai’n rhaid gwneud tyllau yn waliau’r tŷ.  Cafodd y tŷ ei adeiladu â cherrig oedd eisoes wedi cael eu paratoi yn y chwarel fel nad oedd yr un morthwyl na bwyell na thwlsyn haearn i’w glywed yn y tŷ tra oedd yn cael ei adeiladu.  Roedd y fynedfa i’r llawr isaf o ystafelloedd ochr ar yr ochr ddeheuol* o’r tŷ, ac roedd grisiau troellog yn mynd i fyny at y llawr canol, ac yna o’r llawr canol i fyny at y trydydd llawr.  Parhaodd i adeiladu’r tŷ a’i orffen, a gwnaeth do i’r tŷ â thrawstiau o goed cedrwydd a phlanciau cedrwydd wedi eu gosod mewn rhesi. 10  Adeiladodd ystafelloedd ochr o gwmpas y tŷ, pob un yn bum cufydd o uchder, ac roedden nhw wedi eu cysylltu i’r tŷ â choed cedrwydd. 11  Yn y cyfamser, daeth gair Jehofa at Solomon, gan ddweud: 12  “Ynglŷn â’r tŷ hwn rwyt ti’n ei adeiladu, os byddi di’n cerdded yn unol â fy neddfau ac yn rhoi fy marnedigaethau ar waith ac yn ufuddhau i fy holl orchmynion drwy fyw yn unol â nhw, bydda i hefyd yn cyflawni’r addewid a wnes i i dy dad Dafydd ynglŷn â ti, 13  a bydda i’n byw ymhlith yr Israeliaid, a fydda i ddim yn cefnu ar fy mhobl Israel.” 14  Parhaodd Solomon i adeiladu’r tŷ a’i orffen. 15  Gorchuddiodd y waliau y tu mewn i’r tŷ â phaneli cedrwydd o’r llawr i fyny at drawstiau’r nenfwd. A gorchuddiodd* lawr y tŷ â phlanciau o goed meryw. 16  A mesurodd ef 20 cufydd o wal gefn y tŷ a chreu ystafell gyda phaneli cedrwydd a oedd yn mynd o’r llawr i fyny at y trawstiau. Y rhan honno oedd yr ystafell fewnol, y Mwyaf Sanctaidd. 17  Roedd y Sanctaidd yn y rhan flaen o’r tŷ ac roedd yn 40 cufydd. 18  Roedd ’na flodau agored a ffrwythau bach crwn* wedi eu cerfio ar y cedrwydd y tu mewn i’r tŷ. Roedd y cwbl wedi ei wneud o gedrwydd; doedd yr un garreg i’w gweld yn unman. 19  A pharatôdd yr ystafell fewnol y tu mewn i’r tŷ er mwyn rhoi arch cyfamod Jehofa yno. 20  Roedd yr ystafell fewnol yn 20 cufydd o hyd, 20 cufydd o led, ac 20 cufydd o uchder; a gwnaeth ef ei gorchuddio ag aur pur; gorchuddiodd yr allor â chedrwydd. 21  Gorchuddiodd Solomon y tu mewn i’r tŷ ag aur pur, a rhoddodd gadwyni aur o flaen yr ystafell fewnol, a oedd wedi ei gorchuddio ag aur. 22  Gorchuddiodd y tŷ cyfan ag aur nes bod y tŷ cyfan wedi ei gwblhau; gwnaeth ef hefyd orchuddio’r allor oedd wrth ymyl yr ystafell fewnol yn gyfan gwbl ag aur. 23  Yn yr ystafell fewnol dyma’n creu dau gerwb allan o goed pin,* pob un yn ddeg cufydd o uchder. 24  Roedd adenydd y cerwb cyntaf yn mesur pum cufydd yr un. Roedd yr adenydd yn ddeg cufydd o un pen i’r llall. 25  Roedd adenydd yr ail gerwb hefyd yn ddeg cufydd. Roedd y ddau gerwb yr un siâp a maint. 26  Roedd un cerwb yn ddeg cufydd o uchder, fel roedd y llall. 27  Yna rhoddodd ef y cerwbiaid y tu mewn i’r Mwyaf Sanctaidd. Roedd adenydd y cerwbiaid ar led fel bod adain un cerwb yn cyffwrdd un wal ac adain y cerwb arall yn cyffwrdd y wal arall, ac roedd eu hadenydd hefyd yn ymestyn tuag at ganol y tŷ fel bod yr adenydd yn cyffwrdd. 28  A gorchuddiodd y cerwbiaid ag aur. 29  A gwnaeth ef gerfio lluniau o gerwbiaid, coed palmwydd, a blodau agored ar hyd waliau dwy ystafell y tŷ. 30  A gorchuddiodd lawr dwy ystafell y tŷ ag aur. 31  Ar gyfer mynedfa’r ystafell fewnol, gwnaeth ef ddrysau o goed pin, pileri, a physt i’r drysau, fel pumed ran.* 32  Roedd y ddau ddrws wedi eu gwneud o goed pin, a cherfiodd gerwbiaid, coed palmwydd, a blodau agored arnyn nhw, a’u gorchuddio ag aur; defnyddiodd forthwyl i orchuddio’r cerwbiaid a’r coed palmwydd ag aur. 33  Ar gyfer mynedfa’r deml,* ffurfiodd byst y drysau o goed pin yn yr un ffordd, yn perthyn i bedwaredd ran.* 34  A gwnaeth ef ddau ddrws o goed meryw. Roedd un drws wedi ei wneud o ddau banel pren a oedd yn plygu yn ôl ar ei gilydd, ac roedd y drws arall wedi ei wneud o ddau banel pren a oedd yn plygu yn ôl ar ei gilydd. 35  Cerfiodd gerwbiaid, coed palmwydd, a blodau agored ar y drysau, a’u gorchuddio â ffoil aur. 36  Adeiladodd y cwrt mewnol â thair rhes o gerrig wedi eu naddu a rhes o drawstiau cedrwydd. 37  Yn y bedwaredd flwyddyn, ym mis Sif, cafodd sylfaen tŷ Jehofa ei gosod; 38  ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg,* ym mis Bul (hynny yw, yr wythfed mis), cafodd y tŷ ei orffen i’r manylyn lleiaf ac yn ôl y cynllun. Felly treuliodd saith mlynedd yn ei adeiladu.

Troednodiadau

Roedd cufydd yn gyfartal â 44.5 cm (17.5 mod).
Neu “20 cufydd yn ymestyn ar draws lled y tŷ.”
Neu “ffenestri ag ymylon befel.”
Yma yn cyfeirio at y Sanctaidd.
Hynny yw, y Mwyaf Sanctaidd.
Neu “silffoedd.”
Llyth., “ochr dde.”
Llyth., “adeiladodd.”
Llyth., “gowrdiau.”
Llyth., “coed olew,” efallai pinwydden Aleppo.
Efallai yn cyfeirio at y ffordd roedd y drysau yn cael eu hadeiladu neu at eu maint.
Yma yn cyfeirio at y Sanctaidd.
Efallai yn cyfeirio at y ffordd roedd y drysau yn cael eu hadeiladu neu at eu maint.
Neu “11eg flwyddyn.”