Cyntaf Brenhinoedd 7:1-51

  • Safle palas Solomon (1-12)

  • Hiram fedrus i helpu Solomon (13-47)

    • Y ddwy golofn o gopr (15-22)

    • Y Môr o fetel wedi ei gastio (23-26)

    • Deg cerbyd a deg basn copr (27-39)

  • Yr offer aur yn cael eu cwblhau (48-51)

7  A chymerodd Solomon 13 blynedd i adeiladu ei dŷ* ei hun nes bod ei dŷ cyfan wedi ei gwblhau.  Ac adeiladodd Dŷ Coedwig Lebanon yn 100 cufydd* o hyd, 50 cufydd o led, a 30 cufydd o uchder ar ben pedair rhes o golofnau cedrwydd; ac roedd ’na drawstiau cedrwydd ar ben y colofnau.  Roedd ’na baneli o gedrwydd ar y trawstiau a oedd ar ben y colofnau; 45 ohonyn nhw i gyd, gyda 15 i bob rhes.  Roedd ’na dair rhes o ffenestri* uwchben ei gilydd, ac roedd pob ffenest gyferbyn â ffenest ar yr ochr arall.  Roedd ’na ffrâm sgwâr* ar bob mynedfa a phostyn drws, fel roedd ar bob un o’r ffenestri a oedd gyferbyn â’i gilydd mewn tair rhes.  Ac adeiladodd Neuadd y Colofnau yn 50 cufydd o hyd a 30 cufydd o led, ac roedd ’na gyntedd o’i blaen gyda cholofnau a chanopi.  Adeiladodd hefyd Neuadd yr Orsedd, lle byddai’n barnu—y Neuadd Farn—a gwnaethon nhw ei phanelu â chedrwydd o’r llawr i’r trawstiau.  Roedd y tŷ* lle roedd ef am fyw, yn y cwrt arall, wedi ei osod y tu ôl i’r Neuadd, ac roedd wedi cael ei adeiladu mewn ffordd debyg. Hefyd adeiladodd dŷ a oedd yn debyg i’r Neuadd hon ar gyfer merch Pharo, yr un roedd Solomon wedi ei phriodi.  Roedd y rhain i gyd—o’r sylfaen i fyny at gopa’r wal, a’r rhan allanol, mor bell â’r cwrt mawr—wedi eu gwneud o gerrig drud a oedd wedi cael eu naddu i fesur, a’u llifio ar bob ochr. 10  A chafodd y sylfaen ei gosod â cherrig drud ac anferth; roedd rhai cerrig yn mesur deg cufydd a cherrig eraill yn mesur wyth cufydd. 11  Ac uwchben y rhain roedd ’na gerrig drud, a oedd wedi cael eu naddu i fesur, yn ogystal â chedrwydd. 12  O gwmpas y cwrt mawr roedd ’na dair rhes o gerrig wedi eu naddu a rhes o drawstiau cedrwydd, fel roedd yng nghwrt mewnol tŷ Jehofa ac yng nghyntedd y tŷ. 13  Anfonodd y Brenin Solomon am Hiram a dod ag ef o Tyrus. 14  Roedd yn fab i weddw o lwyth Nafftali, ac roedd ei dad yn ddyn o Tyrus a oedd yn gweithio â chopr. Roedd Hiram yn fedrus iawn yn ei waith, roedd yn brofiadol, ac roedd ganddo ddigon o ddealltwriaeth i wneud pob math o bethau allan o gopr.* Felly daeth at y Brenin Solomon a gwneud ei holl waith. 15  Castiodd ddwy golofn o gopr; pob colofn yn 18 cufydd o uchder, ac roedd gan y ddwy golofn gylchedd o 12 cufydd. 16  Castiodd ddau gapan colofn o gopr i roi ar ben y colofnau. Roedd un capan yn bum cufydd o uchder ac roedd y capan arall yn bum cufydd o uchder. 17  Roedd y capan ar ben pob colofn wedi ei addurno â rhwydwaith ac â chadwyni wedi eu plethu; saith ar un capan a saith ar y capan arall. 18  Yna gwnaeth bomgranadau a’u gosod nhw mewn dwy res o gwmpas y rhwydwaith ar gapan un golofn i’w haddurno; gwnaeth yr un peth ar y ddau gapan. 19  Roedd y capanau ar ben colofnau’r cyntedd wedi eu ffurfio ar siâp lili a oedd yn bedwar cufydd o uchder. 20  Roedd y capanau ar ben y ddwy golofn, uwchben y darn crwn sy’n cyffwrdd â’r rhwydwaith; ac roedd ’na 200 o bomgranadau mewn rhesi o amgylch pob capan. 21  Gosododd y colofnau o flaen cyntedd y deml.* Gosododd un golofn ar yr ochr dde* a’i galw’n Jachin,* ac yna gosododd y golofn arall ar yr ochr chwith* a’i galw’n Boas.* 22  Ac roedd topiau’r colofnau wedi eu ffurfio ar siâp lili. Felly cafodd y gwaith ar y colofnau ei gwblhau. 23  Yna dyma’n castio basn dŵr enfawr o gopr a’i alw y Môr. Roedd yn grwn, yn 10 cufydd o un ymyl i’r llall ac yn 5 cufydd o uchder, ac roedd ganddo gylchedd o 30 cufydd. 24  Ac roedd ’na ffrwythau bach crwn* addurniadol o dan ei ymyl, yn mynd o’i amgylch yn gyfan gwbl, deg i bob cufydd yr holl ffordd o gwmpas y Môr. Roedd y basn a’r ddwy res o ffrwythau bach crwn* wedi eu castio fel un darn. 25  Roedd yn sefyll ar 12 tarw, 3 yn wynebu’r gogledd, 3 yn wynebu’r gorllewin, 3 yn wynebu’r de, a 3 yn wynebu’r dwyrain; ac roedd y Môr yn eistedd arnyn nhw, ac roedd eu cynffonnau i gyd tua’r canol. 26  Roedd yn lled llaw* o drwch; ac roedd ei ymyl wedi ei ffurfio fel ymyl cwpan, fel blodyn lili. Byddai’n dal 2,000 mesur bath* o ddŵr. 27  Yna gwnaeth ddeg cerbyd* o gopr. Roedd pob cerbyd yn bedwar cufydd o hyd, pedwar cufydd o led, a thri chufydd o uchder. 28  A dyma sut cafodd y cerbydau eu hadeiladu: Roedd ganddyn nhw baneli ar yr ochrau, ac roedd ’na baneli rhwng y croesfarrau. 29  Ac ar y paneli rhwng y croesfarrau, roedd ’na lewod, teirw, a cherwbiaid, ac roedd yr un patrwm ar y croesfarrau. Roedd ’na gerfwedd o gylchau addurniadol* uwchben ac o dan y llewod a’r teirw. 30  Ac roedd gan bob cerbyd bedair olwyn gopr ac echel gopr, ac roedd y pedwar darn ar bob cornel yn gweithredu fel cynhalbyst. Roedd y cynhalbyst o dan y basn ac roedden nhw wedi eu castio â chylchau addurniadol ar bob ochr. 31  Roedd ceg y basn yn eistedd y tu mewn i’r goron ac roedd yn gufydd o uchder. Roedd ceg y goron yn grwn ac roedd yn gufydd a hanner o uchder gan gynnwys y cynhalbyst. Ac roedd ’na gerfiadau ar geg y goron. Ac roedd y paneli ar yr ochr yn sgwâr, nid yn grwn. 32  Roedd y pedair olwyn o dan y paneli ar yr ochr, ac roedd cynhalbyst yr olwynion ynghlwm wrth y cerbyd, ac roedd pob olwyn yn gufydd a hanner o uchder. 33  Ac roedd yr olwynion i gyd fel olwynion cerbyd cyffredin. Roedd eu cynhalbyst, eu hymylon, eu sbôcs, a’u bothau i gyd wedi eu castio o gopr. 34  Roedd ’na bedwar cynhalbost ar bob cerbyd, un i bob cornel; cafodd y cynhalbyst eu castio fel rhan o’r cerbyd.* 35  Ar ben y cerbyd roedd ’na goron gron a oedd yn hanner cufydd o uchder. Ac roedd y cerbyd, yn ogystal â’i ochrau a chynhalbyst y goron, wedi cael eu castio fel un darn. 36  Ar wyneb y ffrâm, ac ar y paneli ar yr ochr, roedd ’na gerwbiaid, llewod, a choed palmwydd wedi eu cerfio yn ôl faint o le oedd ar bob un, gyda chylchoedd addurniadol o’u hamgylch. 37  Dyna sut gwnaeth ef bob cerbyd; cawson nhw i gyd eu castio yr un fath, yr un siâp a maint. 38  Gwnaeth ddeg basn copr; roedd pob un yn mesur pedwar cufydd* ac yn gallu dal 40 mesur bath o ddŵr. Roedd ’na un basn i bob un o’r deg cerbyd. 39  Yna rhoddodd bum cerbyd ar ochr dde y tŷ a phum cerbyd ar ochr chwith y tŷ, a rhoddodd y Môr ar ochr dde y tŷ, tua’r de-ddwyrain. 40  Hefyd gwnaeth Hiram y basnau, y rhawiau, a’r powlenni. Felly gorffennodd Hiram yr holl waith roedd ganddo i’w wneud ar dŷ Jehofa ar ran y Brenin Solomon: 41  y ddwy golofn a’r capanau crwn oedd ar ben y ddwy golofn; y ddau rwydwaith oedd yn gorchuddio’r capanau ar ben y colofnau; 42  y 400 o bomgranadau ar gyfer y ddau rwydwaith, dwy res o bomgranadau i bob rhwydwaith i orchuddio’r ddau gapan oedd ar ben y ddwy golofn; 43  y deg cerbyd a’r deg basn ar ben y cerbydau; 44  y Môr a’r 12 tarw o dan y Môr; 45  a’r llestri lludw, y rhawiau, y powlenni, a’r holl offer. Gwnaeth Hiram yr holl bethau hyn allan o gopr wedi ei sgleinio, a hynny ar gyfer tŷ Jehofa ar ran y Brenin Solomon. 46  Gorchmynnodd y brenin fod y copr yn cael ei gastio mewn mowldiau clai yn ardal yr Iorddonen, rhwng Succoth a Sarethan. 47  Wnaeth Solomon ddim pwyso’r holl offer am fod ’na gymaint ohono. Wnaethon nhw ddim darganfod pwysau’r holl gopr. 48  Gwnaeth Solomon yr holl offer ar gyfer tŷ Jehofa: yr allor aur; y bwrdd aur lle byddan nhw’n rhoi’r bara oedd wedi ei gyflwyno i Dduw;* 49  y canwyllbrennau o aur pur, pump ar y dde a phump ar y chwith o flaen yr ystafell fewnol; y blodau agored, y lampau, a’r offer i ddal y wic.* Cafodd y rhain i gyd eu gwneud o aur; 50  y basnau, yr offer diffodd fflamau,* y powlenni, y cwpanau, a’r llestri i ddal tân. Roedd y rhain i gyd wedi eu gwneud o aur. Ac roedd y socedi ar gyfer drysau’r tŷ mewnol, hynny yw, y Mwyaf Sanctaidd, ac ar gyfer drysau’r Sanctaidd* wedi eu gwneud o aur. 51  Felly, gorffennodd y Brenin Solomon yr holl waith roedd rhaid iddo ei wneud ar dŷ Jehofa. Yna dyma Solomon yn dod â’r pethau roedd ei dad Dafydd wedi eu sancteiddio i mewn, a rhoddodd yr arian, yr aur, a’r pethau eraill i mewn i’r trysordai yn nhŷ Jehofa.

Troednodiadau

Neu “ei balas.”
Roedd cufydd yn gyfartal â 44.5 cm (17.5 mod).
Llyth., “ffenestri mewn fframiau.”
Neu “ffrâm bedair ochrog; ffrâm betryal.”
Neu “palas.”
Neu “ag efydd,” yma ac yng ngweddill y bennod.
Yma yn cyfeirio at y Sanctaidd.
Neu “ochr ddeheuol.”
Sy’n golygu “Gad Iddo [hynny yw, Jehofa] Sefydlu’n Gadarn.”
Neu “ochr ogleddol.”
Efallai’n golygu “Mewn Cryfder.”
Llyth., “gowrdiau.”
Llyth., “gowrdiau.”
Tua 7.4 cm (2.9 mod).
Roedd un bath yn gyfartal â 22 L (4.84 gal).
Neu “troli dŵr.”
Neu “o blethdorchau.”
Neu “cafodd y cynhalbyst a’r cerbyd eu castio fel un darn.”
Neu “roedd gan bob un gylchedd o bedwar cufydd.”
Neu “bara gosod.”
Neu “gefeiliau.”
Neu “y sisyrnau diffodd fflamau.”
Llyth., “tŷ y deml.”