Cyntaf Brenhinoedd 8:1-66
8 Bryd hynny, casglodd Solomon holl henuriaid Israel at ei gilydd—penaethiaid y llwythau a phenaethiaid teuluoedd estynedig Israel. Daethon nhw at y Brenin Solomon yn Jerwsalem i ddod ag arch cyfamod Jehofa i fyny o Ddinas Dafydd, hynny yw, Seion.
2 Daeth holl ddynion Israel at ei gilydd o flaen y Brenin Solomon yn ystod yr ŵyl* ym mis Ethanim, hynny yw, y seithfed mis.
3 Unwaith i holl henuriaid Israel gyrraedd, dyma’r offeiriaid yn codi’r Arch.
4 Daethon nhw ag Arch Jehofa, pabell y cyfarfod, a’r holl offer sanctaidd oedd yn y babell i dŷ Dduw. Yr offeiriaid a’r Lefiaid a ddaeth â nhw i fyny.
5 Roedd y Brenin Solomon o flaen yr Arch gyda holl gynulleidfa Israel a oedd wedi cael eu galw at ei gilydd i’w gyfarfod. Roedd cymaint o ddefaid a gwartheg yn cael eu haberthu roedd yn amhosib eu cyfri nhw na’u rhifo.
6 Yna daeth yr offeiriaid ag arch cyfamod Jehofa i’w lle yn ystafell fewnol y tŷ, y Mwyaf Sanctaidd, o dan adenydd y cerwbiaid.
7 Felly, roedd adenydd y cerwbiaid yn estyn dros yr Arch, fel bod y cerwbiaid yn cysgodi’r Arch a’i pholion.
8 Roedd y polion mor hir nes ei bod hi’n bosib gweld blaenau’r polion o’r Sanctaidd, a oedd o flaen yr ystafell fewnol, ond doedd hi ddim yn bosib eu gweld nhw o’r tu allan. Ac maen nhw yno hyd heddiw.
9 Doedd ’na ddim byd yn yr Arch heblaw am y ddwy lech garreg roedd Moses wedi eu rhoi ynddi yn Horeb pan wnaeth Jehofa gyfamod â phobl Israel tra oedden nhw’n dod allan o wlad yr Aifft.
10 Pan ddaeth yr offeiriaid allan o’r lle sanctaidd, dyma gwmwl yn llenwi tŷ Jehofa.
11 Roedd yr offeiriaid yn methu parhau â’u dyletswyddau oherwydd y cwmwl, gan fod gogoniant Jehofa wedi llenwi tŷ Jehofa.
12 Bryd hynny, dywedodd Solomon: “Dywedodd Jehofa y byddai’n byw yn y tywyllwch dwfn.
13 Rydw i wedi adeiladu tŷ gogoneddus iti, rhywle iti fyw ynddo am byth.”
14 Yna trodd y brenin i wynebu’r bobl a dechreuodd fendithio holl gynulleidfa Israel wrth i holl gynulleidfa Israel sefyll.
15 Dywedodd: “Clod i Jehofa, Duw Israel, yr un sydd wedi cyflawni â’i law ei hun yr hyn y gwnaeth ef ei addo i fy nhad Dafydd â’i geg ei hun drwy ddweud,
16 ‘O’r diwrnod y des i â fy mhobl allan o’r Aifft, dydw i ddim wedi dewis dinas allan o holl lwythau Israel i adeiladu tŷ ynddi er mwyn i fy enw gael ei anrhydeddu, ond rydw i wedi dewis Dafydd i fod dros fy mhobl Israel.’
17 A dymuniad calon fy nhad Dafydd oedd adeiladu tŷ er mwyn enw Jehofa, Duw Israel.
18 Ond dywedodd Jehofa wrth fy nhad Dafydd, ‘Dymuniad dy galon oedd adeiladu tŷ er mwyn fy enw i, ac mae hynny’n beth da iawn.
19 Er hynny, nid ti fydd yn adeiladu’r tŷ, ond dy fab dy hun fydd yn cael ei eni i ti yw’r un fydd yn adeiladu tŷ er mwyn fy enw i.’
20 Mae Jehofa wedi cyflawni’r addewid a wnaeth ef, oherwydd rydw i wedi cymryd lle fy nhad Dafydd, ac rydw i’n eistedd ar orsedd Israel, yn union fel gwnaeth Jehofa addo. Hefyd, rydw i wedi adeiladu’r tŷ er mwyn enw Jehofa, Duw Israel,
21 ac wedi gosod lle yno ar gyfer yr Arch sy’n cynnwys y cyfamod a wnaeth Jehofa â’n cyndadau pan oedd yn dod â nhw allan o wlad yr Aifft.”
22 Yna safodd Solomon o flaen allor Jehofa yng ngolwg holl gynulleidfa Israel, ac estyn ei ddwylo tua’r nefoedd,
23 a dywedodd: “O Jehofa, Duw Israel, does ’na ddim Duw fel ti yn y nefoedd uchod nac ar y ddaear isod, sy’n cadw’r cyfamod ac sy’n dangos cariad ffyddlon tuag at dy weision sy’n cerdded o dy flaen di â’u holl galonnau.
24 Rwyt ti wedi cadw’r addewid wnest ti i dy was Dafydd fy nhad. Gwnest ti’r addewid â dy geg dy hun, a heddiw rwyt ti wedi ei gyflawni â dy law dy hun.
25 Ac nawr, O Jehofa, Duw Israel, cadwa’r addewid wnest ti i dy was Dafydd fy nhad pan ddywedaist ti: ‘Os bydd dy feibion yn talu sylw i’r ffordd maen nhw’n byw drwy gerdded o fy mlaen i, yn union fel rwyt ti wedi gwneud, yna bydd ’na wastad un o dy ddisgynyddion di yn eistedd ar orsedd Israel.’
26 O Dduw Israel, plîs gad i’r addewid wnest ti i dy was Dafydd fy nhad ddod yn wir.
27 “Ond a fydd Duw yn wir yn byw ar y ddaear? Edrycha! Ni all y nefoedd, na nefoedd y nefoedd, dy ddal di, felly sut gall y tŷ hwn rydw i wedi ei adeiladu dy ddal di?
28 Nawr plîs tala sylw i fy ngweddi ac i fy nghais am drugaredd, O Jehofa fy Nuw, a gwranda ar fy nghri am help ac ar y weddi rydw i’n ei chyflwyno o dy flaen di heddiw.
29 Cadwa dy lygaid ar y tŷ hwn ddydd a nos, ar y lle hwn y dywedaist ti amdano, ‘Bydd fy enw i yno,’ er mwyn gwrando ar fy ngweddi pan fydda i, dy was, yn troi at y deml ac yn gweddïo.
30 A gwranda ar fy nghais am drugaredd ac ar gais dy bobl Israel wrth iddyn nhw weddïo i gyfeiriad y deml hon, a gwranda o’r nefoedd lle rwyt ti’n byw; ie, plîs gwranda arnon ni a maddau inni.
31 “Pan fydd dyn yn pechu yn erbyn dyn arall ac yn gorfod tyngu llw* y mae’n atebol iddo, ac yn dod o flaen dy allor yn y tŷ hwn ar ôl tyngu’r llw,
32 yna gwranda o’r nefoedd a gweithreda, a barna dy weision drwy gyhoeddi bod yr un drygionus yn euog a’i gosbi am beth mae ef wedi ei wneud, a thrwy gyhoeddi bod yr un cyfiawn yn ddieuog a’i wobrwyo yn ôl ei gyfiawnder.
33 “Pan fydd dy bobl Israel yn cael eu trechu gan elyn am eu bod nhw wedi parhau i bechu yn dy erbyn di, ond maen nhw wedyn yn troi yn ôl atat ti ac yn clodfori dy enw ac yn gweddïo ac yn erfyn arnat ti am drugaredd yn y tŷ hwn,
34 yna plîs gwranda o’r nefoedd a maddau i dy bobl Israel am eu pechod a thyrd â nhw yn ôl i’r wlad y gwnest ti ei rhoi i’w cyndadau.
35 “Pan fydd y nefoedd wedi cau a does ’na ddim glaw am eu bod nhw wedi parhau i bechu yn dy erbyn di, ond yna maen nhw’n troi at y lle hwn i weddïo ac yn clodfori dy enw ac yn troi yn ôl o’u pechod am dy fod ti wedi eu disgyblu nhw,*
36 yna plîs gwranda o’r nefoedd a maddau i dy weision, dy bobl Israel, am eu pechod, oherwydd byddi di’n eu dysgu nhw ynglŷn â’r ffordd dda y dylen nhw gerdded ynddi; ac yn dod â glaw ar y wlad gwnest ti ei rhoi i dy bobl fel etifeddiaeth.
37 “Os bydd newyn neu haint yn dod ar y wlad, os bydd y cnydau yn cael eu difetha gan lwydni, gwyntoedd poeth, neu heidiau o locustiaid;* os bydd eu gelyn yn ymosod arnyn nhw yn unrhyw un o ddinasoedd y wlad, neu os bydd unrhyw fath arall o bla neu haint yn digwydd,
38 pa bynnag weddi, pa bynnag gais am drugaredd y bydd yn cael ei wneud gan unrhyw ddyn neu gan dy holl bobl Israel (oherwydd mae pob un yn gwybod y boen sydd yn ei galon ei hun) pan fyddan nhw’n estyn eu dwylo allan tuag at y tŷ hwn,
39 yna plîs gwranda o’r nefoedd lle rwyt ti’n byw a maddau a gweithredu; a gwobrwya bob un yn ôl ei ffyrdd am dy fod ti’n adnabod ei galon (ti yn unig sy’n gwybod beth sydd ym mhob calon),
40 fel byddan nhw’n dy ofni di yr holl ddyddiau byddan nhw’n byw yn y wlad gwnest ti ei rhoi i’n cyndadau.
41 “Hefyd, ynglŷn â’r estronwr sydd ddim yn un o dy bobl Israel, ac sy’n dod o wlad bell oherwydd dy enw*
42 (oherwydd byddan nhw’n clywed am dy enw mawr ac am dy law gref ac am dy fraich sydd wedi ei hestyn allan i weithredu), ac sy’n dod ac yn gweddïo i gyfeiriad y tŷ hwn,
43 yna plîs gwranda o’r nefoedd lle rwyt ti’n byw, a gwna bopeth mae’r estronwr yn ei ofyn gen ti er mwyn i holl bobl y ddaear adnabod dy enw a dy ofni di, fel mae dy bobl Israel yn gwneud, ac er mwyn iddyn nhw wybod bod y tŷ hwn rydw i wedi ei adeiladu yn anrhydeddu dy enw.
44 “Os byddi di’n anfon dy bobl i ryfela yn erbyn eu gelynion, ni waeth ble maen nhw, ac maen nhw’n gweddïo ar Jehofa i gyfeiriad y ddinas rwyt ti wedi ei dewis, ac i gyfeiriad y tŷ rydw i wedi ei adeiladu er mwyn dy enw,
45 yna gwranda o’r nefoedd ar eu gweddi ac ar eu cais am drugaredd a gweithreda ar eu rhan.
46 “Os byddan nhw’n pechu yn dy erbyn di (oherwydd does ’na neb sydd byth yn pechu), ac os byddi di’n gwylltio’n lân â nhw ac yn gadael iddyn nhw syrthio i ddwylo eu gelynion, ac mae’r gelyn yn eu cymryd nhw i ffwrdd yn gaeth i’w gwlad, yn bell neu’n agos;
47 ac os byddan nhw wedyn yn callio yn y wlad lle maen nhw’n gaeth, ac yn troi yn ôl atat ti ac yn erfyn arnat ti am ffafr yng ngwlad eu gelynion gan ddweud, ‘Rydyn ni wedi pechu a gwneud drygioni,’
48 ac yna’n troi yn ôl atat ti â’u holl galonnau ac â’u holl eneidiau* yng ngwlad y gelynion a wnaeth eu cymryd nhw’n gaeth, ac yn gweddïo arnat ti i gyfeiriad y wlad a roddaist ti i’w cyndadau ac i gyfeiriad y ddinas rwyt ti wedi ei dewis a’r tŷ rydw i wedi ei adeiladu er mwyn dy enw,
49 yna o’r nefoedd lle rwyt ti’n byw, gwranda ar eu gweddi ac ar eu cais am drugaredd a gweithreda ar eu rhan,
50 a maddau i dy bobl am eu holl bechodau a’u troseddau yn dy erbyn di. A gwna i’w gelynion deimlo trueni drostyn nhw, a byddan nhw’n dangos trugaredd tuag atyn nhw
51 (oherwydd dy bobl di a dy etifeddiaeth di ydyn nhw, y rhai dest ti â nhw allan o’r Aifft, y ffwrnais sy’n toddi haearn).
52 Gad iti wrando ar gais dy was am drugaredd a gad iti wrando ar gais dy bobl Israel bob tro maen nhw’n gweddïo arnat ti am drugaredd.
53 Oherwydd gwnest ti eu gosod nhw ar wahân fel dy etifeddiaeth di allan o holl bobloedd y ddaear, yn union fel gwnest ti gyhoeddi drwy Moses dy was pan oeddet ti’n dod â’n cyndadau allan o wlad yr Aifft, O Sofran Arglwydd Jehofa.”
54 Unwaith i Solomon orffen cyflwyno’r weddi gyfan hon i Jehofa, a’r cais am drugaredd, cododd ar ei draed. Roedd wedi bod ar ei liniau o flaen allor Jehofa â’i ddwylo tua’r nefoedd.
55 Safodd a bendithio holl gynulleidfa Israel mewn llais uchel gan ddweud:
56 “Clod i Jehofa sydd wedi rhoi rhywle i’w bobl Israel orffwys, yn union fel gwnaeth ef addo. Does dim un gair allan o’r holl addewid da gwnaeth ef drwy Moses ei was wedi methu.
57 Gad i Jehofa ein Duw fod gyda ni yn union fel roedd gyda’n cyndadau. Gad iddo beidio â’n gadael ni na chefnu arnon ni.
58 Gad iddo ddenu ein calonnau tuag ato’i hun, er mwyn inni gerdded yn ei holl ffyrdd a chadw ei orchmynion, ei ddeddfau, a’i farnedigaethau y gwnaeth ef orchymyn i’n cyndadau eu dilyn.
59 A gad i fy ngeiriau, fy erfyniadau ar Jehofa am drugaredd, fod yn agos at Jehofa ein Duw ddydd a nos er mwyn iddo weithredu ar ran ei was ac ar ran ei bobl Israel yn ôl yr angen bob dydd,
60 er mwyn i holl bobloedd y ddaear wybod mai Jehofa yw’r gwir Dduw. Does ’na ddim Duw arall!
61 Felly gwasanaethwch Jehofa ein Duw â chalonnau cyflawn* drwy gerdded yn ei ddeddfau a thrwy gadw ei orchmynion fel rydych chi’n gwneud heddiw.”
62 Nawr dyma’r brenin ac Israel gyfan oedd gydag ef yn offrymu llawer o aberthau o flaen Jehofa.
63 Offrymodd Solomon yr aberthau heddwch i Jehofa: Offrymodd 22,000 o wartheg a 120,000 o ddefaid. A gwnaeth y brenin ac Israel i gyd ddathlu’r ffaith fod tŷ Jehofa wedi ei gwblhau.
64 Ar y diwrnod hwnnw roedd rhaid i’r brenin sancteiddio canol y cwrt sydd o flaen tŷ Jehofa, oherwydd dyna lle roedd rhaid iddo offrymu’r aberthau llosg, yr aberthau grawn, a braster yr aberthau heddwch, oherwydd roedd yr allor gopr sydd o flaen teml Jehofa yn rhy fach i gynnwys yr aberthau llosg, yr offrymau grawn, a braster yr aberthau heddwch.
65 Bryd hynny, gwnaeth Solomon gynnal yr ŵyl gydag Israel gyfan, cynulleidfa fawr o Lebo-hamath* i lawr at Wadi’r Aifft, o flaen Jehofa ein Duw am 7 diwrnod ac yna am 7 diwrnod arall, 14 diwrnod yn gyfan gwbl.
66 Y diwrnod wedyn,* anfonodd y bobl i ffwrdd, a dyma nhw’n bendithio’r brenin ac yn mynd adref yn llawen ac â chalonnau hapus oherwydd yr holl ddaioni roedd Jehofa wedi ei ddangos tuag at Dafydd ei was a thuag at ei bobl Israel.
Troednodiadau
^ Hynny yw, Gŵyl y Pebyll.
^ Hynny yw, llw fyddai’n dod â chosb ar yr un fyddai’n ei dorri.
^ Neu “eu gwneud nhw’n ostyngedig.”
^ Neu “o geiliogod y rhedyn; sioncod y gwair.”
^ Neu “dy enw da.”
^ Neu “hollol deyrngar.”
^ Neu “o fynedfa Hamath.”
^ Llyth., “Ar yr wythfed diwrnod,” hynny yw, y diwrnod ar ôl yr ail gyfnod o saith diwrnod.