Y Cyntaf at y Corinthiaid 10:1-33

  • Esiamplau rhybuddiol o hanes Israel (1-13)

  • Rhybuddio rhag addoli eilunod (14-22)

    • Bwrdd Jehofa, bwrdd y cythreuliaid (21)

  • Rhyddid ac ystyried pobl eraill (23-33)

    • ‘Gwneud popeth er gogoniant Duw’ (31)

10  Nawr, rydw i eisiau ichi wybod, frodyr, fod ein cyndadau i gyd wedi bod o dan y cwmwl a’u bod nhw i gyd wedi pasio drwy’r môr 2  ac fe gawson nhw i gyd eu bedyddio fel dilynwyr i Moses trwy gyfrwng y cwmwl a’r môr, 3  a gwnaethon nhw i gyd fwyta’r un bwyd ysbrydol 4  a gwnaethon nhw i gyd yfed yr un ddiod ysbrydol. Oherwydd roedden nhw’n arfer yfed o’r graig ysbrydol a oedd yn eu dilyn, a’r graig honno oedd y Crist.* 5  Eto i gyd, doedd Duw ddim yn hapus â’r rhan fwyaf ohonyn nhw, oherwydd fe gawson nhw eu lladd yn yr anialwch. 6  Nawr daeth y pethau hyn yn esiamplau i ni, er mwyn inni beidio â chwenychu pethau niweidiol, fel y gwnaethon nhw. 7  Peidiwch chwaith ag addoli eilunod, fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw, yn union fel mae’n ysgrifenedig: “Eisteddodd y bobl i fwyta ac yfed. Yna fe godon nhw i gael amser da.” 8  Peidiwn chwaith ag arfer anfoesoldeb rhywiol,* fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw gyflawni anfoesoldeb rhywiol,* dim ond iddyn nhw syrthio, 23,000 ohonyn nhw mewn un diwrnod. 9  Peidiwn chwaith â rhoi Jehofa ar brawf, fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw ei roi ar brawf, dim ond iddyn nhw gael eu lladd gan y nadroedd.* 10  Peidiwch chwaith â grwgnach, fel y gwnaeth rhai ohonyn nhw rwgnach, dim ond iddyn nhw gael eu lladd gan y dinistrydd. 11  Nawr fe ddigwyddodd y pethau hyn iddyn nhw fel esiamplau, ac fe gawson nhw eu hysgrifennu fel rhybudd i ninnau, y rhai y mae diwedd y systemau presennol wedi dod arnon ni. 12  Felly gadewch i’r un sy’n meddwl ei fod yn sefyll wylio rhag ofn iddo syrthio. 13  Does yr un temtasiwn wedi dod arnoch chi heblaw am yr hyn sy’n gyffredin i ddynion. Ond mae Duw yn ffyddlon, ac ni fydd yn gadael ichi gael eich temtio y tu hwnt i’r hyn rydych chi’n gallu ei oddef, ond bydd hefyd yn dangos y ffordd allan er mwyn ichi allu dyfalbarhau. 14  Felly, fy ffrindiau annwyl, ffowch oddi wrth addoli eilunod. 15  Rydw i’n siarad â chi fel dynion call; barnwch drostoch chi’ch hunain yr hyn rydw i’n ei ddweud. 16  Cwpan y fendith rydyn ni’n ei fendithio, onid yw’n gyfran o waed y Crist? Y dorth rydyn ni’n ei thorri, onid yw’n gyfran o gorff y Crist? 17  Gan fod ’na un dorth, rydyn ni, er ein bod ni’n llawer, yn un corff, oherwydd ein bod ni i gyd yn cyfranogi o’r un dorth honno. 18  Edrychwch ar Israel yn yr ystyr cnawdol: Onid ydy’r rhai sy’n bwyta’r aberthau yn cymryd rhan mewn addoli wrth yr allor? 19  Beth, felly, rydw i’n ei ddweud? Bod yr hyn sydd wedi cael ei aberthu i eilun yn rhywbeth, neu fod eilun yn rhywbeth? 20  Nage; ond rydw i’n dweud bod yr hyn mae’r cenhedloedd yn ei aberthu, maen nhw’n aberthu i gythreuliaid ac nid i Dduw; a dydw i ddim eisiau i chi gyfranogi gyda’r cythreuliaid. 21  Ni allwch chi yfed o gwpan Jehofa ac o gwpan y cythreuliaid; ni allwch chi fwyta o “fwrdd Jehofa” ac o fwrdd y cythreuliaid. 22  Neu ‘a ydyn ni’n gwneud i Jehofa fod yn eiddigeddus’? Dydyn ni ddim yn gryfach nag ef, nac ydyn? 23  Mae pob peth yn gyfreithlon,* ond dydy pob peth ddim yn fanteisiol. Mae pob peth yn gyfreithlon, ond dydy pob peth ddim yn adeiladu. 24  Gadewch i bob un barhau i geisio, nid ei fantais ei hun, ond mantais y person arall. 25  Bwytewch beth bynnag sy’n cael ei werthu yn y farchnad gig, heb holi dim o achos eich cydwybod, 26  oherwydd “Jehofa biau’r ddaear a phopeth sydd ynddi.” 27  Os ydy anghrediniwr yn eich gwahodd chi a chithau eisiau mynd, bwytewch beth bynnag sy’n cael ei osod o’ch blaen, heb holi dim o achos eich cydwybod. 28  Ond os ydy rhywun yn dweud wrthoch chi, “Rhywbeth sydd wedi ei offrymu yn aberth ydy hwn,” peidiwch â bwyta, o achos y sawl a ddywedodd wrthoch chi ac o achos cydwybod. 29  Dydw i ddim yn sôn am eich cydwybod chi, ond cydwybod y person arall. Pam dylai fy rhyddid i gael ei farnu gan gydwybod person arall? 30  Os ydw i’n bwyta fy mwyd ac yn diolch i Dduw amdano, pam dylai geiriau cas gael eu dweud amdana i o achos y bwyd rydw i’n diolch amdano? 31  Felly, p’run a ydych chi’n bwyta neu’n yfed neu’n gwneud unrhyw beth arall, gwnewch bopeth er gogoniant Duw. 32  Gwyliwch nad ydych chi’n baglu’r Iddewon na’r Groegiaid na chynulleidfa Duw, 33  yn union fel yr ydw i’n ceisio plesio pawb ym mhob peth, nid yn ceisio fy mantais fy hun, ond mantais pawb arall, er mwyn iddyn nhw gael eu hachub.

Troednodiadau

Neu “yn golygu’r Crist.”
Gweler Geirfa.
Gweler Geirfa.
Neu “seirff.”
Neu “yn ganiataol.”