Y Cyntaf at y Corinthiaid 13:1-13

  • Cariad​—ffordd sy’n llawer gwell (1-13)

13  Os ydw i’n siarad ieithoedd dynion ac angylion ond does gen i ddim cariad, gong swnllyd neu symbal croch ydw i. 2  Ac os oes gen i’r gallu i broffwydo ac i ddeall yr holl gyfrinachau cysegredig a phob gwybodaeth, ac os oes gen i’r holl ffydd fel y galla i symud mynyddoedd, ond does gen i ddim cariad, rydw i’n ddim byd.* 3  Ac os ydw i’n rhoi fy holl eiddo i fwydo eraill, ac os ydw i’n rhoi fy nghorff yn aberth er mwyn imi fedru brolio, ond does gen i ddim cariad, dydw i ddim yn elwa o gwbl. 4  Mae cariad yn amyneddgar a charedig. Nid yw cariad yn genfigennus. Nid yw’n brolio, nac yn cael ei chwyddo gan falchder, 5  nid yw’n ymddwyn yn anweddus,* nid yw’n hunanol, nid yw’n gwylltio. Nid yw’n cadw cyfri o gam. 6  Nid yw’n llawenhau oherwydd anghyfiawnder, ond mae’n llawenhau yn y gwir. 7  Mae’n goddef pob peth, yn credu pob peth, yn gobeithio pob peth, yn dal ati o dan bob peth. 8  Dydy cariad byth yn siomi.* Ond os oes ’na allu i broffwydo, bydd cael gwared arno; os oes ’na ieithoedd,* bydd taw arnyn nhw; os oes ’na wybodaeth, bydd cael gwared arni. 9  Oherwydd gwybodaeth anghyflawn sydd gynnon ni ac rydyn ni’n proffwydo yn anghyflawn, 10  ond pan fydd yr hyn sy’n gyflawn yn dod, bydd cael gwared ar yr hyn sy’n anghyflawn. 11  Pan oeddwn i’n blentyn, roeddwn i’n siarad fel plentyn, yn meddwl fel plentyn, yn rhesymu fel plentyn; ond nawr fy mod i wedi dod yn ddyn, rydw i wedi stopio ymddwyn fel plentyn. 12  Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweld yn aneglur fel petasen ni’n edrych mewn drych metel, ond yna byddwn ni’n gweld yn glir fel petasen ni wyneb yn wyneb. Bellach mae fy ngwybodaeth yn anghyflawn, ond yna bydd fy ngwybodaeth mor gyflawn â gwybodaeth Duw amdana i. 13  Nawr, fodd bynnag, mae’r tri hyn yn aros: ffydd, gobaith, cariad; ond y mwyaf o’r rhain ydy cariad.

Troednodiadau

Neu “yn dda i ddim.”
Neu “yn ddigywilydd.”
Neu “yn darfod.”
Hynny yw, siarad ieithoedd eraill yn wyrthiol.