Y Cyntaf at y Corinthiaid 15:1-58
15 Nawr rydw i’n eich atgoffa chi, frodyr, o’r newyddion da a gyhoeddais i chi, ac a dderbynioch chi, ac rydych chi wedi gwneud safiad o blaid y newyddion da hynny.
2 Trwy’r newyddion da rydych chi hefyd yn cael eich achub os ydych chi’n dal yn dynn yn y newyddion da hynny a gyhoeddais ichi, oni bai eich bod chi wedi dod yn gredinwyr i ddim byd.
3 Oherwydd ymhlith y pethau cyntaf y gwnes i eu trosglwyddo i chi oedd yr hyn y gwnes i hefyd ei dderbyn, hynny yw, fod Crist wedi marw dros ein pechodau yn ôl yr Ysgrythurau;
4 a’i fod wedi ei gladdu, a’i godi ar y trydydd dydd yn ôl yr Ysgrythurau;
5 a’i fod wedi ymddangos i Ceffas,* ac yna i’r Deuddeg.
6 Ar ôl hynny, ymddangosodd i fwy na 500 o frodyr ar un waith, ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn dal i fod gyda ni, er bod rhai wedi syrthio i gysgu mewn marwolaeth.
7 Ar ôl hynny, ymddangosodd i Iago, yna i’r holl apostolion.
8 Ond yn olaf un, fe ymddangosodd hefyd i mi fel i faban a gafodd ei eni cyn ei amser.
9 Oherwydd y fi yw’r lleiaf o’r apostolion, a dydw i ddim yn deilwng i gael fy ngalw yn apostol, gan fy mod i wedi erlid cynulleidfa Duw.
10 Ond drwy garedigrwydd rhyfeddol Duw, rydw i yr hyn ydw i. A doedd ei garedigrwydd rhyfeddol tuag ata i ddim yn ofer, ond fe wnes i lafurio yn fwy na phob un ohonyn nhw; eto nid yn fy nghryfder fy hun, ond caredigrwydd rhyfeddol Duw sydd gyda mi.
11 P’run ai fi neu nhw, felly, dyma sut rydyn ni’n pregethu, a dyma sut rydych chi wedi credu.
12 Nawr os ydyn ni’n pregethu bod Crist wedi cael ei godi o’r meirw, sut felly mae rhai yn eich plith yn dweud nad oes atgyfodiad y meirw?
13 Yn wir, os nad oes atgyfodiad y meirw, ni chafodd Crist ei atgyfodi chwaith.
14 Ond os nad ydy Crist wedi cael ei atgyfodi, mae ein pregethu yn bendant yn ofer, ac mae eich ffydd chithau hefyd yn ofer.
15 Ar ben hynny, rydyn ninnau hefyd wedi camdystiolaethu am Dduw, oherwydd ein bod ni wedi rhoi tystiolaeth yn erbyn Duw drwy ddweud ei fod ef wedi atgyfodi’r Crist, yr un na wnaeth ef ei atgyfodi os yw’n wir nad yw’r meirw am gael eu hatgyfodi.
16 Oherwydd os nad ydy’r meirw am gael eu hatgyfodi, dydy Crist ddim wedi cael ei atgyfodi chwaith.
17 Ymhellach, os nad ydy Crist wedi cael ei atgyfodi, mae eich ffydd chi yn dda i ddim; rydych chi yn eich pechodau o hyd.
18 Yna hefyd mae’r rhai sydd wedi syrthio i gysgu mewn marwolaeth mewn undod â Christ wedi darfod am byth.
19 Os ydyn ni wedi gobeithio yng Nghrist yn y bywyd hwn yn unig, dylen ni gael ein pitïo yn fwy na neb.
20 Ond nawr mae Crist wedi cael ei godi o’r meirw, blaenffrwyth y rhai sydd wedi syrthio i gysgu mewn marwolaeth.
21 Gan fod marwolaeth wedi dod trwy ddyn, mae atgyfodiad y meirw hefyd yn dod trwy ddyn.
22 Yn union fel y mae pawb yn marw yn Adda, felly hefyd y bydd pawb yn cael eu gwneud yn fyw yng Nghrist.
23 Ond pob un yn ei drefn briodol ei hun: Crist y blaenffrwyth, wedyn y rhai sy’n perthyn i’r Crist yn ystod ei bresenoldeb.
24 Nesaf, y diwedd, pan fydd yn trosglwyddo’r Deyrnas i’w Dduw, y Tad, pan fydd wedi dinistrio pob llywodraeth a phob awdurdod a grym.
25 Oherwydd mae’n rhaid iddo reoli fel brenin hyd nes y bydd Duw wedi gosod ei holl elynion o dan ei draed.
26 A bydd y gelyn olaf, marwolaeth, yn cael ei ddinistrio.
27 Oherwydd mae Duw “wedi darostwng pob peth o dan ei draed.” Ond pan fydd yn dweud bod ‘pob peth wedi cael ei ddarostwng,’ mae’n amlwg nad yw hyn yn cynnwys yr Un sydd wedi darostwng pob peth iddo ef.
28 Ond pan fydd pob peth wedi cael ei ddarostwng iddo ef, yna bydd y Mab hefyd yn ei ddarostwng ei hun i’r Un sydd wedi darostwng pob peth iddo ef, er mwyn i Dduw fod yn bob peth i bawb.
29 Fel arall, beth byddan nhw’n ei wneud, y rhai sy’n cael eu bedyddio ar gyfer bod yn farw? Os nad ydy’r meirw am gael eu hatgyfodi o gwbl, pam maen nhw hefyd yn cael eu bedyddio ar gyfer bod yn farw?
30 Pam rydyn ninnau hefyd mewn peryg bob awr?*
31 Bob dydd rydw i’n wynebu marwolaeth. Mae hyn yr un mor wir â fy ngorfoledd ynoch chi, frodyr, sydd gen i yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
32 Os fel dynion eraill,* rydw i wedi ymladd â bwystfilod gwyllt yn Effesus, pa les yw hynny i mi? Os nad ydy’r meirw am gael eu hatgyfodi, “gadewch inni fwyta ac yfed, oherwydd yfory rydyn ni’n mynd i farw.”
33 Peidiwch â chael eich camarwain. Mae cwmni drwg yn difetha arferion da.*
34 Calliwch, a hynny mewn ffordd gyfiawn, a pheidiwch â dal ati i bechu, oherwydd does gan rai ddim gwybodaeth am Dduw. Siarad rydw i er mwyn codi cywilydd arnoch chi.
35 Er hynny, bydd rhywun yn dweud: “Sut bydd y meirw yn cael eu hatgyfodi? Pa fath o gorff fydd ganddyn nhw pan fyddan nhw’n cael eu hatgyfodi?”
36 Peidiwch â bod mor afresymol! Dydy’r hyn rydych chi’n ei hau ddim yn cael ei wneud yn fyw oni bai ei fod yn gyntaf yn marw.
37 A’r hyn rydych chi’n ei hau ydy, nid y corff a fydd yn datblygu, ond gronyn noeth yn unig, p’run ai o wenith neu o ryw fath arall o had;
38 ond mae Duw yn rhoi corff iddo yn ôl ei ewyllys, ac mae’n rhoi i bob un o’r hadau ei gorff ei hun.
39 Dydy pob cnawd ddim yr un fath o gnawd, ond mae ’na gnawd dynol, mae ’na gnawd gwartheg, mae ’na gnawd adar, ac mae ’na gnawd pysgod.
40 Ac mae ’na gyrff nefol a chyrff daearol; ond mae gogoniant y cyrff nefol yn un math, a gogoniant y cyrff daearol yn fath gwahanol.
41 Mae gogoniant yr haul yn un math, ac mae gogoniant y lleuad yn fath arall, ac mae gogoniant y sêr yn fath arall; yn wir, mae un seren yn wahanol i seren arall mewn gogoniant.
42 Felly hefyd y mae yn achos atgyfodiad y meirw. Mae’r corff yn cael ei hau mewn llygredigaeth; mae’n cael ei atgyfodi mewn anllygredigaeth.
43 Mae’n cael ei hau mewn gwarth; mae’n cael ei atgyfodi mewn gogoniant. Mae’n cael ei hau mewn gwendid; mae’n cael ei atgyfodi mewn grym.
44 Corff dynol sy’n cael ei hau; corff ysbrydol sy’n cael ei atgyfodi. Os oes ’na gorff dynol, mae ’na gorff ysbrydol hefyd.
45 Felly hefyd y mae’n ysgrifenedig: “Daeth y dyn cyntaf Adda yn berson* byw.” Daeth yr Adda olaf yn ysbryd sy’n rhoi bywyd.
46 Fodd bynnag, nid yr hyn sy’n ysbrydol sy’n gyntaf. Yr hyn sy’n gorfforol sy’n gyntaf, ac wedyn yr hyn sy’n ysbrydol.
47 O’r ddaear mae’r dyn cyntaf, ac wedi ei wneud o lwch; o’r nef mae’r ail ddyn.
48 Mae’r un sydd wedi ei wneud o lwch yn debyg i’r rhai sydd wedi eu gwneud o lwch; ac mae’r un nefol yn debyg i’r rhai nefol.
49 Yn union fel rydyn ni wedi dod yn debyg i’r un sydd wedi ei wneud o lwch, byddwn ni hefyd yn debyg i’r un nefol.
50 Ond rydw i’n dweud hyn wrthoch chi, frodyr, nad ydy cig a gwaed yn gallu etifeddu Teyrnas Dduw, a dydy llygredigaeth ddim yn gallu etifeddu anllygredigaeth.
51 Edrychwch! Rydw i’n dweud wrthoch chi am gyfrinach gysegredig: Ni fyddwn ni i gyd yn syrthio i gysgu mewn marwolaeth, ond fe fyddwn ni i gyd yn cael ein newid,
52 mewn dim o amser, mewn chwinciad, yn ystod caniad y trwmped olaf. Oherwydd bydd y trwmped yn seinio, a bydd y meirw yn cael eu hatgyfodi yn anllygradwy, a byddwn ninnau’n cael ein newid.
53 Oherwydd mae’r hyn sy’n llygradwy yn gorfod gwisgo anllygredigaeth, ac mae’r hyn sy’n marw yn gorfod gwisgo anfarwoldeb.
54 Ond pan fydd yr hyn sy’n llygradwy yn gwisgo anllygredigaeth a’r hyn sy’n marw yn gwisgo anfarwoldeb, yna bydd yr ymadrodd sy’n ysgrifenedig yn dod yn wir: “Mae Marwolaeth wedi cael ei llyncu am byth.”
55 “Farwolaeth, lle mae dy fuddugoliaeth? Farwolaeth, lle mae dy frathiad?”
56 Y brathiad sy’n cynhyrchu marwolaeth ydy pechod, ac mae grym pechod yn dod o’r Gyfraith.
57 Ond diolch i Dduw, am ei fod yn rhoi’r fuddugoliaeth i ni drwy ein Harglwydd Iesu Grist!
58 Felly, fy mrodyr annwyl, byddwch yn gadarn, yn sefydlog, a gwnewch yn siŵr fod gynnoch chi bob amser ddigon i’w wneud yng ngwaith yr Arglwydd, gan wybod nad ydy eich llafur yng ngwaith yr Arglwydd yn ofer.
Troednodiadau
^ A elwir hefyd Pedr.
^ Neu “drwy’r amser?”
^ Neu efallai, “o safbwynt dynol.”
^ Neu “yn llygru moesau da.”
^ Neu “enaid.”