Cyntaf Cronicl 1:1-54

  • O Adda i Abraham (1-27)

  • Disgynyddion Abraham (28-37)

  • Yr Edomiaid a’u brenhinoedd a’u penaethiaid (38-54)

1  Adda,Seth,Enos,  Cenan,Mahalalel,Jared,  Enoch,Methwsela,Lamech,  Noa,Sem, Ham, a Jaffeth.  Meibion Jaffeth oedd Gomer, Magog, Madai, Jafan, Tubal, Mesech, a Tiras.  Meibion Gomer oedd Ascenas, Riffath, a Togarma.  Meibion Jafan oedd Elisa, Tarsis, Cittim, a Rodanim.  Meibion Ham oedd Cus, Misraim, Put, a Canaan.  Meibion Cus oedd Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabteca. Meibion Raama oedd Seba a Dedan. 10  Daeth Cus yn dad i Nimrod. Ef oedd y rhyfelwr pwerus cyntaf ar y ddaear. 11  Daeth Misraim yn dad i Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim, 12  Pathrusim, Casluhim (cyndad y Philistiaid), a Cafftorim. 13  Daeth Canaan yn dad i Sidon, ei gyntaf-anedig, a Heth, 14  ynghyd â’r Jebusiaid, yr Amoriaid, y Girgasiaid, 15  yr Hefiaid, yr Arciaid, y Siniaid, 16  yr Arfadiaid, y Semariaid, a’r Hamathiaid. 17  Meibion Sem oedd Elam, Assur, Arffacsad, Lud, ac Aram,ac* Us, Hul, Gether, a Mas. 18  Daeth Arffacsad yn dad i Sela, a daeth Sela yn dad i Eber. 19  Cafodd Eber ddau fab. Enw un ohonyn nhw oedd Peleg,* oherwydd yn ystod ei fywyd y cafodd poblogaeth y ddaear ei gwahanu. Enw ei frawd oedd Joctan. 20  Daeth Joctan yn dad i Almodad, Seleff, Hasarmafeth, Jera, 21  Hadoram, Usal, Dicla, 22  Obal, Abimael, Seba, 23  Offir, Hafila, a Jobab; y rhain i gyd oedd meibion Joctan. 24  Sem,Arffacsad,Sela, 25  Eber,Peleg,Reu, 26  Serug,Nachor,Tera, 27  Abram, hynny yw, Abraham. 28  Meibion Abraham oedd Isaac ac Ismael. 29  Dyma eu teuluoedd: Nebaioth, cyntaf-anedig Ismael, yna Cedar, Adbeel, Mibsam, 30  Misma, Duma, Massa, Hadad, Tema, 31  Jetur, Naffis, a Cedema. Dyma feibion Ismael. 32  Y meibion y gwnaeth Cetura, gwraig arall* Abraham, eu geni oedd Simran, Jocsan, Medan, Midian, Isbac, a Sua. Meibion Jocsan oedd Seba a Dedan. 33  Meibion Midian oedd Effa, Effer, Hanoch, Abida, ac Eldaa. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Cetura. 34  Daeth Abraham yn dad i Isaac. Meibion Isaac oedd Esau ac Israel. 35  Meibion Esau oedd Eliffas, Reuel, Jeus, Jalam, a Cora. 36  Meibion Eliffas oedd Teman, Omar, Seffo, Gatam, Cenas, Timna, ac Amalec. 37  Meibion Reuel oedd Nahath, Sera, Samma, a Missa. 38  Meibion Seir oedd Lotan, Sobal, Sibeon, Ana, Dison, Eser, a Disan. 39  Meibion Lotan oedd Hori a Homam. Chwaer Lotan oedd Timna. 40  Meibion Sobal oedd Alfan, Manahath, Ebal, Seffo, ac Onam. Meibion Sibeon oedd Aia ac Ana. 41  Mab Ana oedd Dison. Meibion Dison oedd Hemdan, Esban, Ithran, a Ceran. 42  Meibion Eser oedd Bilhan, Saafan, ac Acan. Meibion Disan oedd Us ac Aran. 43  Dyma’r brenhinoedd a oedd yn rheoli yng ngwlad Edom cyn i unrhyw frenin reoli dros yr Israeliaid: Bela fab Beor; enw ei ddinas oedd Dinhaba. 44  Pan fu farw Bela, dechreuodd Jobab fab Sera o Bosra reoli yn ei le. 45  Pan fu farw Jobab, dechreuodd Husam o wlad y Temaniaid reoli yn ei le. 46  Pan fu farw Husam, dechreuodd Hadad fab Bedad, yr un a wnaeth drechu’r Midianiaid yn nhiriogaeth Moab, reoli yn ei le. Enw ei ddinas oedd Afith. 47  Pan fu farw Hadad, dechreuodd Samla o Masreca reoli yn ei le. 48  Pan fu farw Samla, dechreuodd Saul o Rehoboth ger yr Afon reoli yn ei le. 49  Pan fu farw Saul, dechreuodd Baal-hanan fab Achbor reoli yn ei le. 50  Pan fu farw Baal-hanan, dechreuodd Hadad reoli yn ei le. Enw ei ddinas oedd Pau, ac enw ei wraig oedd Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab. 51  Yna bu farw Hadad. Penaethiaid* Edom oedd y Pennaeth Timna, y Pennaeth Alfa, y Pennaeth Jetheth, 52  y Pennaeth Oholibama, y Pennaeth Ela, y Pennaeth Pinon, 53  y Pennaeth Cenas, y Pennaeth Teman, y Pennaeth Mibsar, 54  y Pennaeth Magdiel, a’r Pennaeth Iram. Y rhain oedd penaethiaid Edom.

Troednodiadau

Meibion Aram yw’r canlynol. Gweler Ge 10:23.
Sy’n golygu “Gwahaniad.”
Neu “gwraig ordderch,” hynny yw, gwraig eilradd a oedd yn aml yn gaethferch.
Hynny yw, pennaeth llwyth.