Cyntaf Cronicl 10:1-14

  • Marwolaeth Saul a’i feibion (1-14)

10  Nawr roedd y Philistiaid yn brwydro yn erbyn Israel. A dyma ddynion Israel yn ffoi oddi wrth y Philistiaid, a chafodd llawer eu lladd ar Fynydd Gilboa.  Aeth y Philistiaid ar ôl Saul a’i feibion, a lladd Jonathan, Abinadab, a Malci-sua, meibion Saul.  Trodd y frwydr yn ffyrnig yn erbyn Saul, a daeth y bwasaethwyr o hyd iddo, a chafodd ei anafu ganddyn nhw.  Yna dywedodd Saul wrth y gwas a oedd yn cario ei arfau: “Tynna dy gleddyf a thrywana fi, fel na fydda i’n cael fy nhrin yn greulon gan y paganiaid* hyn.” Ond doedd y gwas ddim yn fodlon gwneud hynny oherwydd roedd ganddo ofn. Felly cymerodd Saul y cleddyf a syrthio arno.  Pan welodd gwas Saul ei fod wedi marw, syrthiodd yntau hefyd ar ei gleddyf ei hun a marw.  Felly dyma Saul a’i dri mab yn marw, yn ogystal â phawb a oedd yn ei dŷ.  Pan welodd holl bobl Israel yn y dyffryn* fod pawb wedi ffoi, a bod Saul a’i feibion wedi marw, dechreuon nhw adael eu dinasoedd a ffoi; yna daeth y Philistiaid i fyw yn y dinasoedd hynny.  Y diwrnod wedyn, pan ddaeth y Philistiaid i ysbeilio’r meirw, daethon nhw o hyd i gyrff Saul a’i feibion ar Fynydd Gilboa.  Felly dyma nhw’n torri pen Saul i ffwrdd ac yn cymryd ei arfwisg, ac yn anfon neges drwy wlad y Philistiaid i ledaenu’r newyddion yn nhemlau eu heilunod ac ymysg y bobl. 10  Yna rhoddon nhw ei arfwisg yn nheml eu duw a hoelio ei benglog ar wal tŷ Dagon. 11  Pan glywodd pawb yn Jabes yn Gilead am bopeth roedd y Philistiaid wedi ei wneud i Saul, 12  cododd y milwyr i gyd a chario corff Saul a chyrff ei feibion i ffwrdd. Daethon nhw â’r esgyrn i Jabes a’u claddu nhw o dan y goeden fawr yn Jabes, ac ymprydio am saith diwrnod. 13  Felly bu farw Saul oherwydd roedd ef wedi bod yn anffyddlon i Jehofa drwy anufuddhau i air Jehofa, a hefyd am ei fod wedi ymgynghori â chyfrynges ysbrydion* 14  yn hytrach na gofyn i Jehofa am ei arweiniad. Felly rhoddodd ef i farwolaeth a rhoi’r frenhiniaeth i Dafydd fab Jesse.

Troednodiadau

Llyth., “dynion heb eu henwaedu.”
Neu “gwastatir isel.”
Hynny yw, dynes sy’n honni ei bod hi’n gallu siarad â’r meirw.