Cyntaf Cronicl 11:1-47

  • Israel gyfan yn eneinio Dafydd yn frenin (1-3)

  • Dafydd yn cipio Seion (4-9)

  • Milwyr dewr Dafydd (10-47)

11  Ymhen amser daeth yr Israeliaid i gyd at Dafydd yn Hebron a dweud: “Edrycha! Rydyn ni’n perthyn i ti drwy waed.*  Yn y gorffennol, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yr un a oedd yn arwain brwydrau Israel. A dywedodd Jehofa dy Dduw wrthot ti: ‘Byddi di’n bugeilio fy mhobl Israel, a byddi di’n dod yn arweinydd dros fy mhobl Israel.’”  Felly, daeth holl henuriaid Israel at y brenin yn Hebron, a gwnaeth Dafydd gyfamod â nhw yn Hebron o flaen Jehofa. Yna dyma nhw’n eneinio Dafydd yn frenin ar Israel, yn ôl beth ddywedodd Jehofa drwy Samuel.  Yn hwyrach ymlaen, aeth Dafydd ac Israel gyfan allan i Jerwsalem, hynny yw Jebus, lle roedd y Jebusiaid yn byw yn y wlad.  Roedd pobl Jebus yn herio Dafydd gan ddweud: “Fyddi di byth yn dod i mewn i fan hyn!” Ond dyma Dafydd yn cipio caer Seion, sydd bellach yn cael ei galw’n Ddinas Dafydd.  Felly dywedodd Dafydd: “Bydd y cyntaf i daro’r Jebusiaid yn dod yn bennaeth ac yn dywysog.” Ac aeth Joab fab Seruia i fyny yn gyntaf, a daeth ef yn bennaeth.  Yna aeth Dafydd i fyw yn y gaer. Dyna pam gwnaethon nhw ei galw’n Ddinas Dafydd.  Dechreuodd ef waith adeiladu mewn gwahanol rannau o’r ddinas, ar y Bryn* ac o’i amgylch, a Joab wnaeth adnewyddu gweddill y ddinas.  Felly daeth Dafydd yn fwy ac yn fwy pwerus, ac roedd Jehofa y lluoedd gydag ef. 10  Nawr dyma benaethiaid milwyr dewr Dafydd a oedd, ynghyd ag Israel gyfan, eisiau iddo reoli drostyn nhw. Gwnaethon nhw i gyd helpu i’w wneud yn frenin yn union fel roedd Jehofa wedi addo i Israel. 11  Dyma restr o filwyr dewr Dafydd: Jasobeam, mab un o’r Hachmoniaid, pennaeth y tri. Un tro defnyddiodd ei waywffon i ladd 300 o ddynion. 12  Nesaf ato roedd Eleasar, mab Dodo yr Ahohiad. Roedd ef ymhlith y tri milwr dewr. 13  Hefyd roedd ef gyda Dafydd yn Pas-dammim, lle roedd y Philistiaid wedi casglu ar gyfer rhyfel. Nawr roedd ’na ddarn o dir yn llawn haidd, ac roedd y bobl wedi ffoi oherwydd y Philistiaid. 14  Ond safodd ynghanol y cae a’i amddiffyn a pharhaodd i daro’r Philistiaid i lawr fel bod Jehofa yn ennill buddugoliaeth fawr. 15  Aeth tri o’r 30 pennaeth i lawr at y graig, at Dafydd wrth ogof Adulam, tra oedd byddin o Philistiaid yn gwersylla yn Nyffryn* Reffaim. 16  Bryd hynny, roedd Dafydd yn y lloches ac roedd garsiwn o Philistiaid ym Methlehem. 17  A dywedodd Dafydd: “Byddwn i wrth fy modd yn cael yfed dŵr o’r ffynnon sydd wrth ymyl giât Bethlehem!” 18  Gyda hynny, dyma’r tri yn gwthio eu ffordd i mewn i wersyll y Philistiaid ac yn codi dŵr o’r ffynnon wrth ymyl giât Bethlehem, a daethon nhw â’r dŵr at Dafydd; ond gwrthododd Dafydd yfed y dŵr a dyma’n ei dywallt* ar y llawr o flaen Jehofa. 19  Dywedodd: “Alla i ddim hyd yn oed meddwl am wneud hyn o ystyried safbwynt fy Nuw! A ddylwn i yfed gwaed y dynion hyn a wnaeth fentro eu bywydau?* Oherwydd rhoddon nhw eu bywydau* yn y fantol er mwyn ei gael.” Felly gwrthododd ei yfed. Dyma’r pethau a wnaeth ei dri milwr dewr. 20  Daeth Abisai, brawd Joab, yn bennaeth ar dri arall; defnyddiodd ei gleddyf i ladd 300 o ddynion, ac roedd yn enwog fel y tri chyntaf. 21  Allan o’r tri milwr dewr, roedd ef yn fwy adnabyddus na’r ddau arall, ac ef oedd eu pennaeth; ond eto doedd ef ddim cystal â’r tri chyntaf. 22  Roedd Benaia fab Jehoiada yn ddyn dewr* a oedd wedi gwneud pethau mawr yn Cabseel. Tarodd ddau fab Ariel o Moab i lawr, ac aeth i mewn i bydew dŵr ar ddiwrnod o eira a lladd llew. 23  Gwnaeth ef hefyd daro i lawr Eifftiwr a oedd yn gawr o ddyn—pum cufydd* o daldra. Er bod gan yr Eifftiwr waywffon yn ei law a oedd mor fawr â thrawst gwehydd, aeth yn ei erbyn â ffon a chipio’r waywffon o law yr Eifftiwr a’i ladd â’i waywffon ei hun. 24  Dyma beth wnaeth Benaia fab Jehoiada, ac roedd yn enwog fel y tri milwr dewr. 25  Er ei fod yn fwy adnabyddus na gweddill y tri deg, doedd ef ddim cystal â’r tri chyntaf. Ond gwnaeth Dafydd ei benodi i fod yn bennaeth ar ei warchodlu ei hun. 26  Y rhain oedd milwyr dewr y fyddin: Asahel brawd Joab, Elhanan fab Dodo o Fethlehem, 27  Sammoth yr Haroriad, Heles y Peloniad, 28  Ira fab Icces y Tecoiad, Abi-eser o Anathoth, 29  Sibbechai yr Husathiad, Ilai yr Ahohiad, 30  Maharai o Netoffa, Heled fab Baana o Netoffa, 31  Ithai fab Ribai o Gibea yn Benjamin, Benaia o Pirathon, 32  Hurai o ddyffrynnoedd* Gaas, Abiel yr Arbathiad, 33  Asmafeth y Bahrumiad, Eliahba o Saalbim, 34  meibion Hasem y Gisoniad, Jonathan fab Sage yr Harariad, 35  Ahiam fab Sachar yr Harariad, Eliffal fab Ur, 36  Heffer y Mecherathiad, Aheia y Peloniad, 37  Hesro o Garmel, Naarai fab Esbai, 38  Joel brawd Nathan, Mibhar fab Hagri, 39  Selec yr Ammoniad, Naharai o Beeroth, sef gwas arfau Joab fab Seruia; 40  Ira yr Ithriad, Gareb yr Ithriad, 41  Ureia yr Hethiad, Sabad fab Alai, 42  Adina fab Sisa y Reubeniad, un o benaethiaid y Reubeniaid, a 30 gydag ef; 43  Hanan fab Maacha, Josaffat y Mithniad, 44  Usseia yr Asterathiad, Sama a Jehiel, meibion Hotham yr Aroeriad, 45  Jediael fab Simri, a’i frawd Joha y Tisiad; 46  Eliel y Mahafiad, Jeribai a Josafia, meibion Elnaam, ac Ithma y Moabiad; 47  Eliel, Obed, a Jasiel y Mesobaiad.

Troednodiadau

Llyth., “Rydyn ni o’r un asgwrn a chnawd.”
Neu “Milo.” Term Hebraeg sy’n golygu “llenwi.”
Neu “yng Ngwastatir Isel.”
Neu “arllwys.”
Neu “eu heneidiau?”
Neu “eu heneidiau.”
Llyth., “yn fab i ddyn dewr.”
Roedd ef tua 2.23 m (7.3 tr) o daldra.
Neu “wadïau.”