Cyntaf Cronicl 12:1-40

  • Cefnogwyr brenhiniaeth Dafydd (1-40)

12  Dyma’r dynion a ddaeth at Dafydd yn Siclag tra oedd yn cuddio oherwydd Saul fab Cis, ac roedden nhw ymhlith y milwyr dewr a oedd yn ei gefnogi mewn brwydr.  Roedden nhw wedi eu harfogi â’r bwa, ac roedden nhw’n gallu defnyddio naill ai’r llaw dde neu’r llaw chwith i daflu cerrig â ffon dafl neu i saethu saethau â’r bwa. Roedden nhw’n frodyr i Saul o Benjamin.  Ahieser oedd yn ben arnyn nhw, ac yna roedd ’na Joas, dau fab Semaa y Gibeathiad; Jesiel a Pelet meibion Asmafeth, Beracha, Jehu yr Anathothiad,  Ismaia y Gibeoniad, milwr dewr a oedd ymhlith y tri deg a thros y tri deg; hefyd Jeremeia, Jehasiel, Johanan, Josabad y Gederathiad,  Elusai, Jerimoth, Bealeia, Semareia, Seffatia yr Hariffiad,  Elcana, Iseia, Asareel, Joeser, a Jasobeam, y Corahiaid;  a Joela a Sebadeia meibion Jeroham o Gedor.  Aeth rhai o’r Gadiaid draw at ochr Dafydd wrth y lloches yn yr anialwch; roedden nhw’n filwyr dewr wedi eu hyfforddi ar gyfer rhyfela, yn sefyll yn barod gyda’u tarianau mawr a’u gwaywffyn. Roedd eu hwynebau fel wynebau llewod ac roedden nhw mor gyflym ar eu traed â’r gaseliaid ar y mynyddoedd.  Eser oedd y pennaeth, Obadeia oedd yr ail, Eliab oedd y trydydd, 10  Mismanna oedd y pedwerydd, Jeremeia oedd y pumed, 11  Attai oedd y chweched, Eliel oedd y seithfed, 12  Johanan oedd yr wythfed, Elsabad oedd y nawfed, 13  Jeremeia oedd y degfed, a Machbanai oedd yr unfed ar ddeg. 14  Roedd y rhain o blith y Gadiaid, penaethiaid y fyddin. Roedd yr un gwannaf cystal â 100 o filwyr, ac roedd yr un cryfaf cystal â 1,000 o filwyr. 15  Y rhain ydy’r dynion a wnaeth groesi’r Iorddonen yn y mis cyntaf pan oedd hi’n gorlifo ei glannau, a gwnaethon nhw yrru i ffwrdd bawb oedd yn byw yn y tir isel, i’r dwyrain ac i’r gorllewin. 16  Hefyd daeth rhai o ddynion Benjamin a Jwda at y lloches lle roedd Dafydd yn cuddio. 17  Yna aeth Dafydd allan o’u blaenau nhw a dweud wrthyn nhw: “Os ydych chi wedi dod ata i mewn heddwch er mwyn fy helpu i, yna bydda i’n eich croesawu chi fel ffrindiau. Ond os ydych chi wedi dod i fy mradychu i fy ngelynion, a minnau heb wneud unrhyw beth o’i le, gad i Dduw ein cyndadau ei weld a barnu.” 18  Yna daeth yr ysbryd ar Amasai, pennaeth y tri deg: “Rydyn ni ar dy ochr di, O Dafydd, ac rydyn ni gyda ti, O fab Jesse. Heddwch, heddwch i ti, a heddwch i’r un sy’n dy helpu di,Oherwydd dy Dduw sy’n dy helpu di.” Felly gwnaeth Dafydd eu croesawu nhw a’u penodi nhw ymhlith penaethiaid y milwyr. 19  Hefyd cefnodd rhai o lwyth Manasse ar Saul ac ochri gyda Dafydd pan ddaeth ef gyda’r Philistiaid i frwydro yn erbyn Saul; ond ni wnaeth ef helpu’r Philistiaid, oherwydd ar ôl ymgynghori dyma arglwyddi’r Philistiaid yn ei anfon i ffwrdd gan ddweud: “Bydd yn cefnu arnon ni ac yn ochri gyda’i arglwydd Saul, a byddwn ni’n talu â’n pennau.” 20  Dyma’r rhai o lwyth Manasse a wnaeth ochri gydag ef pan aeth i Siclag: Adna, Josabad, Jediael, Michael, Josabad, Elihu, a Silthai, penaethiaid ar fil o lwyth Manasse. 21  Gwnaethon nhw helpu Dafydd yn erbyn y grŵp o ladron, oherwydd roedden nhw i gyd yn ddynion cryf a dewr, a daethon nhw yn benaethiaid yn y fyddin. 22  Ddydd ar ôl dydd, roedd mwy o bobl yn dod at Dafydd i’w helpu nes bod y gwersyll mor fawr â gwersyll Duw. 23  Dyma’r nifer o filwyr a oedd wedi eu harfogi ar gyfer brwydro a ddaeth at Dafydd yn Hebron er mwyn ei wneud yn frenin yn lle Saul yn ôl gorchymyn Jehofa. 24  Roedd ’na 6,800 o ddynion Jwda wedi eu harfogi ar gyfer brwydro ac a oedd yn cario tarianau mawr a gwaywffyn. 25  O blith llwyth Simeon, roedd ’na 7,100 o ddynion cryf a dewr yn y fyddin. 26  O blith y Lefiaid, roedd ’na 4,600. 27  Jehoiada oedd arweinydd meibion Aaron, ac roedd ’na 3,700 gydag ef, 28  hefyd, daeth Sadoc, dyn ifanc a oedd yn gryf ac yn ddewr, ynghyd â 22 o benaethiaid o blith teulu estynedig ei dad. 29  O blith y Benjaminiaid, brodyr Saul, roedd ’na 3,000, ac roedd y mwyafrif ohonyn nhw wedi bod yn cefnogi tŷ Saul yn ffyddlon. 30  O blith llwyth Effraim, roedd ’na 20,800 o ddynion cryf a dewr a oedd yn enwog ymhlith eu grwpiau o deuluoedd. 31  O blith hanner llwyth Manasse, roedd 18,000 wedi cael eu dewis i ddod i wneud Dafydd yn frenin. 32  O blith llwyth Issachar, roedd ’na 200 o benaethiaid a oedd yn deall y sefyllfa ar y pryd ac yn gwybod beth dylai Israel ei wneud, ac roedd eu brodyr i gyd o dan eu hawdurdod. 33  O blith llwyth Sabulon, roedd 50,000 yn gallu gwasanaethu yn y fyddin. Roedden nhw’n eu trefnu eu hunain yn barod i ymosod gyda’r holl arfau rhyfel, a phob un yn ymuno â Dafydd yn hollol ffyddlon. 34  O blith llwyth Nafftali, roedd ’na 1,000 o benaethiaid, a gyda nhw roedd ’na 37,000 a oedd yn cario tarianau mawr a gwaywffyn. 35  O blith y Daniaid, roedd ’na 28,600 yn eu trefnu eu hunain yn barod i frwydro. 36  Ac o blith llwyth Aser, roedd ’na 40,000 yn gallu gwasanaethu yn y fyddin ac yn eu trefnu eu hunain yn barod i frwydro. 37  O ochr arall yr Iorddonen, o blith y Reubeniaid, y Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, roedd ’na 120,000 o filwyr oedd â phob math o arfau rhyfel. 38  Roedd y rhain i gyd yn filwyr a oedd yn sefyll ochr yn ochr yn barod i ryfela; daethon nhw i Hebron yn hollol benderfynol o wneud Dafydd yn frenin ar Israel gyfan, ac roedd gweddill Israel hefyd o’r un meddwl ac eisiau gwneud Dafydd yn frenin. 39  Ac arhoson nhw yno gyda Dafydd am dri diwrnod, yn bwyta ac yn yfed beth roedd eu brodyr wedi ei baratoi iddyn nhw. 40  Hefyd, roedd y rhai yn yr ardaloedd cyfagos, a hyd yn oed y rhai mor bell i ffwrdd ag Issachar, Sabulon, a Nafftali yn dod â bwyd iddyn nhw ar asynnod, camelod, mulod, a gwartheg—llawer iawn o flawd, cacennau o ffigys wedi eu gwasgu a resins, gwin, olew, a gwartheg a defaid, oherwydd roedd Israel yn llawenhau.

Troednodiadau